Beth yw ‘dwyieithog’ mewn dylunio gwasanaeth dwyieithog?

Rydym wedi dysgu ychydig am yr hyn y mae gwneud ymchwil gyda defnyddwyr dwyieithog yn ei olygu. Rydym hefyd wedi arbrofi gyda thechnegau i wneud cynnwys yn ddwyieithog a chanolbwyntio ar y defnyddiwr. Felly, mae gennym rywfaint o wybodaeth gyhoeddus am ymchwil defnyddwyr dwyieithog a dylunio cynnwys.  Ond beth am ddylunio gwasanaeth? Beth sy’n ‘ddwyieithog’

Beth yw dylunydd cynnwys dwyieithog?

Yn ddiweddar, gofynnwyd i mi pa rinweddau sydd eu hangen ar ddylunydd cynnwys dwyieithog. Yn ddigon od, doeddwn i ddim wedi ystyried hyn fel rhestr o ddyletswyddau neu rinweddau, er fy mod wedi cael llawer o drafodaethau ehangach gyda chydweithwyr lle mae dyletswyddau, rhinweddau a sgiliau dylunydd dwyieithog wedi cael eu crybwyll. Dwi hyd yn