
Osian Rhys Jones ydw i. Fy mara menyn ydi cyfathrebu ar-lein, creu cynnwys digidol.
Fy mriwsion ydi bod yn fardd o bryd i’w gilydd ac yn trefnu digwyddiadau barddol o gwmpas fy nghartref yn ninas Caerdydd. Dwi hefyd yn caru’r awyr agored ac iach, yn gerddwr ac yn foregodwr o fri.
Rhai erthyglau
Cefndir a phrofiad
Dwi’n gweithio fel Cynhyrchydd y We i Brifysgol Caerdydd. Cyn hynny bûm yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu sawl prosiect arall gen i yn y cyfamser. Gallwch weld fy mhroffil LinkedIn am ragor o fanylion.