Cofnodion gwaith

Dyma lle dwi’n cofnodi fy ngwaith mor rheolaidd ag y medraf fi. Yn aml, myfyrio a ffurfio barn sydd yma. Meddwl yn uchel ar ffurff ysgrifennu. Dyma fy marn i, nid barn fy nghyflogwr.

Cofnodi wythnos 28 Gorffennaf

Dyma’r cofnod cyntaf ers sbel. Mae hynny’n bennaf oherwydd natur bytiog ambell brosiect a bod yn gyffredinol rhy brysur a blinedig! Dyma felly grynhoi fy wythnos ddiwethaf, sy’n eithaf nodweddiadol o’r wythnosau diweddar. Prosiectau Paratoi at ddigwyddiadau’r Eisteddfod Cyfieithiad Gweinyddol Cymuned Arall

Cofnodion wythnos 16 Mehefin

Gweithgarwch Fe es i gyfarfod o gymuned ymarfer mewnol tîm dylunio cynnwys y Brifysgol Agored. Cawson ni hwyl a sgwrs dda am ddylunio dwyieithog a chydweitho ac fe wnes i hwrjo rhai o fy sleids arnyn nhw cyn y diwedd (ar ôl i minnau eu cynllunio mor ofalus!). Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael gwahoddiad.

Cofnodion wythnos 13 Mehefin

Gweithgarwch yr wythnos Bûm yn parhau i olygu a chyd-gyfieithu’r llyfr hygyrchedd. Diolch i Jo a Catrin am gydweithio ar hyn. Mae wedi bod yn debycach i olygu rhifyn o gyfnodolyn na chyfres o erthyglau byrion. Mae felly wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl. Yn ymarferol, rydw i wedi: Mae’n siŵr bod elfennau o’r

Cofnodion wythnos 6 Mehefin

Gweithgarwch yr wythnos Golygu a chyfieithu’r llyfr hygyrchedd. Mae’n debyg fod wedi troi yn fwy o dasg nac oeddwn i’n ddisgwyl dros y pythefnos diwethaf. Rydyn ni’n cael y maen i’r wal ac mae’n bwysig rhoi’r sylw dyledus iddo. Mae Catrin wedi gwneud gwaith arbennig yn cyfieithu hefyd. Dwi’n gobeithio rhannu mwy am y broses

Cofnodion wythnos 24 Ionawr 2025

Be wnes i’r wythnos yma Cwblhau 2 werthusiad chwarterol ac adolygiad 12 mis – maen nhw i gyd wedi’u cwblhau erbyn hyn! Diolch byth. Mae’r rhain yn dod yn go sydyn! Wedi cwblhau fy ngwerthusiad fy hun. Ddydd Mawrth cawson ni glinig cynnwys yn y gymuned Cynnwys. Roedd hyn yn wych, ac roeddwn yn falch