Awdl Arwr: awdl fuddugol 2017

Awdl Arwr: gwyliwch y gerdd ar ffurf fideo

Cafodd fy awdl Arwr ail fywyd ar ffurf fideo yn ddiweddar pan wnaeth Hansh gomisiynu’r cyfarwyddwr Griff Lynch i roi newydd wedd i eiriau’r gerdd.

Gwyliwch y fideo yma:

Awdl Arwr, awdl fuddugol

Mae’n debyg nad ydw i wedi crybwyll hyn rhyw lawer – ond hen bryd dweud ar y blog fy mod wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. (A hynny er imi ddweud ynghynt nad oeddwn i’n cystadlu rhyw lawer!) Dwi wedi bod yn brysur ers hynny, fel y gallwch ddychmygu, yn ateb comisiynau a thrafod yr awdl led-led Cymru.

Mae’n obaith gen i yn y dyfodol wneud darn llawer fwy estynedig ar y blog yn trafod agweddau’r awdl. Byddai’n ddefnyddiol, dwi’n gobeithio, i’r bobl hynny na chafodd glywed fy llith mewn unrhyw gyfarfod cymdeithas, cylch llenyddol, te parti ac ati.

Griff a Gruff: cyfuniad grêt!

Rydw i’n hynod o ddyledus i ddau yn benodol a gyfranodd at wneud y cynhyrchiad hwn mor effeithiol.

Y cyntaf ydi Griff Lynch – cyfarwyddwr y fideo hwn. Pan wnes i a Griff gyfarfod rai misoedd yn ôl i drafod y syniad roeddwn i wrth fy modd. Roedd yn amlwg fod gan Griff syniadau – ac roeddwn i’n awyddus i beidio rhoi gormod o gyfarwyddyd yn unol â sut yr ydw i wedi dychmygu’r gerdd yn fy mhen. Mynegodd y geiriau fy syniadau i – tro rhywun arall fyddai hi bellach.

Yr ail ydi Gruffydd Glyn – dwi ddim yn meddwl a fyddai wedi bod yn bosib cael actor gwell i gyfleu ymagwedd y cymeriad a ddychmygais i. Mae’n gweddu i’r dim!

Dwi’n ymwybodol fod nifer o unigolion eraill wedi bod ynghlwm â’r cynyrchiad yn y cefndir – diolch iddyn nhwythau.

Sianel Hansh – ein hail wynt!

Daw’r diolch olaf i Hansh, S4C am gael y weledigaeth i gomisiynu cyfres o fideos tebyg a dod â barddoniaeth Gymraeg yn fyw i gynulleidfa newydd.

Gan ymddiried yng ngallu ein beirdd, gyda chymorth cyfarwyddwyr talentog, i allu bod yn berthnasol i bobl ifanc Cymru, mae’r fideos  yn rhai arbennig iawn ac yn gwneud byd o les i fyd y gerdd. Ewch draw i sianel YouTube Hansh am ragor o gerddi gan Emyr Lewis, Grug Muse a mwy.

Mwynhewch y gwylio!

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *