Buddion blogio i fusnes

Ydych chi erioed wedi ystyried beth yw buddion blogio i fusnes? Gall cynnal blog agor drysau i chi greu cynnwys amserol a pherthnasol, sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, credai llawer fod blogio ar fin dod i ben, a’r ffasiwn wedi newid yn sgil dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol. Ond nid felly. Mae blogio yn fyw ac yn iach, ac yn bwysicach nac erioed yn fy marn i. Ym myd cyfathrebu mae bwlch mawr rhwng yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’r wasg sy’n cael eu cyhoeddi ar-lein. Gall blogio lenwi’r bwlch hwnnw. A gall fod buddion blogio i fusnes yn niferus iawn.

Nid dyma yw blogio…

Gadewch i ni roi ambell ragfarn o’r neilltu yn gyntaf.

Bu blogio unwaith yn lle i bobl ddyddiadura a chadw cofnod o fanylion eu dydd. Roedd y cynnwys yn llawer fwy personol yn ôl yn nyddiau cynnar blogio. Yn ddiweddarach, pan lansiwyd Twitter, y gŵyn gyffredin oedd mai dim ond lle i dynnu lluniau o’ch cinio a nodi “iym, iym” ydoedd a dim mwy. Ac wedyn yr un fath gydag Instagram. Be sy’n newid ‘de?

Ond y gwir ydi tra bod nifer o’r cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Instagram a Facebook yn dal mewn math o laslencyndod, yn cyrraedd oed yr addewid, mae blogio bellach yn oedolyn ym myd y we. Mae’n lle i drafod pynciau o ddifrif. O’i wneud yn iawn gallwch fod yn defnyddio blog i arddangos eich arbenigedd, a chadw eich brand ar-lein yn berthnasol.

Beth yw buddion blogio i fusnes

Beth am i ni felly edrych ar rai o brif fuddion blogio i fusnesau a sefydliadau sydd eisiau datblygu eu cynnwys digidol.

1. Cynnwys amserol a pherthnasol

Mae nifer o wefannau wedi chwyddo dros y blynyddoedd gan besgi ar gynnwys statig. Ystyr ‘cynnwys statig’ ydi cynnwys ar dudalennau sydd ddim yn newid o un mis, neu flwyddyn i’r llall; cynnwys sy’n mynd yn amherthnasol yn sydyn iawn, ac yn gwneud i wefan edrych yn aniddorol. Os oes yn rhaid i ddefnyddwyr chwilio drwy hen gynnwys i ffeindio gwybodaeth berthnasol, mae’n debygol na wnânt ddod o hyd i’r cynnwys y maen nhw’n chwilio amdano.

Dyma pam fod ailbwrpasu llawer o gynnwys i flog yn syniad da, yn enwedig os oes gennych lot o gynnwys sydd wedi dyddio a’ch bod eisiau cyhoeddi newyddion yn rheolaidd. Mae’n cadw eich gwefan yn ffres, yn ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i’r cynnwys diweddaraf ar eich gwefan.

Os ydych yn poeni am hen gynnwys gwerthfawr yn mynd ar goll, cofiwch y dylai cynnwys sydd yn ddiddorol, yn berthnasol a sydd wedi ei ysgrifennu’n dda fagu awdurdod dros amser. Bydd yn cael ei ddarganfod drwy chwilio’r we, neu chwilio’ch gwefan. Gallwch hefyd gynnig hidlau ar gynnwys eich blog i weld cynnwys sy’n perthyn i bwnc neu ddyddiad penodol, fel bod modd dod o hyd i hen gynnwys.

2. Eich gwneud chi a’ch staff yn arbenigwyr yn eich maes

Mae pob busnes gwerth ei halen am gael ei weld fel awdurdod ac arbenigwr yn ei faes ei hun. A staff y busnes yn anad neb yw ceidwaid yr arbenigeddau hynny. y nhw sy’n gwybod beth yw prif gwestiynau’ch cwsmeriaid.

Gellid cymryd yr agwedd mai rhywbeth i’w warchod a’i gadw ynghudd yw gwybodaeth o’r fath – hawlfraint y busnes hyd yn oed. Ond dadleuaf i’n wahanol. Os gallwch ateb cwestiynau eich cwsmeriaid a’ch cynulleidfa gyda chynnwys da sydd ar gael am ddim, yna chi fydd yn bennaf ym meddyliau cwsmeriaid. Os ydynt am brynu, maent am brynu gan wybod fod yr holl ffeithiau ganddynt i wneud y penderfyniad iawn.

Yn amlwg, nid ydych yn mynd i ddatgelu popeth. Ond fe ddadleuwn i fod gwybodaeth am eich maes yn beth i’w rannu, nid ei warchod rhag cystadleuwyr a chwsmeriaid. Y nod yn fan hyn yw bod yn awdurdod ac ymddiriedaeth.

Os ydych yn gwerthu ceir, dangoswch beth yw’r 10 car sy’n mynd i fod yn gwerthu fel slecs yn y flwyddyn i ddod. Os ydych chi’n gwerthu gemwaith, trafodwch fymryn ar y broses o greu eich gwaith. Os ydych chi’n cadw caffi neu fwyty, soniwch am gynnwys y bwydlenni yn fwy manwl i dynnu dŵr o’r dannedd, neu soniwch am y “5 coffi gora’ i’w cael ben bora'”!

Mae rhannu gwybodaeth a syniadau yn strategaeth hir dymor. Gall gynnig llawer iawn mwy o fudd na bod yn warchodol a chaeëdig.

3. Cynyddu sylw i’ch brand a’ch amlygrwydd ar-lein

Mae’n dilyn rheswm mai po fwyaf o gynnwys o safon y gallwch chi ei greu, byddwch yn elwa trwy:

  • ymddangos yn uwch mewn canlyniadau chwilio
  • bod â rhagor o gynnwys unigryw a gwreiddiol i’w rannu gyda’ch cwsmeriaid a chwsmeriaid posib (cofiwch rannu’r cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol)
  • rhoi eich gwybodaeth o flaen rhagor o gynulleidfa, gan gynyddu sylw i’ch brand

Cofiwch, ar ddiwedd blog, roi rhyw fath o gyfarwyddyd cynnil i’r darllennydd allu tanysgrifio neu ymweld â’ch siop.

Does dim rhaid creu gwefan newydd i wneud hyn chwaith. Gallwch ddechrau arni mewn chwinciad ar blatfformau fel Medium neu LinkedIn, neu mae hefyd yn hawdd dechrau blog Wordpress a’i ychwanegu i’ch gwefan yn ddiweddarach.

Ydych chi wedi meddwl gwneud hyn? Ydych chi wedi profi unrhyw anawsterau neu broblemau? Soniwch wrtha i isod.

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *