Y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial
Nid golwg dechnolegol ar ddeallusrwydd artiffisial sydd yma. Rydw i’n edrych ar gyfleoedd a heriau deallusrwydd artiffisial o ran datrys problemau go iawn, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn benodol ystyriaethau newydd i sefydliadau sydd yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg.