Dyma eiriau cân ‘Ym mhen draw’r lein’, cân am dref Pwllheli. Lle ar ben draw’r lein ydi Pwllheli. Lle mae sawl taith yn cychwyn ond hefyd yn gorffen.
Trwy ganiatâd Endaf Emlyn, gosodwyd y gân ar Soundcloud hefyd. Dyma fymryn yn rhagor am hanes y gân a’r rhaglen.
A dyma’r geiriau i chi hefyd, rhag ofn eich bod yn hoffi carioci, a rhyw gampau tebyg:
Fe wyddwn o hyd fod yfory’n agos
yn dren hwyr ar y cledrau’n aros,
yn anadlu’n boeth ar fy ngwâr o hyd
ac oglau’r olew yn addo’r byd.
Ym mhen draw’r lein mae twrw ‘Mhenlan,
mae blas sy’n chwerw, mae ‘na gwrw gwan.
Mae hithau tu ôl i’r bar yn gweini tymor
a minnau’n mynnu cael codi f’angor.
Os bydd yfory ‘di mynd yn hen
a’r un oglau olew ar bob un tren
a gwg fy angor yn troi yn wên
caf ei heli yn felys.
Yr un hen dagfa tuag Abersoch,
a chnul sy’n hŷn na Llofft y Gloch;
ond pwy ‘dw i i’w galw’n glaf
a barnu’i niwl heb rannu’i haf?
Os bydd yfory ‘di mynd yn hen
a’r un oglau olew ar bob un tren
a gwg fy angor yn troi yn wên
bydd ei heli yn felys.
Tra bod dŵr yn yr harbwr o hyd
ac iaith fy ngenau yn canu’n y stryd,
dof i chwilio am ei llygaid unwaith yn rhagor
a’u cael tu ôl i’r bar yn gweini tymor…
pan fydd yfory ‘di mynd yn hen
a’r un oglau olew ar bob un tren
a gwg fy angor eto’n wên
a’i heli yn felys.