Rydw i wedi bod yn gwneud llawer o waith yn hyrwyddo barddoniaeth a beirdd. Yn 2011 roeddwn yn un o sefydlwyr nosweithiau Bragdy’r Beirdd yn y brifddinas, ynghyd â Catrin Dafydd a Rhys Iorwerth. Rydw i hefyd yn rhan Bwyllgor Gwaith Barddas ers 2017.
Gwaith hyrwyddo
Swig Sydyn 1
Dyddiad: 29/05/2020
Roeddwn yn rhan o’r tîm a lansiodd sioe gyntaf Swig Sydyn – sef noson ar-lein gyntaf Bragdy’r Beirdd, ar y cyd â Rhys Iorwerth, Llŷr Gwyn Lewis ac Ifor ap Glyn. Roeddwn yn gyfrifol am recordio’r digwyddiad, golygu’r fideo a’i rannu ar YouTube a Facebook.
Gwir fel Gwydir
Dyddiad: 06/08/2019
Lleoliad Gwesty’r Eryrod, Ancaster Square, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LG
Trefnu a pherfformio cerdd yn noson Gwir fel Gwydir. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Cydlynu Cynllun Bardd y Mis i Barddas
Dyddiad: 01/08/2018 – 01/08/2020
Fel aelod o Bwyllgor Gwaith Barddas, rydw i yn cydlynu cynllun Bardd y Mis, gan drefnu beirdd i gymryd rhan yn y cynllun.
Noson Wylfa Beirdd
Dyddiad: 08/08/2017
Lleoliad Fferm Penrhos, Bodedern
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Wylfa Beirdd – noson yn cyflwyno cerddi a chaneuon hwyliog a deifiol, dwys a digri yn dathlu Mawredd Môn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Anntastig
Dyddiad: 04/08/2015
Lleoliad Clwb Rygbi COBRA, Meifod SY22 6DA
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Anntastig – noson o gerddi a chaneuon i ddathlu mawredd a mwynder Maldwyn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dathlu Wythnos Tafwyl gyda Mr Phormula a mwy
Dyddiad: 03/07/2015
Lleoliad Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN
Noson hwyliog yn ystod wythnos Tafwyl 2015. Roedd Aneirin Karadog a Mr ormula yn westeion a Meic P yn DJ aer y noson.
Parti Nadolig Bragdy’r Beirdd, Rhagfyr 2014
Dyddiad: 11/12/2014
Bûm yn trefnu a pherfformio ym mharti Nadolig y Bragdy yn 2014. Cawsom groesawu neb llai na Phrifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, Guto Dafydd fel gwestai.
Yn y Coch!
Dyddiad: 06/08/2014
Lleoliad Clwb Criced Llanelli
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson ‘Yn y Coch’ yn Llanelli. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Siwper Cêt ac Ambell Fêt
Dyddiad: 06/08/2013
Lleoliad Clwb Rygbi Dinbych, Ffordd Y Graig, Denbigh LL16 5US
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Siwper Cêt ac Ambell Fêt – sesiwn i ddathlu campau a rhempau llenyddol Bro Dinbych. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Bragdy’r Beirdd Medi 2012
Dyddiad: 27/09/2012
Lleoliad Rockin’ Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
Roeddwn yn cyd-drefnu ac yn perfformio mewn noson gyda Mari George a Gruffudd Owen fel gwesteion. Un o ddigwyddiadau Bragdy’r Beirdd
Iolo!
Dyddiad: 07/08/2012
Lleoliad Yr Hen Hydd Gwyn, Wine St, Llanilltyd Fawr CF61 1RZ
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Iolo! – sesiwn i ddathlu campau a rhempau Iolo Morganwg. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Geraint Jarman yn Bragdy’r Beirdd
Dyddiad: 21/06/2012
Lleoliad Rockin' Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
Cyd-drefnais noson Bragdy’r Beirdd arbennig iawn gyda geraint jarman, gwennan Evans a Llwybr Llaethog yn westeion. Darllenodd Geraint gerddi dafliad carreg o lle cafodd ei fagu ar Brook Street, Glan yr Afon.