
Bardd Cymraeg ydw i. Enillais y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017 ac dwi’n aelod o dîm talwrn y Glêr a fu’n fuddugol ddwywaith ar gyfres Talwrn y Beirdd BBC Cymru (hyd yn hyn). Dwi’n perfformio fy ngwaith yn aml mewn nosweithiau barddol hyd y wlad.
Cerddi
Gweld cerddi o bob math
Gweld pob cerdd sydd ar y wefan →
Gigs
Dyddiad: 6 Awst, 2020
Bûm yn cymryd rhan yn Zoomryson Barddas – yr ymryson barddol cyntaf i’w gynnal a’i ddarlledu yn fyw ar y we. Roeddwn yn rhan o dîm Llŷn ac Eifionydd gyda Gruffudd Owen, Casia Wiliam, Judith Musker Turner ac Osian Owen.
Dyddiad: 5 Rhagfyr, 2019
Lleoliad: Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN
Bûm yn cyd-drefnu noson gyda Barddas i lansio cyfrol Chwyn, dan olygyddiaeth Gruffudd Owen. Roeddwn hefyd yn perfformio rhai cerddi.
Dyddiad: 22 Tachwedd, 2019
Lleoliad: Festri Capel y Ffôr, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6UP
Cefais y cyfle i gyflwyno cerddi a thrafod barddoniaeth gyda Guto Dafydd fel rhan o noson i godi arian i Eisteddfod Y Ffôr.
Dyddiad: 21 Tachwedd, 2019
Lleoliad: Adeilad John Percival, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
Bûm yn perfformio rhai cerddi i fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd fel rhan o’u modiwl, Canu’r Gymru Gyfoes.
Dyddiad: 17 Tachwedd, 2019
Dyma un o ddigwyddiadau Bragdy’r Beirdd i ddathlu llwyddiant Jim Parc Nest.
Dyddiad: 16 Hydref, 2019
Lleoliad: Capel Cymraeg Salem, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QF
Cymerais ran mewn stomp i godi arian i feithrinfeydd Cymraeg Treganna. Llio Maddocks oedd y bardd buddugol!
Dyddiad: 14 Hydref, 2019
Lleoliad: Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN
Cefais y cyfle i lywio noson o gerddoriaeth a cherddi i ddathlu lansio nofel Iwcs Dal y Mellt.Cefais y cyfle hefyd i holi Iwcs am ei nofel newydd.
Dyddiad: 6 Awst, 2019
Lleoliad: Gwesty’r Eryrod, Ancaster Square, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LG
Trefnu a pherfformio cerdd yn noson Gwir fel Gwydir. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dyddiad: 6 Awst, 2018
Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Roeddwn yn un o’r criw a drefnodd y Siwperstomp ar lwyfan Theatr Donald Gordon ar nos Lun Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Perfformiais gerdd hefyd i agor y noson.
Dyddiad: 8 Awst, 2017
Lleoliad: Fferm Penrhos, Bodedern
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Wylfa Beirdd – noson yn cyflwyno cerddi a chaneuon hwyliog a deifiol, dwys a digri yn dathlu Mawredd Môn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dyddiad: 26 Mehefin, 2016
Lleoliad: Castell Caerdydd
Cymerais ran mewn darllediad arbennig o’r Talwrn o faes Tafwyl 2016.
Dyddiad: 21 Ebrill, 2016
Lleoliad: Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Cymerias ran mewn stomp i blant fel rhan o Ŵyl Llên Plant Caerdydd.
Dyddiad: 26 Tachwedd, 2015
Lleoliad: Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN
Darllenais gerdd i gyfarch Llŷr Gwyn Lewis wrth iddo lansio cyfrol o’r enw Storm ar Wyneb yr Haul.
Dyddiad: 4 Awst, 2015
Lleoliad: Clwb Rygbi COBRA, Meifod SY22 6DA
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Anntastig – noson o gerddi a chaneuon i ddathlu mawredd a mwynder Maldwyn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dyddiad: 3 Gorffennaf, 2015
Lleoliad: Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN
Noson hwyliog yn ystod wythnos Tafwyl 2015. Roedd Aneirin Karadog a Mr ormula yn westeion a Meic P yn DJ aer y noson.
Dyddiad: 11 Rhagfyr, 2014
Bûm yn trefnu a pherfformio ym mharti Nadolig y Bragdy yn 2014. Cawsom groesawu neb llai na Phrifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, Guto Dafydd fel gwestai.
Dyddiad: 8 Awst, 2014
Lleoliad: Stradey Arms, 1 Stradey Rd, Ffwrnais Llanelli SA15 4ET
Bûm yn perfformio cerddi fel rhan o Stomp yr Eisteddfod 2014. Roedd y rownd gyntaf fymryn yn wahanol. Nid oedd y beirdd yn y rownd hon yn cael datgan eu cerdd heb gymorth dim byd heblaw eu cof.
Dyddiad: 6 Awst, 2014
Lleoliad: Clwb Criced Llanelli
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson ‘Yn y Coch’ yn Llanelli. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dyddiad: 1 Mehefin, 2014
Lleoliad: Urban Tap House, Caerdydd. CF10 1DD
Darllenais gerdd i gyfarch Llŷr Gwyn Lewis wrth iddo lansio cyfrol o’r enw Storm ar Wyneb yr Haul.
Dyddiad: 25 Mawrth, 2014 – 26 Mawrth, 2014
Lleoliad: Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Cymerias ran mewn stomp i blant fel rhan o Ŵyl Llên Plant Caerdydd.
Dyddiad: 6 Awst, 2013
Lleoliad: Clwb Rygbi Dinbych, Ffordd Y Graig, Denbigh LL16 5US
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Siwper Cêt ac Ambell Fêt – sesiwn i ddathlu campau a rhempau llenyddol Bro Dinbych. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dyddiad: 22 Mehefin, 2013
Lleoliad: Clwb Golff Dinbych
Cymerais ran mewn stomp i godi arian i Eisteddfod genedlaethol Dinbych 2013.
Dyddiad: 20 Ebrill, 2013
Lleoliad: Galeri, Doc Fictoria Caernarfon LL55 1SQ
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 15 Chwefror, 2013
Lleoliad: Clwb y Diwc, 48 Clive Road, Treganna, Caerdydd, CF5 1HJ
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 8 Chwefror, 2013
Lleoliad: Saith Seren, 7 Stryt Gerallt, Wrecsam, LL11 1EH.
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 1 Chwefror, 2013
Lleoliad: Theatr Gartholwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 25 Ionawr, 2013
Lleoliad: Tafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd LL23 7UB
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 23 Tachwedd, 2012
Lleoliad: Neuadd Bentref Llanystumdwy, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW.
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 21 Tachwedd, 2012
Lleoliad: Neuadd Bentref Llanystumdwy, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW.
Cymerais ran yng Ngornest Fawr yr Wŷl yn Neuadd Llanystumdwy. Y wobr oedd Pastwn fawr bren a theitl ‘Pencerdd Tŷ Newydd 2012’.
Dyddiad: 20 Tachwedd, 2012
Lleoliad: Gwesty’r Eryrod, Ancaster Square, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LG
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 27 Medi, 2012
Lleoliad: Rockin’ Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
Roeddwn yn cyd-drefnu ac yn perfformio mewn noson gyda Mari George a Gruffudd Owen fel gwesteion. Un o ddigwyddiadau Bragdy’r Beirdd
Dyddiad: 8 Awst, 2012
Lleoliad: Theatr, Maes yr Eisteddfod, Llandŵ, Bro Morgannwg
Perfformiad fel rhan o sioe deithiol Cnoi Draenogod.
Dyddiad: 7 Awst, 2012
Lleoliad: Yr Hen Hydd Gwyn, Wine St, Llanilltyd Fawr CF61 1RZ
Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Iolo! – sesiwn i ddathlu campau a rhempau Iolo Morganwg. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.
Dyddiad: 30 Mehefin, 2012
Lleoliad: Plas Dinefwr, Llandeilo SA19 6RT
Cynhaliwyd Bragdy Bach ar lwyfan Gruffudd yng Ngŵyl Dinewfwr dan ofalaeth Llenyddiaeth Cymru.
Dyddiad: 21 Mehefin, 2012
Lleoliad: Rockin' Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
Cyd-drefnais noson Bragdy’r Beirdd arbennig iawn gyda geraint jarman, gwennan Evans a Llwybr Llaethog yn westeion. Darllenodd Geraint gerddi dafliad carreg o lle cafodd ei fagu ar Brook Street, Glan yr Afon.
Dyddiad: 7 Rhagfyr, 2011
Lleoliad: Bunkhouse, Heol y Santes Fair, Caerdydd. CF10 1DX
Yn ystod y noson hon fe wnes berfformio cerdd ar achlysur dathlu pen-blwydd Taliesin yn 50, yn ogystal â pherfformio crimpiad gydag Aneirin Karadog a Llŷr Gwyn Lewis.
Dyddiad: 5 Awst, 2011
Lleoliad: Maes C
Cymerais ran yn y Stomp ar nos Wener yr Eisteddfod.
Dyddiad: 22 Ionawr, 2011
Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Ymryson ar lwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru. Dyma lle perfformiwyd y crimp cyntaf yn Gymraeg, mae’n debyg!
Dyddiad: 21 Awst, 2010
Lleoliad: Maes y Clwb Rygbi, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1UF
Cymerais ran mewn stomp hwyliog yn Stomp Gŵyl Tegeingl – ‘Gŵyl y werin gudd’.
Dyddiad: 11 Medi, 2008
Lleoliad: Y Cŵps, Aberystwyth
Un o nosweithiau chwedlonol Y Glêr pan roddwyd noson o adloniant barddol i gynadleddwyr y blaid. Perfformiais gerdd o fawl i Elfyn Llwyd ar y noson.
Dyddiad: 16 Awst, 2008
Lleoliad: Maes y Clwb Rygbi, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1UF
Cymerais ran mewn stomp hwyliog yn Stomp Gŵyl Tegeingl – ‘Gŵyl y werin gudd’.
Dyddiad: 9 Awst, 2008
Lleoliad: Maes C
Cymerais ran yn y Stomp ar nos Wener yr Eisteddfod.
Dyddiad: 16 Mai, 2008
Lleoliad: Llety Parc, Ffordd Parc y Llyn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3TL
Cymerais ran mewn stomp i godi arian i Eisteddfod yr Urdd 2008.
Dyddiad: 7 Chwefror, 2008
Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
Y noson hon deuais ben-ben â Mr Phormula arm y tro cyntaf a chael fy nhrechu yn eiriol. Ond roedd yn sbort!
Gwobrau
Dyddiad: 7 Awst, 2020
Ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod Amgen, dyfarnwyd englyn cywaith gan dîm Llŷn ac Eifionydd fel englyn gorau’r wythnos o ymrysona. Testun y cywaith oedd ‘Plentyn yn Dychwelyd i’r Ysgol. Diau y bydd yn rhifyn yr hydref o gylchgrawn Barddas.
Dyddiad: 4 Awst, 2018
Enillais Dlws Coffa Cledwyn Roberts am delyneg orau cyfres 2017 o’r Talwrn gyda cherdd a gyda’r gerdd “Blinder”.
Dyddiad: 11 Awst, 2017
Enillais Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 am awdl ar y testun ‘Arwr’.
Dyddiad: 5 Awst, 2017
Roeddwn yn rhan o dîm Y Glêr – a enillodd gyfres y Talwrn yn 2017.
Dyddiad: 26 Awst, 2012
Cefais y fraint o gael fy ngwobrwyo yn Chwilfardd yn Chwilgig 2012. Penwythnos o gigs a digwyddiadau diwylliannol ym mhentref Chwilog yn Eifionydd yn 2012 oedd Chwilgig. Mei Mac oedd y beirniad, ac roedd y gerdd yn farwnad i Edward Elias, cyn brifathro Ysgol Chwilog. Cefais slabyn da o lechen fel gwobr.
Dyddiad: 4 Awst, 2012
Roeddwn yn rhan o dîm Y Glêr – a enillodd gyfres y Talwrn yn 2012.
Dyddiad: 6 Awst, 2011
Enillais Dlws Coffa Cledwyn Roberts am delyneg orau cyfres 2011 o’r Talwrn gyda cherdd a elwir bellach yn “The Man Who Sold the World”.
Dyddiad: 2 Awst, 2006
Enillais Dlws Coffa D. Gwyn Evans i feirdd o dan 25 oed (Y Gymdeithas Gerdd Dafod) am yr ail dro.
Dyddiad: 3 Awst, 2005
Enillais Dlws Coffa D. Gwyn Evans i feirdd o dan 25 oed (Y Gymdeithas Gerdd Dafod)
Comisiynau
Dyddiad: 19 Mehefin, 2022
Cefais y fraint o gyflwyno cerdd gomisiwn i BBC Cymru Fyw i nodi Sul y Tadau. Cyfle amserol â minnau newydd ddod yn dad fy hunan! Darllen fy ngherdd ar Sul y Tadau.
Dyddiad: 1 Mehefin, 2022 – 30 Mehefin, 2022
Ym mis Mehefin 2022 roeddwn yn fardd y mis ar Radio Cymru.
Dyddiad: 20 Rhagfyr, 2019
Derbyniais gomisiwn gan BBC Cymru Fyw i lunio cerdd am sefyllfa’r digartref yng Nghaerdydd adeg y Nadolig. Trowyd y gerdd hon yn fideo a gyhoeddwyd ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru Fyw.
Dyddiad: 17 Rhagfyr, 2017
Cefais gomisiwn i gyhoeddi cerdd dymhorol i’w chynnwys yn rhifyn olaf Golwg cyn y Nadolig.
Dyddiad: 23 Mawrth, 2013
Cefais gomisiwn i greu cerdd i’w chyhoeddi i gyd-fynd ag Awr Ddaear (WWF Cymru).