Wrth ysgrifennu testun dolenni sy’n hygyrch ac yn ddealladwy yn Gymraeg mae angen rhoi sylw i rai ystyriaethau sy’n benodol i’r iaith.
Mae hwn yn adeiladu ar adnoddau fel:
- Links ar GOV.UK (yn Saesneg)
- Creu dolenni o fewn brawddegau (mewnol) ar LLYW.CYMRU
- Links ar Readability Guidelines (Saesneg yn unig)
Wna i ddim ailadrodd y canllawiau denfyddiol sydd yma, ond darllenwch nhw i ddeall y pwnc.
Dolenni a’r gorchmynnol
Dylai dolenni gynnwys un o’r ddau beth hyn:
- disgrifiad o’r cynnwys sydd pen arall y ddolen
- y weithred y gall y defnyddiwr ei chyflawni
Enghreifftiau o destun dolen disgrifiadol:
- Sut i wneud eich cynnwys yn fwy hygyrch
- Canllawiau hygyrchedd swyddogol
Os ydych chi’n sy’n awgrymu neu’n cynnig gweithred uniongyrchol i ddefnyddiwr o fewn brawddeg, defnyddiwch y modd gorchmynnol:
- Cysylltwch â’r swyddfa…
- Gwnewch gais am…
- Talwch am…
I esbonio ymhellach, dyma enghraifft o ddolen mewn brawddeg ar llyw.cymru:
- “i gael teithio ar fysiau am ddim gwnewch gais am bàs bws.”
Pryd i osgoi’r gorchmynnol
Ddylai testun dolen ddim cynnwys berf sy’n disgrifio sut y dylai’r defnyddiwr weithredu i gael mynediad at – neu ddeall – y wybodaeth. Hynny yw:
- Darllenwch am…
- Ewch i…
- Darganfyddwch…
- Defnyddiwch y teclyn …
- Dysgwch am…
- Cliciwch ar…
Defnyddio berfenw mewn botymau
Os yw testun botwm yn cynrychioli tasg y mae’r defnyddiwr yn ei lywio eu hunain, defnyddiwch y berfenw.
Mae botymau yn cynnwys gweithredoedd cyffredin fel:
- Dechrau arni
- Parhau
- Arbed a pharhau
- Cyflwyno
- Cwblhau
- Anfon
Defnyddio berfenw mewn penawdau, dolenni llywio a theitlau
Defnyddiwch y berfenw os ydych chi’n sgwennu:
- teitl tudalen
- pennawd
- dolen mewn dewislen
- dolen nad yw mewn brawddeg
Dyma enghreifftiau:
- Gwneud cais am…
- Trefnu…
- Archebu…
Mae hyn oherwydd mai disgrifio’r weithred mae’r rhain yn ei wneud er mwyn cyfeirio’r defnyddiwr i’r lle iawn.
Osgoi’r amhersonol
Peidiwch â defyddio ffurfiau amhersonol ‘-er’ neu -’ed’. Mae’r rhain yn llai cyfarwydd, llai uniongyrchol ac yn llai agos-atoch.
- Gweler
- Defnyddier
- Darllener
- Eled
Dolenni i gynnwys mewn iaith arall
Mae GOV.UK yn awgrymu ychwanegu “(yn Saesneg)” at ddolenni sy’n mynd i iaith arall
Er enghraifft:
- ‘trwydded car, o awtomatig i drawsyriant gyda llaw (yn Saesneg)’
I gloi
Dyma ganllawiau cyffredinol. Mae’n siŵr iawn y dowch ar draws achlysuron ble mae amwysedd, yn enwedig o fewn brawddegau. Yn y sefyllfaoedd hynny, dylech:
- gofio ac ystyried yr arfer da sydd wedi’r rannu yma
- brofi dolenni gyda darllenwyr sgrin
- blaenoriaethu eglurder ac uniongyrchedd bob tro