Dros y blynyddoedd rydw i wedi cynnal nifer o weithdai cynghanedd a barddoniaeth. O weithdai dydd gyda phobl ifanc i weithdai nos gyda phobl hŷn. Mae brwdfrydedd pobl i ddeall barddoniaeth a’r gynghanedd yn gwneud dysgu yn bleser.
Erthyglau
Gweithdai a hyfforddiant
Dysgu Cynganeddu i Ddechreuwyr
Dyddiad: 12/10/2021 – 08/03/2022
Yn ystod 2021/22 roeddwn yn dysgu cynganeddu i griw o ddechreuwyr dros Zoom. Menter Caerdydd oedd yn cynnal y gwersi. Os hoffech ymuno â gwersi gyda’r fenter yn y dyfodol, cysylltwch â nhw i fod ar y rhestr aros.
Cyflwyniad i’r Gynghanedd
Dyddiad: 09/06/2020
Rhoddais Gyflwyniad i’r Gynghanedd fel un o ddarlithoedd AmGen yr Wythnos yr Eisteddfod. Cyflwynais ychydig o hanes y gynghanedd a hanfodion y grefft dros blatfform Zoom.
Cyflwyniad i’r Gynghanedd
Dyddiad: 07/08/2019
Lleoliad Pabell Prifysgol Caerdydd, Maes yr Eisteddfod.
Fe wnes gynnal cyflwyniad i’r gynghanedd ar ffurf gwibdaith gynganeddol ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar faes Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Gweithdy Cywydd Croeso yr Urdd
Dyddiad: 14/12/2017
Cefais y fraint o gynnal gweithdy gyda phobl ifanc ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro er mwyn dechrau creu cywydd croeso Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019.
Sgwad Sgwennu
Dyddiad: 29/11/2017
Lleoliad Ysgol Gyfun Gymraeg Plas Mawr Pentrebane Rd, Caerdydd CF5 3PZ
Mi wnes i gynnal Sgwad Sgwennu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plas Mawr oedd yn cynnwys disgyblion blwyddyn 8 o wahanol ysgolion dalgylch Caerdydd.
Ysgol Farddol Menter Caerdydd
Dyddiad: 12/10/2012 – 15/03/2018
Dros gyfnod o rhai blynyddoedd bûm yn cynnal gweithdai ‘Ymarfer y Grefft’, sef gweithdai i’r rhai sydd a pheth profiad neu sydd eisoes yn deall hanfodion y grefft.