Deallusrwydd artiffisial, cyfieithu a gwasanaethau dwyieithog

Mae’r cofnod hwn yn seiliedig ar bapur a sgwennais yn ddiweddar. Roeddwn yn ymateb i gais gan Gomsiynydd y Gymraeg i ddychmygu posibiliadau amgen cyn cynhadledd Cymdeithas y Cyfieithwyr yn Aberystwyth ar 23 Mehefin 2025.

Crynodeb ac ymwadiad

Hoffwn bwysleisio nad ydw i’n gyfieithydd nac yn dymuno siarad ar eu rhan. Rydw i wedi gweithio’n agos gyda chyfieithwyr ers tro byd ac fy mod yn rhagweld:

  • rolau cynnwys (gan gynnwys cyfieithu) yn newid yn y dyfodol lled agos
  • technoleg yn newid ffocws rolau cynnwys a chyfieithu. -a bod angen i’r bobl yn y rolau hynny ddechrau diffinio eu rolau cyn i neb arall wneud ar eu rhan
  • bod cyfleoedd i ddefnyddio arbenigedd a grym arbenigwyr iaith i wella cynnwys gwasanaethau yng Nghymru, trwy wella’r cynnwys yn y ddwy iaith
  • bod, ar ben cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd, gyfle i fagu trydydd piler i waith cyfieithwyr, sef dylunio dwyieithog neu gyfieithu aml-ddisgyblaethol (wn i ddim am yr enw!)

Y cyd-destun a’r her 

Mae cyfieithu peirianyddol (MT) o’r Saesneg i’r Gymraeg wedi gwella’n sylweddol, ac er bod hyn yn gamp dechnegol, mae hefyd yn cyflwyno risgiau ymarferol, diwylliannol ac ieithyddol. Os na fyddwn yn caw golwg ar hyn – ac os na fyddwn yn addasu sut awn ati – gallai deallusrwydd artiffisial gyfyngu’r Gymraeg i’r maes cyfieithu yn unig. 

Yng nghyd-destun dylunio gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mae hyn yn peri risg o anwybyddu safbwyntiau ar y byd, hunaniaethau a phrofiadau bywyd y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny yng Nghymru. 

Risgiau AI mewn gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog 

Gyda diffyg gofal, gallai deallusrwydd artiffisial danseilio gweledigaeth y Comisiynydd o Gymru ddwyieithog lle gall pobl fyw eu bywydau’n llawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallai hefyd danseilio amcanion Safon Gwasanaethau Digidol Cymru: 

  • deall defnyddwyr a’u hanghenion 
  • gall pawb ddefnyddio’r gwasanaeth  
  • dylid dylunio gwasanaethau yn Saesneg a Chymraeg.  

Gallai arwain at: 

  • feddylfryd ffwrdd-â-hi: yn aml, gwelir deallusrwydd artiffisial fel llwybr byr i gydymffurfiaeth ym mhob maes, gan osgoi’r gwaith dyfnach o ddylunio gwasanaethau dwyieithog a deall anghenion defnyddwyr. Bydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio yn Saesneg a’u hail-adrodd air-am-air yn y Gymraeg. 
  • ymgorffori iaith ffurfiol ym mhob maes: gallai deallusrwydd artiffisial gyflwyno a chyflymu’r defnydd o jargon technegol ac iaith ffurfiol sy’n dieithrio defnyddwyr bob dydd yn y Gymraeg a’r Saesneg – oherwydd dyma’r hyn y mae’n ei ddysgu o setiau data a’r corpora cyfyngedig sy’n bodoli eisoes. Mae hyn yn fwy o risg na ‘Chymraeg anghywir’; mae tystiolaeth bod defnyddioldeb yn bwysicach i ddefnyddwyr na chywirdeb a ffurfioldeb. 
  • colli defnyddioldeb: sut mae ymgorffori’r Gymraeg sy’n cael ei defnyddio mewn bywyd go iawn, gan bobl go iawn, mewn gwasanaethau go iawn?

Cyfleoedd ar gyfer dylunio gwasanaethau dwyieithog 

Yn CDPS credwn nad cyfathrebu a chydymffurfiaeth yn unig yw cyfieithu. 

Mae hefyd yn ymwneud â sut rydym yn darparu gwasanaethau dwyieithog effeithiol drwy ddeall anghenion holl bobl Cymru a dylunio gwasanaethau sy’n gweithio i ddefnyddwyr yn y ddwy iaith. Nid ‘cyfieithu’ yn unig yw hyn.  

Mae hyn yn golygu:

  • deall anghenion gwahanol ddefnyddwyr gwasanaethau 
  • ystyried sut mae gwasanaethau wedi’u cynllunio i ddiwallu’r anghenion hynny 
  • gwella gwasanaethau’n barhaus yn y ddwy iaith 
  • dylunio gwasanaethau’n ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf 

Bydd angen i’r proffesiwn cyfieithu drafod a phenderfynu ar ei ddyfodol ei hun. Nid ydym yn awgrymu nac yn pennu sut y dylai pethau newid ar eu cyfer. ‘Dydyn ni ond yn awgrymu posibiliadau i wahanol broffesiynau esblygu’n rhagweithiol yn oes deallusrwydd artiffisial. Yn y cyd-destun hwn, efallai na fydd cyfieithu fel proffesiwn yn gallu bodoli ar lefel y gair ysgrifenedig yn unig, gan y bydd deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwyfwy abl i ysgwyddo baich y gwaith hwnnw – er gwell neu er gwaeth. Y peth pwysig yw bod yn rhagweithiol ac yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau. 

Dyma rai syniadau ar sut y gallai’r rôl esblygu o amgylch anghenion gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chefnogi gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg o Gymru ddwyieithog lle gall pobl fyw eu bywydau’n llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Cyfieithwyr fel strategwyr a dylunwyr, a all helpu timau gwasanaeth i greu’r cynnwys cywir i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn y ddwy iaith. Gallent helpu dylunwyr gwasanaethau i feddwl yn strategol am yr hyn y mae’n ei olygu i ddylunio gwasanaethau yn ddwyieithog.  

Cyfieithwyr fel golygyddion deallusrwydd artiffisial a chyfieithu peirianyddol. Gallent barhau i weithio ar dasgau cyfieithu ffurfiol gyda chymorth deallusrwydd artiffisial a chyfieithu peirianyddol; dyma’r math o gynnwys sydd efallai yn llai perthnasol o ddydd i ddydd i’r boblogaeth yn gyffredinol (hynny yw, nid ydnt yn wasanaethau y mae pobl yn rhyngweithio â nhw bob dydd fel: 

  • polisïau a chanllawiau polisi 
  • dogfennau mewnol 
  • cofnodion cyfarfod 
  • adroddiadau)

Wrth i dechnoleg esblygu, gallai’r gwaith hwn ddod yn gyflymach, gan ryddhau amser ar gyfer gweithgareddau eraill. 

Cyfieithwyr fel arbenigwyr sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Gallent: 

  • atgyfnerthu eu safle fel gwarcheidwaid – nid yn unig safonau ieithyddol – ond defnyddioldeb ieithyddol ac iaith glir 
  • dysgu, fel mae dylunwyr cynnwys a gwasanaethau yn ei wneud, yn uniongyrchol o brofiadau defnyddwyr 
  • dadlau achos yr iaith bob dydd y mae pobl Cymru yn ei defnyddio ac yn ei deall pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau 
  • helpu i adeiladu terminoleg sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gyd-dynnu timau eraill i ddeall arferion gorau 
  • gweithio mewn ffordd amlddisgyblaethol drwy gydweithio ag ymchwilwyr defnyddwyr a dylunwyr gwasanaethau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau’n diwallu anghenion defnyddwyr y Gymraeg 

Mae’r posibiliadau hyn yn debyg i newidiadau eraill sy’n cael eu trafod mewn rolau cynnwys, dylunio a chyfathrebu eraill. Credwn fod yn rhaid i gyfieithu fod yn rhan o’r sgwrs hon hefyd. 

Cydymffurfiaeth a defnyddioldeb: ystyriaethau i’r Comisiynydd 

Rydym hefyd yn credu y byddai angen ystyriaeth ofalus a chanllawiau gan Gomisiynydd y Gymraeg ar y syniadau hyn er mwyn cydbwyso anghenion cydymffurfio a chreu Cymru ddwyieithog lle gall pobl fyw eu bywydau’n llawn yn y Gymraeg. Efallai nad ydi’r naill a’r llall bob tro yr un peth.  

Mae timau gwasanaeth ar draws sefydliadau Cymru a’r DU wedi sôn dro ar ôl tro am eu brwydr i gydbwyso maint enfawr y galw ar amser cyfieithwyr â chael adnoddau i gefnogi dylunio gwasanaethau dwyieithog. 

Mae’r cyhoedd yn fwy tebygol o ryngweithio â gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd na dogfennau corfforaethol, swyddogol neu fewnol. Yn aml, nid oes gan bobl ddewis ond defnyddio rhai gwasanaethau – fel ceisiadau am grantiau, ceisiadau cynllunio, gostyngiad yn y dreth gyngor ac ati.) 

Mae hyn yn codi cwestiynau cymhleth am: 

  • y gwerth a roddwn ar y proffesiwn cyfieithu a’u sgiliau unigryw i gefnogi gweledigaeth y Comisiynydd. Sut allai technoleg gefnogi hyn mewn ffordd foesegol ac ystyriol? 
  • ailddychmygu sut i gydbwyso cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a darparu gwasanaethau defnyddiadwy ac ystyriaethau ymarferol hynny
  • ffyrdd derbyniol o gydymffurfio’n llawn â’r Safonau gan flaenoriaethu gwasanaethau digidol sy’n wynebu’r cyhoedd ac sy’n cefnogi’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog lle gall pobl fyw eu bywydau’n llawn yn y Gymraeg. Hynny yw: a fyddai cyfieithu dogfennau mewnol, corfforaethol yn bennaf gyda thechnoleg, yn gyfaddawd derbyniol pe bai hynny’n golygu bod gwasanaethau sy’n wynebu’r cyhoedd yn hawdd i bawb eu defnyddio yn Gymraeg? 

Blaenoriaethu hygyrchedd 

Dylai fod yn flaenoriaeth defnyddio galluoedd deallusrwydd artiffisial i wneud i offer hygyrchedd weithio’n well yn y Gymraeg.  

Yr hyn sy’n clymu popeth at ei gilydd yw’r syniad syml y dylai pawb yng Nghymru, ni waeth beth fo’u galluoedd na’u cefndir, gael mynediad cyfartal at wasanaethau a chyfleoedd yn y Gymraeg. 

Sut y gallem ni wella: 

  • offer testun-i-leferydd fel eu bod yn gweithio’n ddi-dor yn y Gymraeg 
  • offer lleferydd-i-destun i: 
    • greu capsiynau fideo yn awtomatig yn y Gymraeg a’r Saesneg 
    • creu testun alt Cymraeg yn awtomatig ar gyfer delweddau 
    • trawsgrifio darllediadau ac archifau 

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *