Cerddi comisiwn

Os ydych chi’n dymuno comisiynu cerdd gan fardd ar gyfer achlysur arbennig, digwyddiad neu gyhoeddiad, yna rydw i yn derbyn comisiynau amrywiol.

Boed yn ben-blwydd neu’n briodas, yn enedigaeth neu’n ymddeoliad rydw i wedi gwneud y cyfan dros y blynyddoedd.

Gallwch chi weld enghreifftiau o gerddi comisiwn isod ar y dudalen hon.

Sut mae comisiynu cerdd?

3 cham hawdd!

  1. Ewch i’r dudalen cysylltu a llenwi’r ffurflen yno.
  2. Rhowch eich henw a’ch cyfeiriad cyswllt.
  3. Rhowch fanylion y comisiwn, megis dyddiad a natur yr achlysur, gwybodaeth am y person(au) dan sylw ac unrhyw gyd-destun a all fod yn berthnasol i’r comisiwn. Peidiwch ag anghofio’r DYDDIAD CAU!

Fe wna i gysylltu nôl â chi cyn gynted ag y bo modd i gadarnhau neu drafod manylion pellach.

Scroll to Top