Cofnodion wythnos 16 Mehefin

Gweithgarwch

Fe es i gyfarfod o gymuned ymarfer mewnol tîm dylunio cynnwys y Brifysgol Agored. Cawson ni hwyl a sgwrs dda am ddylunio dwyieithog a chydweitho ac fe wnes i hwrjo rhai o fy sleids arnyn nhw cyn y diwedd (ar ôl i minnau eu cynllunio mor ofalus!). Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael gwahoddiad.

Fe wnes i hefyd gyhoeddi rhai adnoddau dylunio dwyieithog i’w rhoi i’r tîm yn y Brifysgol Agored. Fe wnes i hyn ar GitHub. Dwi wedi bod yn archwilio hyn fel modd o weithio’n agored (cyhoeddi’r peth, nid dim ond siarad amdano yma). Mae’n weddol syml i wneud hyn ac yn ffordd o driealu syniadau i greu adnoddau mwy ffurfiol y medrwn eu cyhoeddi ar wefan CDPS, er enghraifft. 

Cyhoeddais erthygl am AI, cyfieithu a’r Gymraeg. Eto, gyda’r bwriad o rannu syniadau fyddai fel arall mewn ffolder mewnol ac ond wedi’u rhannu gyda rhai pobl. Dwi’n cael fy nhalu’n gyhoeddus, felly pam lai ei rannu’n gyhoeddus. Hoffwn i’r syniadau sbarduno eraill hefyd, boed nhw’n anghytuno neu gytuno. Gwaith meddwl ydi hwn ar hyn o bryd.

Uchafbwyntiau

Yng nghymuned ymarfer Dylunio Cynnwys Cymru, daeth Russell Davies aton ni i drafod y grefft o gyflwyno. Roeddwn i wrth fy mod. Dywedodd rhywbeth ysbrydoledig:

– “Writing is thinking, presenting is deciding”

Dyma’n aml yw ysgrifennu fel hyn – myfyrio a meddwl. Mae’r syniad o ‘benderfynu’ ar ffurf cyflwyniad yn taro deuddeg. Mewn cyd-destun busnes, mae rhywun yn cyflwyno i roi barn, dwyn perswad neu ddylanwadu. Yn debyg, mae perfformio byw yn fater o berswadio a rhoi barn ar ffurf yr hyn rydych chi eisoes wedi myfyrio arno. Ar lwyfan, mae angen i chi argyhoeddi cynulleidfa.

Es i hefyd i gyfarfod Jo, Josh a Fernando i edrych ar lawygrif y llyfr hygyrchedd. Mae’r dyluniad yn edrych yn wych. Dwi’n awyddus i gael darlleniad olaf erbyn hyn er mwyn iddo fynd i’r wasg.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *