Y fi yw Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2017. Cafodd hyn ei gyhoeddi ar raglen Shân Cothi ar fore Llun 2 Hydref.
Fy mwriad i yn fan hyn ydi cyhoeddi testun y cerddi yr ydw i yn eu cyhoeddi fel rhan o’r gwaith. Gallwch chi fynd i weld gwaith beirdd eraill a fu’n llenwi swydd Bardd y Mis yn y gorffennol yma.
Bydda i’n diweddaru’r dudalen wrth i’r mis fynd yn ei flaen.
Cerddi Bardd y Mis
1. Catalunya
Ar ddiwrnod cynta’r mis, yr oedd hi’n ddiwrnod refferendwm annibyniaeth Catalunya. Roedd ymddygiad y lluoedd Sbaenaidd yn llawdrwm â dweud y lleiaf. Wrth wylio, gwelwn nad arwyddocâd y diwrnod oedd diffyg annibyniaeth Catalunya ond diffg hawliau dynol trigolion y wlad. Ac yn ystod y diwrnod yr oedd yn bosib dilyn y gormes a wynebai’r dinasyddion ar Twitter.
Heddiw fe gywilyddiais.
Bron nad rhyfel a welais
a’i law drom heb gelu’i drais.
I fynnu’u hawl yn fan hyn
daw’n drech na’r bwled wedyn
y miloedd coch a melyn.
Felyn a choch difalais;
ewch i’r blwch, chi’r rhai heb lais,
o’r stryd waedlyd â’ch pleidlais.
‘No’ neu ‘Sí’, nid gormes yw
eto’ch haeddiant chi heddiw.
Awr i’w ddweud yn rhydd ydyw.
2. Y flwyddyn fawr
Cefais fy nghroesawu i swydd Bardd y mis gan Shân Cothi ar fore Llun 2 Hydref. Daeth Shân draw i’r tŷ am sgwrs ac i eistedd yn y gadair eisteddfodol wrth gwrs. Gallwch chi hefyd wylio fideo o’r gerdd.
Cefais gomisiwn i gyfansoddi cerdd yn edrych nôl dros y flwyddyn – blwyddyn lwyddiannus iawn i mi yn bersonol. Gallwch chi hefyd wylio fideo o’r gerdd.
Dwi’n fy elfen eleni – ond ‘di Môn
ddim ‘di mynd i ‘mhen-i,
Er gwybod ers cyn codi
Mai hon yw’r flwyddyn i mi.
Mae pob ‘Henffych’ cyn uched yn y byd
Sydd â’i ben i waered,
I brifardd, mae’r wlad brafied
O’i weld o gwmwl Bod-ed.
Bodedern, llond byd ydyw, – mae’n y gwaed,
Mae’n gadair unigryw,
Yn hen fall ac yn ail-fyw,
Yn orwelion amryliw.
Hel o’r gorwel mewn geiriau o foliant –
yn filoedd o gardiau,
Llond gwlad o gyfarchiadau’n
Llenwi ‘nhŷ, a’m llawenhau.
Yn y tŷ felly dyma fi – adref
Yn mwydro Shân Cothi.
Nid aeth i ‘mhen eleni –
Eto mae yn grêt i mi.
3. Sgwrs gyda Iolo Whelan am rai o fy hoff eiriau caneuon
Iolo Whelan sy’n cadw sedd Georgia Ruth yn gynnes tra’i bod hi ar gyfnod mamolaeth. Cefais sgwrs ddiddorol iawn gyda Iolo am eiriau caneuon yr ydw i’n eu hoffi’n fawr.
Wnes i ddim dewis caneuon ‘barddonol’, neu eiriau sy’n deilwng o fod yn ‘gerddi’ heb y gerddoriaeth. Yn hytrach mi wnes i feddwl am ganeuon a oedd unai wedi fy nghyffwrdd yn bersonol, caneuon protest gwleidyddol a chaneuon sy’n berthnasol hyd heddiw.
Y tair cân oedd:
4. Taran Tom
I Tom Lawrence a thîm Cymru
Cyn bod hi’n nos daeth drosom
Sŵn sgrechian, sŵn taran Tom,
Ergyd drwy’r hollfyd oedd hi –
Laser trwy wyll Tblisi.
A charwn wylio’n chwarae
Gyrnol pob un canol cae –
Joe Allen fel Dyson dwys
Yn hwfro’r bêl yn gyfrwys.
Pan ddaw nos Lun fe gawn ailuno,
Hydref rhwydd ei hyder i freuddwydio,
Coch fydd y mur, a Chymru’n ddiguro,
Daw sŵn ymysgwyd, a sôn am Mosgo.
Bydd Gwyddelod yn rhodio adre’n chwil
A bois O’Neill o dan bwysau’n wylo.
Ar raglen Ifan Evans ar bnawn Sadwrn 7 Hydref i drafod buddugoliaeth Cymru yn Georgia’r noson gynt, a tharan o gôl gan Tom Lawrence. Rhaid cydnabod ysbrydoliaeth Nic Parry a Malcolm Allen am y disgrifiad o Joe Allen fel hwfyr yng nghanol cae. Joe Allen yw Dyson ei dîm!
5. Dyddiau da
Ond prin fod y dathlu hwnnw yn Tblisi wedi mynd rhagddo cyn bod angen taro nodyn tipyn fwy lleddf. Cymru yn colli i Iwerddon ar 9 Hydref.
Er gwaetha’r sion hwnnw, roeddwn i’n teimlo dyletswydd fel bardd y mis i bwysleisio nad yw pethau mor wael â hynny yng nghyd-destun hanes pêl-droed Cymru. Fel un sy’n cofio’r 1990au, fe wn i hynny yn iawn!
Fe gydiodd ias yn Stadiwm Dinas Caerdydd
A lleisiau’r teras dros barhad yr heniaith
Yn codi mor groch nes llwyddodd y miloedd
I anghofio, bron, am boen y blynyddoedd –
Cyn i’r yrfa fer gael cip o’r drofa faith;
Nid gwybod, ond y gobaith ar y dydd
Oedd pen draw’r daith.
Ond ar ôl diawlio Roy Keane, y reff, y ddau
A loriodd Joe Allen a phob chwiban ola’
Fe sgubwyd pob siom o derasau Lecwydd;
Mae’r hen bennau’n meithrin y coesau newydd.
Mae’r Cymry yn deall – er na fydd yr ha’
Yn rhy brysur heb Rwsia – mai parhau
Wna’r dyddiau da.
6. Catalunya #2
Ar ôl digwyddiadau 1 Hydref, roedd hi’n anochel y byddai’n rhaid dychwelyd i Gatalwnia cyn diwedd y mis. Cerdd arall a gafodd fymryn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol ond nad oedd ar y radio.
Erbyn 27 Hydref roedd Arlywydd Catalwnia wedi datgan annibyniaeth. A Sbaen yn eu tro yn diddymu’r llywodraeth, diswyddo’r Arlywydd a chymryd rheolaeth o Gatalwnia. Bydd y stori hon yn parhau ymhell y tu hwnt i fis Hydref eleni.
Ni all cosb, ysbeilio Sbaen, hawlio iaith
Llawr gwlad. Ar ei sylfaen
Ni all deddf godi beddfaen:
Medd Catalunya, “Ymlaen!”