Osian Rhys Jones yn perfformio yn y Siwperstomp

O Gymru! Pleidleisiaist dros Brexit…

Yn y Siwperstomp ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod eleni, cyfansoddais gerdd am un o bynciau llosg y dydd – Brexit!

Gwylio

Os nad oeddech yn Theatr Donald Gordon ar 6 Awst 2018, ac os nad ydych wedi cael cyfle i wylio y Siwperstomp eto, yna mae modd ichi wneud hynny ar iPlayer y BBC neu ar wasanaeth Clic S4C.

A chan nad yw’r BBC nac S4C yn cytuno am sillafiad cywir y digwyddiad, gallaf gadarnhau fod y ddau yn anghywir. Y Siwperstomp – un gair – sydd yn gywir!

Cerdd am Brexit

Parodi yw cytganau’r gerdd a berfformiais, a barddoniaeth ddig ydi’r gweddill. Gyda chymorth y band Lleden, roedd nodau hunllefus a hardd “O Gymru” yn taro’n gynddeiriog ar hyd nenfydau acwstig Theatr Donald Gordon.

Ar ben hynny ces wireddu uchelgais oes o fwyta sosej rôl ar lwyfan y Pafiliwn…

Na foed neb i ddweud nad ydi beirdd Cymraeg cyfoes yn wleidyddol!

Y llwyfan mawr

Roedd yn dipyn o arbrawf ceisio llenwi pafiliwn – sydd hefyd yn awditoriwm a theatr enfawr – gyda sŵn barddoniaeth Gymraeg.

Roedd yn rhaid i bob un o’r beirdd a’r cyflwynwyr godi eu safon yn aruthrol, a meddwl mewn ffordd wahanol er mwyn llenwi’r gofod a chreu sioe werth chweil. Mae llawer iawn o ddiolch yn mynd i’r band Lleden, a’r cyfarwyddwr Ian Rowlands am eu creadigrwydd a’u gweledigaeth – heb sôn am eu hamynedd gyda’r beirdd!

Yn bersonol, dwi’n meddwl fod pob un o’r beirdd wedi cyflawni camp aruthrol a bod Y Siwperstomp wedi bod yn noson slic ac adloniannol.

Roedd gofyn mwy o broffesiynoldeb a pharatoadau ar ran y beirdd nac mewn noson farddol arferol, ond profodd bob un bod lle i farddoniaeth ar lwyfannau mwy, yn ogystal â’n clybiau a’n tafarndai.

Be ydi’ch barn chi am y noson?

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *