Englyn ar glawr feinyl O’r Nyth

Oni bai eich bod wedi bod gyda’ch pen yn eich plu dros y blynyddoedd a fu, mi fyddwch chi wedi clywed am ddigwyddiadau Nyth yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mi fyddwch hefyd wedi clywed yn ddiweddar am brosiect diweddaraf rhai o hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw prysuraf Cymru. Mae’n nhw newydd lansio Feinyl “O’r Nyth” sy’n deitl […]

Canolfan Mileniwm Cymru - Awr Ddaear

Awr Ddaear

Dyma gerdd fach i gyd-fynd ag Awr Ddaear (WWF Cymru) eleni, sy’n digwydd heddiw, 23 Mawrth. Mae’n anodd diffodd y pethau sy’n llywodraethu ein bywyd erbyn hyn, ond mae’n werth gwneud hynny o bryd i’w gilydd. Awr Ddaear Rhoddi awr i ddaearu gwareiddiad; Ac o’i roddi, syllu Ar ddawn yr hen awyr ddu Ei hunan

Eira, Cariad.

Maddeuwch i mi am led-fenthyg teitl cyfrol o farddoniaeth gan Geraint Jarman fel pennawd i’r cofnod hwn, ond mae’n addas iawn i’r hyn sgen i i’w rannu efo chi! Oherwydd y tywydd oer gaeafol dros y dyddiau diwethaf a hynny hefyd yn y dyddiau yn arwain at ddydd nawddsant y cariadon yfory, fe gefais fy

Y Felan Fawr

Dwi wastad wedi bod yn hoff o gerddoriaeth blŵs. A thua’r adeg yma o’r flwyddyn, pan mae’n tywyllu, mae’r blŵs yn ymgyrffori ei hun bron yn y dyddiau byrion, y glaw a’r gwynt Cymreig, a rheiny’n lapio amdanom nes bod y felan yn rhan o fywyd bob dydd. Heb sôn am ei bod hi’n tueddu

Soned

Dyma gerdd newydd i chi. Soned ydi; a does gin i fyth amynedd rhoi teitlau i gerddi.   Soned Disgynnodd y nos dros swildod Caerdydd yn drwsgwl a gwlyb fel glasfyfyrwyr yn cusanu’u rhyddid ar ddiwedd dydd. Mae Heol yr Eglwys yn gwisgo’i cholur, a sgerti byrion ar hyd Santes Fair; sŵn gweiddi bechgyn fel

Ym mhen draw’r lein: geiriau’r gân

Dyma eiriau cân ‘Ym mhen draw’r lein’, cân am dref Pwllheli. Lle ar ben draw’r lein ydi Pwllheli. Lle mae sawl taith yn cychwyn ond hefyd yn gorffen. Trwy ganiatâd Endaf Emlyn, gosodwyd y gân ar Soundcloud hefyd. Dyma fymryn yn rhagor am hanes y gân a’r rhaglen. A dyma’r geiriau i chi hefyd, rhag