Beth yw cyfryngau barddoniaeth y dyfodol? Dyna gwestiwn yr oeddwn ni’n ei ofyn i mi fy hun wrth ddechrau drafftio’r erthygl hon yr wythnos ddiwethaf. Ac wedyn dyma weld erthygl ar BBC Cymru Fyw gan Iestyn Tyne yn holi beth yw dyfodol cyfrolau neu gasgliadau o farddoniaeth heddiw. Dwn i ddim beth yw ‘segue” yn Gymraeg, ond dilynaf i ymlaen o fan hyn!
Mae’r darn hwn yn tynnu ar ddiddordeb mewn barddoniaeth ar y naill law a chyfryngau digidol (cyfryngau fy ngwaith dydd i ddydd) ar y llaw arall. A diddordeb yn sut mae’r elfennau hynny yn galllu dod ynghyd.
Cyfrolau i’w cadw…?
Tra bod yr awydd i gofnodi wastad wedi bod yno ers dyddiau memrwn a cho’. Yn nhwf cyhoeddi cyfrolau o gerddi yn y 19eg ganrif, rhoed diwyg feiblaidd, oesol i waith rhai o feirdd oes Fictoria.
Drws nesaf i argraffiad trwchus 1853 o Y Bibl, mae gen i acw gyfrol a drosgwyddwyd drwy’r teulu i fy hen daid (O.R. Jones arall!), i ‘Nhaid, ac i minnau drachefn, sef “Holl Weithiau Eben Fardd”. Mae’r gyfrol hon yn fwy addas o ran ei maint fel carreg ddrws. Ac felly o ran ei chynnwys, yn ôl rhai… Ond mewn difrif mae ei thudalennau trymion, y clawr caled a thrymder y testun yn gweiddi ‘ylwch fi’!
Ers hynny mae llyfrgelloedd, a’r Llyfrgell Genedlaethol yn enwedig, wedi ffurfioli’r dasg o gasglu gwaith cyhoeddiedig, nes ein bod ni heddiw yn gweld gwerth parhaol y cyfrolau hyn yn eu priod lefydd hinsoddol-berffaith ar silffoedd y Gen. Bron fel petaem am wneud yn iawn am yr holl ganrifoedd o lenyddiaeth goll sydd yn ein diwylliant trwy dynhau’n gafael yn ein cyhoeddiadau diweddar.
…Neu anterliwtiau anghofiedig?
Ond eto cyn hynny, a chyn dyfodiad cyfnodolion clawr caled o bob math, cyhoeddwyd nifer o gerddi mewn pamffledi a phapurau newydd; yn gerddi achlysur, anterliwtiau, neu ymatebion i faterion yr oes. Faint o’r rhain sydd wedi llosgi yn nhannau’r co? Tybed ai’r goreuon sydd gennym ni, ynteu croestoriad or gwych a’r gwachul?
Byddai nifer o’r rhain hefyd wedi’u cyhoeddi’n llafar mewn cyrddau, tafarnau a chanolfannau trefol hefyd.
Llwyfan Llafar
O fynd yn ôl eto, llafar oedd traddodiadau’r chwedlau a’r cerddi y gwyddwn ni amdanynt heddiw. Rhaid derbyn mai’r cynnyrch swyddogol, y cyfundrefnol yn bennaf yw’n cynhysgaeth ni heddiw. Chwiw’r llaw a’u cofnododd mewn llawysgrifau yw llawer o gerddi a chwedlau a oroesodd, yn siŵr.
Ond meddyliwch am yr holl gerddi a’r chwedlau na chafodd eu hysgrifennu o gwbwl*. Mae rhagor o rhain nac y sydd wedi’u colli gan fod llawysgrifau wedi ei llosgi neu fynd ar goll yn ddiweddarach.
*Peidiwch â meddwl, os ydych eisiau cysgu’r nos.
Cyfryngau digidol – ydi’r rhod yn troi’n ôl?
Prin wedi crafu wyneb cyfryngau digidol mae cynnwys llenyddol Cymraeg heddiw. Ond mae posibiliadau’r dyfodol yn niferus iawn, ac yn gyffrous ar y naw.
Fe ddwedwn i fod y rhod yn troi’n ôl (fel math o Back to the Future barddol) – a bod cyfryngau barddoniaeth y dyfodol yn mynd i ymdebygu i’r hyn a ddaeth ynghynt mewn sawl ffordd. Y cyfryngau ysgrifenedig fel blogiau, Twitter ac Annedd y Cynganeddwyr yw’n hanerliwitau a’n pamffledi cyfoes ni.
Ond mae’r rhod yn dal i droi am yn ôl trwy fynd ymlaen yn fy marn i. Cyfryngau llafar a gweledol sy’n mynd i fod bwysicaf ar y we (a’r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig) yn y dyfodol agos os nad ymhellach i’r dyfodol.
Fideos i feirdd
Un enghraifft gydnabyddedig ydi cynnwys fideo. Ewch chi ddim yn bell ym myd cynnwys marchnata digidol nes clywed rhywun yn dweud mai fideo, a fideo byw hefyd, fydd y peth mawr nesaf. Dyna un ffordd y gall pethau fod yn yn troi’n llafar eto, ond yn fwy gweledol, gan ganiatáu cysylltiad uniongyrchol hefo’r gynulleidfa.
Yn ogystal â hyn, bydd y we fwy gaeëdig (neu’r we ‘ddwfn’), sy’n dod ar ffurf Facebook, Messenger a Snapchat yn llefydd dylanwadol tu hwnt. Dyma lefydd i gysylltu â chynulleidfaoedd fwy dethol a chyfyngedig efallai. Ond mae hynny bron fel neuadd noddwr!
Hyd yn hyn mae beirdd fel Llion Jones wedi arloesi yn defnyddio’r cyfrwng ysgrifenedig sy’n rhoi lle amlwg i eiriau. A bydd hynnyn parhau. Mae sawl bardd yn trydar cerddi bach a mawr ar Twitter bellach. Ond tybed a welwn ni symudiad yn y dyfodol i blatfformau fwy gweledol a chlywedol sy’n dod yn fwy hygyrch i bawb trwy’u ffonau symudol, apps a chyfryngau cymdeithasol?
Y dail prin a’r digidol parhaus – cyfryngau barddoniaeth y dyfodol
Tydw i ddim yn meddwl y bydd y naill yn nacáu’r llall. Bydd y cyfryngau print yn dal i gydfodoli gyda’r digidol.
Ond arwyddocâd platfformau digidol i brint, yn fy marn i yw cyfoethogi’r hyn sydd yn mynd i brint. Ddegawdau i rŵan, efallai y gwelwn ni y bydd cyfrolau print yn llai niferus ond yn fwy cynhwysfawr, neu’n eitemau fwy casgliadwy. Nododd Iestyn Tyne, mai prin oedd cyfrolau Gerallt Lloyd Owen, er bod y bardd hwnnw’n gynhyrchiol. Un gyfrol oedd gwaddol Waldo Williams. Tybed a fyddan nhw wedi cyhoeddi’n ddigidol fel beirdd ifanc?
Dychmygwch: ‘Fy Ngwlad’ yn ymddangos ar Twitter yn 1969. Fe fydda hi’n fedlam!
Posibiliad gwirioneddol arall yw mai’r bardd piau ddewis ei briod gyfryngau, boed hynny’n fideo, yn flog, yn llyfr print, yn llwyfan neu’n gyfuniad o’r uchod. Nid bob bardd sy’n gwirioni’r un fath.
Tybed felly ai’n hagweddau ni tuag at ddilysrwydd cyhoeddi digidol sy’n arwain at y drafodaeth hon? Ai dyna pam ein bod yn sôn am gyhoeddi digidol i’r gynulleidfa gyfoes a chyhoeddi print i’r archifau?
Angst archifo’r lleiafrif?
I ryw raddau mae’n rhaid gollwng ein hangst archifo. Mae posib archifo’n ddigidol eisoes, ond a oes gennym ni yn ein diwylliant brau, lleiafrifol, ormod o ymlyniad weithiau at wneud yn siŵr fod bob gair yn cyfri, yn cael ei gofnodi mewn hanes, i brofi ein bod ni yn fyw? Tybed ydi hyn yn ein dal ni nôl rhag ymroi i gyfryngau llai ‘parhaol’ y byd digidol?
Hoffaf yn fawr y syniad o ddatgan cerdd amrwd ar Facebook Live, fel newyddiadurwr (onid dyna fyddai Aneirin neu Taliesin wedi’i wneud o faes y gad?) Fyddai hynny ddim wedi’u stopio nhw rhag mireinio eu gwaith wedyn, ei ailddatgan ac i rhywun ei gofnodi â llaw.
Cyfleoedd y cyfryngau digidol
Bydd platfformau’n newid eto heb os. Ond mae’n anhebygol y bydd y platfformau mwyaf dylanwadol heddiw yn mynd i nunlle yn fuan iawn.
Pan fo cyfryngau barddoniaeth yn ddigidol maent yn rhoi cyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd eang yn syth bin, a chyfle i feddwl yn ddyfeisgar am ein cyfrwng ysgrifenedig neu weledol. Ond mae cyfryngau print yn caniatâu i fardd a darllennydd siarad ar draws ffiniau amser.
Dyna gryfderau’r gwahanol gyfryngau. Dim ond y ni all eu defnyddio!
Diolch am ymroi i ddarllen eto!
Mae pobl fel Llion Jones a Gurfal wrthi ers blynyddoedd ar y trydar. Mae hon yn hen ddadl.
Smai Euros,
Mae Llion a Gurfal yn gwneud yn grêt, ac yn sicir mae’n rhan o ddarlun llawer mwy. Nododd Karen Owen ar Podlediad Clera bod angen i ni beidio teimlo bod yn rhaid cyhoeddi cyfrolau – a gweld cyfryngau fel neges drydar fel cyfrwng teilwng ynddo’i hun. Yr hyn sy’n gyffrous hefyd ydi’r holl gyfryngau gweledol/sain sydd ar gael (tyda ni ddim dim ond yn sôn am drydar), nad ydi’r beridd mewn gwirionedd wedi ymgymryd â hwy eto. Bydd yn ddiddorol gweld be ddaw!