Cofnodion wythnos 13 Mehefin

Gweithgarwch yr wythnos

Bûm yn parhau i olygu a chyd-gyfieithu’r llyfr hygyrchedd. Diolch i Jo a Catrin am gydweithio ar hyn. Mae wedi bod yn debycach i olygu rhifyn o gyfnodolyn na chyfres o erthyglau byrion. Mae felly wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl.

Yn ymarferol, rydw i wedi:

  • golygu’r Saesneg yn y lle cyntaf (fi a Jo)
  • defnyddio Phrase i rag-gyfieithu’r gwaith
  • llunio geirfa dechnegol am y maes hygyrchedd digidol a’i lwytho i’r bas data termau yn Phrase
  • golygu’r cyfieithiad ar y cyd (fi a Catrin) yn Phrase.
  • nodi sylwadau am y Saesneg yn Phrase – gwallau neu frawddegau gorgymalog, ailadroddus neu ddiystyr
  • cynnal sesiwn olygu triawd gyda Jo a Catrin i olygu’r Saesneg
  • rhagor o olygu unigol yn Phrase (gyda Catrin)
  • lawrlwytho’r cyfieithiad golygedig o Phrase
  • ôl-olygu’r Gymraeg mewn dogfen Word (fi a Catrin)

Mae’n siŵr bod elfennau o’r llif gwaith yma fyddai’n dychryn rhai! Ond bu manteision gwneud pethau fel hyn yn hytrach na chwblhau’r Saesneg a chyfieithu’r Gymraeg wedyn.

Un o’r ffyrdd gorau o ganfod geiriau diangen a brawddegau disytyr yw eu cyfieithu. Heb ffordd o adrodd hynny yn ôl i’r awdur (a heb awdur sy’n barod i dderbyn adborth) yna bydd y Saesneg yn parhau felly. Ac yn sgil hynny weithiau, bydd angen creu cynnwys disytyr yn Gymraeg i gyfateb i’r Saesneg. Mae cydweithio yn gwella’r cynnwys yn y ddwy iaith.

Mae hynny’n fy atgoffa o wers y Prifardd Ceri Wyn Jones i Gymdeithas Taliesin ym Mhrifsygol Aberystwyth flynyddoedd yn ôl. Mae hon yn llinell llawn sŵn hyfryd y gynghanedd fyddai’n twyllo’r glust yn hawdd:

Oer a gwyn yw’r eira i gyd

Ond cyfieithwch hi a be gewch chi?

All the snow is white and cold

Dydi hi ddim mor grefftus bellach!

Roedd ôl-olygu’r Gymraeg mewn dogfen Word y tu allan i Phrase yn hanfodol hefyd. Heb ‘styrbans’ y Saesneg, roedd modd gweld ambell beth mewn goleuni cwbl Gymraeg – fel bod modd ystwytho’r iaith ymhellach i fod yn fwy naturiol.

Mae rhannau o’r llyfr yn adlewyrchu iethwedd dechnegol y maes hygyrchedd ond dwi’n credu ein bod wedi gwneud gwaith da yn Cymreigio’r cyfan, nid dim ond ei gyfieithu.

Uchafbwyntiau

Dydd Mawrth, cawson ni ddod at ein gilydd fel sefydliad. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl. Roedd y diwrnod yn teimo’n wahanol i’r rhai blaenorol hefyd, gyda ffocws penodol iawn ar 12 mis nesa CDPS. Rydw i’n lwcus i weithio mewn sefydliad o bobl mor alluog ac angerddol.

Fe ges i sgwrs wych gydag aelod o’r gymuned Dylunio Cynnwys Cymru. Dyma rywun mewn rôl cynnwys sy’n esblygu ac mewn sefydliad sy’n tyfu yng Nghymru. Mae gwaith pwysig o’u blaen. Roedd yn dda trafod heriau, ofnau a gobeithion y dylunydd cynnwys. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad i weld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo, gan obeithio gallu rhannu hynny gyda’r gymuned wrth fynd ymlaen.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *