Sut mae gwneud eich cynnwys fideo yn addas i’r we

Os ydych chi yn gwneud gwaith marchnata mae’n debygol y byddwch chi wedi creu neu gomisiynu fideo, ond a oedd y fideo yn addas i’r we? Dyma geisio crynhoi beth sy’n gwneud fideo sy’n addas i’r we, a pham fod hynny’n bwysig.

Mae crefft arbennig i greu fideos effeithiol ar y we. Ac mae sawl rheswm pam fod fformat arbennig i fideos sy’n cael eu cyflwyno ar Facebook yn enwedig, ond hefyd ar YouTube. (Dyna’r ddau brif blatfform y bydd dan sylw yma er bod Twitter ac Instagram yn werth eu hystyried yn y cyd-destun hefyd). Nid yw’r erthygl hon yn ystyried Facebook Live ychwaith gan fod yno sgwarnog arall i’w ddilyn rhyw dro eto.

Beth yw fideo sy’n addas i’r we?

Fel sydd wedi digwydd gydag ysgrifennu copi – mae naratifau traddodiadol wedi cael eu troi tu chwith allan ar gyfer y we. Nid yw naratif dechrau-canol-diwedd yn gweithio mwyach. Y rheswm yw nad yw pobl, wrth reddf, yn talu sylw i gynnwys y we am amser hir iawn.

Byddwn i’n crynhoi’r elfennau sy’n gwneud fideo effeithiol ar-lein fel a ganlyn:

  1. Gwnewch fideo sydd ddim mwy na 2-3 munud o hyd. (Os hoffech ddefnyddio fideo ar gyfer Twitter, mae cyfyngiad o 140 eiliad – sef 2 funud ac ugain eiliad). Mae ystadegau’n awgrymu nad fydd mwyafrif y gwylwyr yn cyrraedd hanner ffordd. Ni fydd llawer yn cyrraedd y degfed eiliad oni bai fod y fideo yn addas ar gyfer y we.
  2. Gwnewch fideo sy’n gweithio heb sain. Os ydych wedi bod yn talu sylw, fe welwch fod y rhan fwyaf o fideos a welwch ar Facebook y dyddiau yma yn cynnwys is-deitlau amlwg. Mae angen i’ch fideo hefyd esbonio’i bwnc heb sain. Edrychwch ar dudalen Facebook Channel 4 News. Sylwch ar y defnydd o is-deitlau a thestun cyflwyniadol.
  3. Rhaid gwneud fideo sy’n tynnu sylw yn yr eiliadau cyntaf. I stopio rhywun sgrolio heibio’ch fideo yn y ffrwd newyddion, mae angen tynnu eu sylw. yn yr un modd ac y mae brawddeg gyntaf copi ar-lein yn nodi union bwrpas gweddill y darn, ceisiwch wneud yr un fath gyda fideo. Eto, rhowch elfen weledol drawiadol, ond rhowch destun deniadol i gyd-fynd â’r elfen weledol honno. Gyda lwc, bydd defnyddwyr yn penderfynu ei bod yn werth troi’r sain ymlaen.

Pam gwneud fideo yn addas i’r we?

Rydym wedi cyffwrdd â hyn eisoes uchod, ond mae’n werth pwysleisio arferion gwylio pobl ar-lein.

Lle cynt, yn y dyddiau analog, y byddem wedi eistedd i lawr yn gyfforddus, troi’r goleuadau’n isel, estyn am y popcorn/toffee crisp/fruit pastilles a gwylio fideo yn fodlon gyda’n holl sylw, nid dyna realiti fideo ar-lein bellach.

Bydd eich cynulleidfa yn aml iawn yn ddod ar draws cynnwys fideo ynghanol ffrwd brysur iawn o gynnwys. Mae’r gystadleuaeth am sylw defnyddwyr yn filain. Oni bai bod eich cynnwys chi yn cyrraedd yr uchelfannau – fe fyddwch chi bob tro yn ail i’r fideo o’r hwyaden yn rhedeg ar ôl ci defaid. Go iawn.

Mae’n bwynt difrifol. Ar gyfryngau cymdeithasol mae pobl yn disgwyl cael eu llonni, eu tristáu, eu cythruddo, eu syfrdanu. Oni bai eich bod yn llwyddo i apelio at emosiwn defnyddwyr, fe fydd yn dalcen caled cael eu sylw.

Eich strategaeth ar gyfer fideo

Y ddau brif blatfform ar gyfer fideo ar hyn o bryd yw Facebook a YouTube.

Mae Facebook yn rhoi sylw mawr i gynnwys fideo, ac mae bellach yr un mor bwysig â YouTube. Pam hynny? Achos mae bron pawb ar Facebook yn barod, ac mae nifer fawr o ddefnyddwyr yn treulio oriau ar y platfform pob dydd. Does dim rhaid iddynt fynd allan o’r ffordd i wefan YouTube i gael eu cynnwys.

Lle felly i lwytho’ch cynnwys ar-lein? Ar hyn o bryd fy nghyngor i fyddai defnyddio’r ddau blatfform gan ailbwrpasu cynnwys. Yn syml:

  • Ar gyfer y tymor byr, rhowch fideo ar Facebook, a thynnwch sylw eich dilynwyr ‘ch cyfeillion ato
  • Ar gyfer y tymor hir, os oes gwerth arhosol i’r fideo, rhowch hwnnw ar YouTube hefyd, gan mai dyna’r peiriant chwilio fideos mwya’ sydd

Gwneud fideo yn addas i’r we – ewch ati!

Dyma, felly, yn syml sut mae meddwl am eich cynnwys fideo wrth fynd ati i gomisiynu, recordio, golygu a chyhoeddi fideo ar-lein.

Ystyriwch sut mae pobl yn dod ar draws fideos y dyddiau yma. Ystyriwch wedyn sut ydych chi am ddwyn eu sylw o blith yr holl gynnwys arall sy’n tynnu eu sylw. Ac wedyn, dim ond efallai wedyn, fe gewch ailafael yn y twb popcorn!

Beth yw’ch profiadau chi o greu cynnwys fideo ar-lein? Oes rhywbeth arall ar eich meddwl nad ydw i’n ei drafod yma? Rhowch wybod yn y sylwadau isod!

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *