Wythnos digon pytiog fu wythnos gyntaf 2026. Ond roedd digon ynddi i roi blas ar yr hyn sydd ar y gweill eleni.
Uchafbwyntiau
- cawson ni sesiwn dda i’r proffesiwn cynnwys ddydd Mawrth. Fe ofynnais i’r tîm edrych tuag at ddiwedd y flwyddyn trwy lunio ‘pennawd newyddion’ i nodi sut beth fyddai blwyddyn lwyddiannus i ni fel unigolion yn edrych. Mae’n argoeli fel blwyddyn wahanol, anodd ei darogan, felly dyma ffordd dda o edrych tua’r gorwel er mwyn ein paratoi at y daith o’n blaenau.
- cefais sgwrs dda gydag Adrián am sut y gallwn ni gefnogi’n gilydd fel proffesiynau dylunio yn 2026 a thrwy’r trosglwyddiad i Lywodraeth Cymru.
Trosglwyddo CDPS i Llywodraeth Cymru
Mae wythnos gyntaf y flwyddyn wedi dangos nad oeddwn yn llwyr ddeall faint o egni fyddai’r trosglwyddiad yn ei ddefnyddio – o ran ymdrech ac emosiwn.
Daeth i’r amlwg yr wythnos hon y bydden ni angen gwneud gwaith i werthuso’n rolau (JEGS) er mwyn bod ar reng iawn ysgol sefydliadol y Llywodraeth. Iawn. Ond roedd hyn yn annisgwyl.
Wrth ddechrau hel meddyliau am hynny, dechreuais ystyried y berthynas honno rhwng hierarchaeth a chyfrifoldeb, a sut mae hyn yn wahanaol mewn sefydliadau sy’n ceisio gweithio’n ddigidol. Mae gan dimau digidol llwyddiannus annibyniaeth (o fewn disgwyliadau clir) i gymryd penderfyniadau. Oes, mae ychydig o awdurdod ychwanegol yn dod gyda chyfrifoldeb dros bethau fel gosod safonau, creu ffyrdd o weithio, arwain trwy esiampl, rheoli, mentora, hyfforddi ac yn y blaen. Ond rôl hwyluso yw rôl arweinydd digidol da yn y bôn. Nid rôl cyfarwyddo, hierarchaidd yw hi.
Amser a ddengys sut y bydd y pethau hyn yn trosgwlyddo i sefydliadau newydd. Mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod yn y tywyllwch am sut yn union fydd hyn yn edrych yn ymarferol – o ran strwythur, ffyrdd o weithio a disgwyliadau. Dwi’n gobetihio y bydd yr wythnosau nesaf yn gwneud hyn yn gliriach i mi.
Fe aiff y tri mis nesaf yn sydyn iawn. A bydd wedyn bron yn amser etholiad. Mewn sawl ffordd, felly, mae’n amser cyffrous.
Be hoffwn i wneud: ailddiffinio Cymraeg clir
Mae’n anodd ymroi 100% i unrhyw flaenoriaeth ar hyn o bryd yn sgil y trosglwyddo, ond mae un peth y carwn wneud, sef ailddiffinio Cymraeg clir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus modern.
Dwi wedi bod yn darllen a pendroni mean cilfachau o amser yn y mis diwethaf ac wedi darganfod ambell beth a dod i rai casgliadau:
- mae diffiniad safonol yr International Plain Language Foundation o iaith glir ar gael mewn sawl iaith, ond nid Cymraeg
- nid yw’r safon rhyngwladol hwn wedi’i fabwysiadu ym Mhrydain mewn unrhyw iaith. Yn swyddogol, mae’n ymddangos mai y British Standards Institution (BSI) fyddai’n gorfod gwneud hyn. Does dim bwrdd safonau swyddogol i Gymru, ond mae byrddau eraill.
- Yn Gymraeg, esboniad o sut i ysgrifennu Cymraeg clir sydd ganddon ni yn y canllaw Cymraeg Clir. Does dim a welais yn nunlle yn sôn am egwyddorion y safon rhyngwladol, sef beth mae darllenwyr ei angen, pa mor hawdd yw i ganfod y wybodaeth, ei ddeall a’i ddefnyddio. Hynny yw, does dim llawer o gyd-destun pam fod hyn yn bwysig. Mae’n hawdd felly mynd i gors chwaeth a hoffter personol wrth ysgrifennu neu gyfieithu i’r Gymraeg. Gall y safon roi angor i drafod pethau yn fwy gwrthrychol.
- Mae ein dealltwriaeth o ddefnyddwyr Cymraeg yn isel. Ynghyd â dechrau diffinio Cymraeg clir y tu hwnt i’r geiriau, byddai dechrau casglu a chyhoeddi ymchwil sy’n bodoli yn gam ymlaen ac yn help i roi sail tystiolaeth i resymeg iaith glir. Roedd sawl un wedi nodi dymuniad i wneud hyn yn GovCamp Cymru.
Beth am ddiffiniad felly?
Ar sail diffiniadau safonol yr International Plain Language Foundation o iaith glir , beth am ddechrau gyda:
Rydyn ni’n cyfathrebu mewn Cymraeg clir os bydd y geiriau a’r ymadroddion, y strwythur, a’r dyluniad a ddefnyddiwn ni mor glir fel ei bod yn hawdd i’n darllenwyr ni ddod o hyd i’r hyn maen nhw ei angen, deall yr hyn maen nhw’n ei ganfod, a defnyddio’r wybodaeth honno.
Saesneg yw prif sail yr addasiad hwn. Mae fersiwn fwy cryno yn bod yn Ffrangeg, ond mae’n colli fymryn o’r pwysleisiau yn ail hanner y diffiiniad yn fy marn i.
Yn bennaf, alla’ i ddim gwneud hyn fy hun. Beth amdani? Mae croso i chi gysylltu â mi.