Englyn ar glawr feinyl O’r Nyth

Oni bai eich bod wedi bod gyda’ch pen yn eich plu dros y blynyddoedd a fu, mi fyddwch chi wedi clywed am ddigwyddiadau Nyth yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mi fyddwch hefyd wedi clywed yn ddiweddar am brosiect diweddaraf rhai o hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw prysuraf Cymru. Mae’n nhw newydd lansio Feinyl “O’r Nyth” sy’n deitl amlgyfrannog yn cynnwys artistiaid mwyaf cyffrous Cymru.

Clawr Feinyl “O’r Nyth”

Cyfranwyr

SEN SEGUR, CASI WYN, GWYLLT, OSIAN HOWELLS, COWBOIS RHOS BOTWNNOG, PLYCI, ALUN GAFFEY, VIOLAS, AFAL DRWG EFA

O’r hyn glywias i ar y radio ar raglen Lisa Gwilym mae hwn yn gasgliad y bydd gen i awydd mawr mynd yn ôl ato i wrando eto ac eto. Y traciau oedd yn sefyll allan i mi ar y gwrandawiad cyntaf oedd Casi Wyn ac Osian Howells. A hefyd mae’n braf cael trac reggae newydd yn Gymraeg gan Gwyllt. O reggae, bydded ragor!

Os ydych chi’n un o’r bobl sy’n cwesiynnu’r busnes feinyl ‘ma fel ffad – mae’r clawr trawiadol yn mynd i edrych yn wych mewn unrhyw gasgliad, neu ar silff yn addurno’r tŷ, hyd yn oed. Nid yn unig hynny – a dyma gyrraedd at y rheswm pam fy mod i’n trydar mor uchel am y feinyl – mae englyn o fy eiddo i yn rhan o’r pecyn deniadol yma. Mi fuodd hogia Nyth yn ddigon clên i ofyn am gyfraniad, a doeddwn i ond yn ddigon balch i gael cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig. Achos, doed a ddêl, mae bob dim mae Nyth yn ei wneud yn tueddu i fod yn eithaf arbennig.

Rhown ar glawr ein gŵyl hwyrol, y feinyl
yw’n llwyfannau heriol,
a’r plu’n crynu roc a rôl
ar adenydd trydanol.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *