Cofnodion wythnos 23 Mehefin

Yn y cofnodion wythnos yma, dwi’n son yn bennaf am gynhadledd Cymdeithas y Cyfieithwyr, AI a syniadau ar gyfer y dyfodol.

Cynhadledd Cymdeithas y Cyfieithwyr, Aberystwyth, 23 Mehefin 2025

Mi es i’r gynhadledd er nad ydw i’n gyfieithydd. Roeddwn i yno i wrando ar gownt fy mod:

  • yn rheoli cyfieithwyr yn fy rôl
  • wedi cydweithio’n agos gyda chyfieithwyr ers blynyddoedd ym maes cynnwys a dylunio dwyieithog
  • hefo diddordeb yn sut mae AI am addasu rolau cynnwys a chyfieithu ac am ddalnwadu ar y byd Cymraeg yn ehangach

Cyn hyn, roeddwn wedi rhannu fy meddyliau digon blêr am oblygiadau a chyfleoedd AI i ddyfodol rolau cynnwys a chyfieithu. Fe helpodd y gynhadledd ffurfio rhai o’r syniadau hynny ymhellach.

Argraffiadau o’r diwrnod

Dechreuodd y diwrnod yn ddigon byrlymus. Llwyddodd Gwyn, Manon, ynghyd â Hanna Thomas – Pensaer AI o BCG Platinion ein rhoi ar ben taith ar gyfer y dydd.

I mi yn bersonol, roedd yn ddiddorol clywed yr heriau yng ngenau cyfieithwyr. Roedd hefyd yn ddiddorol tu hwnt gweld Hanna yn arddangos sut y byddai’n cyfieithu gydag AI a pha mor effeithiol y gall cyfieithu llafar trwy AI fod. Dwi’n ymwybodol bod cydweithiwyr Cymraeg eu hiaith yn defnyddio ChatGPT neu Co-Pilot i rag-gyfieithu.

Dwi ddim yn gweld problem gyda hynny mewn egwyddor gan mai fersiynau da o Microsoft neu Google Translate ydyn nhw. Rydyn ni wedi defnyddio’r rhain ers blynyddoedd. Problem llif gwaith ac ansawdd sydd yma gan fwyaf. Gall pethau fel hyn olygu bod pobl yn siarad ac yn ymgynghori llai, gan ddibynnu ar AI.

Roedd yn hanfodol clywed yr ongl gyfreithiol ac eiddo deallusol gan Dr Angharad James. Wedi’r toriad, aethon ni i drafod safbwyntiau Dr Ben Screen ac Alun Gruffydd. Roedd dau beth yn glir i mi yn fan hyn:

  1. Bod ‘dysgu peirianyddol’ ar ffurf cyfieithu perianyddol, Microsoft Translate ac ati, wedi bodoli ers sbel ac nad ydi rhoi colur ‘deallusrwydd artiffisial’ ar y dechnoleg honno yn newid llawer ar lif gwaith cyfieithu sy’n defnyddio meddalwedd cof, cyfieithu peiranyddol ac yn y blaen.
    Mae’n arbed amser ac yn cyflwyno sawl her a chyfle i gyfieithwyr – gallu cynyddu llwyth gwaith ond efallai gorfod gwneud hynny yn rhatach.
    Byddwn i’n cwestiynu ai ‘effeithlonrwydd’ a gwneud ‘mwy o hyd’ yw’r canlyniad cywir o fabwysiadu technoleg fel hyn, hyd yn oed os oes ‘wastad mwy o waith i’w wneud’
    Efallai mai dyma’r sefyllfa bresennol ond byddai’n berygl cymryd mai dyma hefyd fydd effaith AI go iawn yn y cyd-destun hwn.
  2. Pa mor bwysig i bawb yw’r hyn a elwid yn ‘gyfieithu dynol’. Dyma rywbeth amlwg ond hollbwysig. Mae’r syniad hwn hefyd yn perthyn i broffesiynau eraill, ac fe ddof at hynny yn y man gan ei fod o ddiddordeb mawr.

Er mor ddiddorol a deallus oedd y sgyrsiau hyd at y pwynt hwnnw, roedd gen i deimlad nad oedden ni wedi cyrraedd at galon y mater i ddeall effaith posib ‘deallusrwydd artiffisial’ ym maes cyfieithu.

Ddigwyddodd hynny ddim tan sgwrs Rhys Jones o Bangor AI. Roedd hwn yn gam pell iawn ymlaen o weddill y diwrnod. Tybed a oedd yn ddryswch neu’n ddychryn i bobl nad ydynt yn ymddiddori yn ochr dechnegol cyfieithu a thechnoleg yn gyffredinol? Heb imi wybod o flaen llaw am AI asiantaidd (Agentic AI) ac Brotocol Cyd-destun Model (MCP), dwi’n amau y byddwn wedi colli Rhys ar rhyw bwynt.

Strwythur Rhys oedd cyflwyno’r newidiadau a ddaw yn y 40 wythnos nesaf ac yna’r 100 wythnos wedi hynny. Gan ystyried man cychwyn diwydiannau a sectorau cyhoeddus Cymru, dwi’n weddol amheus o’r amserlen. Amserlen ‘be sy’n bosib’ ydi hi, am wn i. Ond mae gen i alergedd i heip AI yn gyffredinol ac mae’n bosib mai fy rhagfarn i ydi hyn.

Soniodd Rhys am sut y bydd modelau AI yn mynd yn:

  • llai
  • fwy agored
  • asiantaidd (agentic)

Cyflwynodd gysyniad MCP sy’n galluogi modelau AI i siarad efo’i gilydd. Yn fras, mae hyn yn golygu gallu defnyddio modelau AI at bwrpasau gwahanol mewn gwaith (rhag-gyfieithu, gwirio, mireinio ac ati) a bod modd i hyn oll ddigwydd heb ymyrraeth ddynol wrth i’r asiantau siarad â’i gilydd i gwblhau’r llif gwaith. Yr her ydi, gwybod pryd a lle mae ymyrraeth ddynol fwyaf angenrheidiol.

Dyma lle’r oedd yn gwbl amlwg i mi nad mater o ‘AI mewn llif gwaith cyfieithu’ yn unig yw hyn ond ‘AI yn llif gwaith cynnwys dwyieithog’. A hynny ar draws sector cyhoeddus Cymru. Mae Llywordaeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio ar fodel o’r enw Dylun sy’n llai, yn gaëdig ac sy’n helpu eu staff i ysgrifennu cynnwys Saesneg cryno sy’n cyfateb i arddulliadur Llywodraeth Cymru. Cynnwys fyddai o’r herwydd yn gynt ac yn haws i beiriant neu gyfieithydd dynol ei gyfieithu.

Camgymeriad yn fy marn i fyddai bod y maes cyfieithu yn meddwl am ei ddefnydd o AI ar wahan i’r bobl sy’n creu’r cynnwys yn y lle cyntaf. Fel y dywedodd rhywun yn ystod y dydd, her barhaus ydi bod safon y Saesneg mor wael, ac yn aml yn gwaethygu.

Dyna argraffiadau cychwynnol felly. Dwi’n siŵr y daw rhagor o drafod am hyn, gan gynnwys safbwynt polisi Comisiynydd y Gymraeg.

Mi ysgrifennaf eto i roi rhagor o gig ar yr esgyrn a thrafod:

  • sut mae cyfieithu dynol a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn debyg iawn
  • sut y gall fod manteision i feddwl am lif gwaith cynnwys a llif gwaith cyfieithu gyda’i gilydd
  • Llif gwaith yn oes AI – be ydi’r cyfleoedd, y peryglon a’r heriau.

Ysgrifennu i fyfyrio a ffurfio barn fydda i. Oes ganddoch chi farn? Byddwn i’n hapus i drafod.

2 thoughts on “Cofnodion wythnos 23 Mehefin”

  1. Diolch Osian am rannu. Rwyt ti’n hollol iawn i gwestiynu’r heip AI, nid yw hynny yn rhagfarn ond doethineb. Mae modelau iaith mawr yn sail sigledig iawn ar gyfer gwasanaethau o unrhyw fath. Rwyt ti wedi fy ysbrydoli i flogio am hyn. Mwy yn fuan.

    1. Diolch Carl. Ac rydw i’n edrych mlaen i’w weld. Byddai’n dda gwybod mwy am feddyliau am AI a’r Gymraeg yn ehangach. A hefyd o dy feddyliau am ‘wneud y mwyaf o welliannau mewn dysgu peirianyddol’ yn erbyn ‘defnyddio momdelau mawr deallusrwydd artiffisial’ – lle dwi’n meddwl fod dryswch ar y funud.

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *