Beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?

Gwlad beirdd a barddoniaeth: a oes diffyg amrywiaeth?

Ym mhennod diweddaraf podlediad Clera trafodwyd a oes diffyg amrywiaeth ymhlith ein beirdd a’n barddoniaeth yn gyffredinol. Dechreuodd y sgwrs drwy drafod y diffyg beirdd benywaidd sy’n ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pham fod hynny’n bod. Ond trwy gyfrwng cyfraniadau treiddgar a dadlennol gan Gwennan Evans, Elinor Wyn Reynolds, Mererid Hopwood a Karen Owen, buan y cododd y drafodaeth ar adain uwch. Dyna esgor felly ar yr erthygl hon.

Diffyg merched yn y ‘Sîn Farddol’ heddiw?

Mae’n rhaid i mi gytuno ag awgrym Karen Owen mai nid yn y ‘sîn farddol’ (beth bynnag yw hwnnw) heddiw y mae’r broblem. Bu diffyg amrywiaeth yn broblem ers bod ‘traddodiad’ barddol. Does gen i’m amheuaeth fod hynny’n wir. Gellid dadlau fod canrifoedd lawer wedi pasio pan fu cyfyngu ar yr hyn sy’n deilwng o fod yn aruchel ac yn rhan o draddodiad mwy. Mynachod fyddai piau cofnodi. Uchelwyr oedd piau’r drefn. Ac wedyn dynion oedd bennaf yn sefydliad yr Eisteddfod ac yn y byd cyhoeddi. Mae hynny wedi parhau ym mhatriarchaeth seicolegol y ‘sîn farddol’.

Dychmygwch wedyn beth sy’n eithriadol i’r norm yn ein traddodiad barddol ni. Yn yr Oesoedd Canol tueddwn i feddwl am Dafydd ap Gwilym. Canai ef mewn arddull wahanol, am bynciau oesol sy’n dal i’n cyffroi heddiw. Roedd fel petai ganddo un droed yn rhydd o lyffethair canu mawl a threfn cymdeithasol ei gyfoeswyr. Ond eto, roedd y llall yn gadarn yn ei hual, ac mewn gwirionedd amrywiad gweddol fychan ydi dafydd ap Gwilym yn narlun mawr y traddodiad barddol.

Ar yr un pryd â hyn rydym yn dal i drafod beirdd benywaidd fel Gwerful Mechain fel petaen nhw yn bodoli mewn categori eu hunain – ‘canu merched’. Ddim cweit yn y traddodiad barddol am nad ydynt yn ffitio i’r mowld.

Esgorodd hyn yn y podlediad ar bwynt treiddiol iawn: a oes angen i’n barddoniaeth fagu’r gallu i ddilysu profiadau ein cymdeithas yn ei holl amrywiaeth? Mae hyn yn codi sawl cwestiwn a phryfociad difyr.

A oes diffyg amrywiaeth yn ein barddoniaeth gyffredinol?

Beth am inni edrych ar yr hyn sy’n gyffredin yn ein barddoniaeth heddiw, o ran safbwyntiau’r beirdd a phynciau’r cerddi. (Maddeuwch i mi am gyffredinoli i ryw raddau.)

Gellid dadlau fod y mwyafrif o gerddi Cymraeg heddiw yn cael eu cyfansoddi gan feirdd sy’n perthyn i un neu ragor o’r categorïau yma:

  • Dynion
  • Dosbarth canol
  • Beirdd Cenedlaetholgar

(A chyn i chi ddweud dim – mae’n debyg fy mod i fy hun perthyn i’r tri hyn)

Y themâu sy’n aml yn gyffredin ymhlith y beirdd hyn (hyd syrffed, medd rhai) ydi rhai’n ymwneud â

  • Consýrns cenedlaetholdeb
  • Nostaljia crefyddol
  • Cwynion cyfiawnder (neu angst anghyfiawnder)

Eithriadau aneithriadol

Yn ein canu cyfoes bu eithriadau o’r norm hwn. Fe’n hatgoffir yr enillwyd y Gadair ddwywaith (allan o 16) yn y ganrif hon gan ferch.

Ond o ran amrywiadau thematig neu ‘eithriadau’ i’r norm, daeth y rhain hefyd yn amlach na pheidio gan y beirdd gwrywaidd, gwyn. Pan gurodd Rhys Iorwerth y Gadair yn 2011, fe’i galwyd gan un beirniad yn Ddafydd ap Gwilym newydd. Does dim dwywaith fod iddo lais unigryw, cyfoes sy’n pontio profiadau amrywiol y Gymru gyfoes, a’i farddoniaeth yn canu’n wefreiddiol. Ond o edrych yn ehangach nid yw hynny, fel Dafydd ap Gwilym o’i flaen, yn troi traddodiad ben i waered; rhyw wyriad bach dros dro o’r llwybr cul ydi hyn.

Nabod y teip

Ydi hi’n wir fod ‘teip’ penodol o gerdd yn fwy tebygol o ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol? Teip fwy ‘ceidwadol’ o ran arddull, efallai, a safbwynt sy’n plesio beirniaid (boed y rheiny’n disgyn i’r categori gwyn, gwrywaidd hefyd ai peidio). Rhyfygwn a dweud fod tueddiadau diweddar yn awgrymu hyn. Nid wyf yn honni fod cerddi annheilwng wedi curo’r Gadair yn ddiweddar, ond tueddir i wobrwyo cerddi sy’n ffitio’r mowld cydnabyddedig. Pan gyflwynir cerdd fwy arbrofol o ran safbwynt, llais neu arddull fe dueddir i ganmol ei menter ei chrefft. Ond ni ellir cweit magu’r stumog i’w gwobrwyo.

Ydi nofelau a chyfrolau rhyddiaith yn cynnig gwell lle i arbrofi yn Gymraeg? Mae gwell amrywiaeth o safbwyntiau yn ein nofelau nac yn ein barddoniaeth. A bu arbrofion difyr gydag iaith ac arddull wedi dros y blynyddoedd diweddar mewn nofelau ysgubol fel Ebargofiant gan Jerry Hunter.

Beth felly am feirdd o gefndiroedd eraill?

Mae yng Ngyhmru brofiadau llawer ehangach na’r hyn sy’n cael ei gyfleu mewn barddoniaeth Gymraeg.

Pobl sy’n byw mewn tai cyngor. Pobl sy’n ddi-waith neu’n methu cael swyddi. Pobl sy’n fewnfudwyr neu o gefndiroedd ethnig gwahanol. Merched. Pobl hoyw, deurywiol neu drawsrywiol. Prin yw’r lleisiau hyn mewn gwirionedd. Tybed ydy’r ‘traddodiad’ yn gyrru safbwyntiau neu brofiadau eraill at ffurfiau eraill o gelfyddyd megiscerddoriaeth, celf weledol, theatr neu gomedi? Beirdd ar gyrion traddodiad yw Geraint Jarman a Steve Eaves. Tybed a gawsant hwy ymgeledd mewn cerddoriaeth?

Rhagor o addysg Gymraeg? Her arall

Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am roi addysg Gymraeg gyfartal i bob plentyn yng Nghymru, yna mae’n rhaid i’n beirdd a’n barddoniaeth fod yn barod i ymateb i’r her honno. Os nad yw’r cwricwlwm yn gallu adlewyrchu digon o brofiadau perthnasol amrywiol i blant, a fydd barddoniaeth yn berthnasol mewn unrhyw ffordd iddyn nhw yn y dyfodol?

Ac o fethu, a fyddwn ni yn cau allan rhan helaeth o bobl ifainc Cymru? Ystyriaf fy nghymdogaeth fy hun. Lawr y lôn yma yng Nglan yr Afon, Caerdydd mae Ysgol Gynradd Kitchener, un o ysgolion fwyaf amrywiol Cymru o ran cefndiroedd ei disgyblion dwi’n siŵr. Sut mae croesawu holl brofiadau’r plant hyn, dangos iddynt fod barddoniaeth Gymraeg yn perthyn iddyn nhw hefyd ac nad tŷ gwydr caeëdig ydi’n traddodiad barddol?

Ambell awgrym

Nid oes gen i’r atebion i gyd, ond dyma rai awgrymiadau os ydym am herio’r diffyg amrywiaeth yn y dyfodol.

Dylai fod parodrwydd yn y system addysg i gyflwyno barddoniaeth amrywiol a pherthnasol i Gymru heddiw sy’n cyffroi pobl ifanc. Cerddi sy’n addas fel pwynt mynediad i gyfoeth ein llên (Sori, felly, Waldo a TH). Siaradaf i fel rhywun oedd â diddordeb ddigon llugoer mewn beirdd a barddoniaeth pan oeddwn yn yr ysgol.

Dylid caniatáu i blant a phobl ifainc gyfleu eu profiadau nhw trwy farddoniaeth, gan wfftio’r syniad o’r hyn sy’n gywir neu’n anghywir; be sy’n gymhariaeth a be sy’n drosiad; neu ba thema mae’r gerdd yn ‘ffitio’.

Dylai fod parodrwydd beirniadol mewn eisteddfodau bach a mawr, talyrnau ac adolygiadau i groesawu lleisiau sy’n swnio’n wahanol, yn arbrofi gyda ffurf, llais neu fynegiant. Neu’n cyfleu profiad cwbl wahanol.

Chwalu’r Tŷ Gwydr

Byddai hyn y brosiect tymor hir a chymhleth o’r ochr addysgol. Ond os ydym am drosglwyddo’r traddodiad barddol i bawb yn y dyfodol mae’n rhaid wrth lacio fymryn ar ein gafael haearnaidd ar ein hamgyffrediad o beth yw barddoniaeth a’i phwrpas. A fydd yn bosib i ni wyntyllu yn llawn sut fyd a sut genedl y dymunwn fyw ynddynt heb gyfraniad holl leisiau ein cymdeithas?

Mewn cynhadledd y bûm ynddi yn ddiweddar, wrth drafod cyfranogi yn y celfyddydau, soniodd François Matarasso bod peryg mawr os nad ydyn ni’n fodlon gwrando ar leisiau amrywiol, a lleisiau difreitiedig ein cymdeithas, y bydd byd y celfyddydau yn cael ei weld fel ‘elît rhyddfrydol’. Mae hynny yr un mor wir, os nad yn fwy gwir, o fewn niche lleiafrifol cerdd dafod, barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg.

Beth amdani? Priodwn draddodiad gyda newydd-deb profiadau amrywiol. Ond cofiwn y dylai’r traddodiad ymffurfio trwy gyfrwng beirdd newydd sy’n ei gyfoethogi. Nid tŷ gwydr na chlwb aelodaeth ddylai ‘traddodiad’ fod.

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *