Gweithgarwch yr wythnos
Golygu a chyfieithu’r llyfr hygyrchedd. Mae’n debyg fod wedi troi yn fwy o dasg nac oeddwn i’n ddisgwyl dros y pythefnos diwethaf. Rydyn ni’n cael y maen i’r wal ac mae’n bwysig rhoi’r sylw dyledus iddo. Mae Catrin wedi gwneud gwaith arbennig yn cyfieithu hefyd. Dwi’n gobeithio rhannu mwy am y broses cyn hir gan feddwl am sut i ‘roi trefn’ ar y broses honno fel bod modd ystyried ei defnyddio neu ei haddasu yn y dyfodol. Ces i hefyd gip ar ddyluniad gweledol Josh ac mae’n edrych yn gampus!
Ysgrifennu at swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar eu cais gyda syniadau ac ystyriaethau am rôl deallusrwydd artiffisial (AI) a’r Gymraeg. Dyma faes lle nad oes gen i lawer o arbenigedd ar yr ochr dechnegol ond dwi wedi myfyrio tipyn ar sut y gall AI newid rolau dylunwyr gwasanaethau, cyfieithwyr a chyfathrebwyr yn y dyfodol. Dwi’n ansicr beth yw barn a theimladau cyfieithwyr am hynny, a tydw i ddim am siarad ar eu rhan. Dwi’n bwriadu mynd i gynhadledd Cymdeithas y Cyfieithwyr yn hwyrach yn y mis i weld beth yw’r farn ymhlith cyfieithwyr. Mi wna i rannu’r sylwadau hynny yma cyn hir. Diolch i Pete am sgwrs ddifyr am hyn.
Gwneud mymryn o waith gweinyddol yn arwain at y sesiwn Dylunio Cynnwys Cymru dydd Mawrth nesaf. Dwi’n edrych ymlaen i glywed gan Russel Davies!
Bore Mercher roeddwn i yn cyfweld – mae rhywun wastad yn anghofio faint o ymdrech ymarferol a meddyliol sy’n mynd i hyn!
Uchafbwyntiau
Crit cynnwys y llawlyfr gwasanaeth: diolch i Ruth ac Alex M am sesiwn arbennig. Mae’n dda teimlo’n agosach at waith cynnwys hefyd, dim ond i allu cynnig fy arbenigedd heb ddisgwyl i neb arall dderbyn na gweithredu ar yr adborth. Hoffwn inni wneud mwy o hyn ac fe wna i weithio gyda’r uwch-ddylunwyr eraill i weld be sy’n bosib. Roedd crits cynnwys ar fy meddwl gan inni redeg sesiwn ar hynny yn ein sesiwn gymunedol diweddaraf.
Sioe dangos a dweud mewnol – roeddwn i’n amheus a fyddai hyn yn llwyddo (gan inni drio rhywbeth tebyg o’r blaen). Ond roedd yn wych. Dwi’n meddwl mai’r gwahaniaeth yw bod gan y sgwadiau ffocws penodol a bod 5 munud yn hytrach na 2 neu 3 jyst yn ddigon. Y peryg fydd mynd i rigol, a dyna sydd angen ei osgoi.
Sesiwn Matt Jukes – fe wnes i fwynhau hwn yn fawr ac felly wedi’i fy ysbrydoli i sgwennu eto!
Derbyniais gynnig cyffrous iawn na wnaf ddatgelu rŵan – bydd mwy i’w rannu cyn hir!