Fel dylunydd cynnwys fy nod yw gwneud gwasanaethau yn ddealladwy ac yn syml er mwyn gwneud bywyd pobol yn haws.
Ymhlith fy niddordebau pennaf yn y maes mae dylunio dwyieithog a’r Gymraeg yn fwy cyffredinol. Rydw i’n ddiwddar wedi bod yn trafod deallusrwydd artiffisial.
Dwi’n ‘hel wythnos‘ mor rheolaidd â phosib i rannu’r hyn dwi’n ddysgu. Mae hyn n nhraddodiad ‘weeknotes’, a chewch ddysgu am ‘weeknotes’ ar wefan Promo Cymru.
Erthyglau diweddar
Cefndir a phrofiad
Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio fel Uwch-ddylunydd Cynnwys i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Cyn hynny bûm yn gweithio i Brifysgol Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu sawl prosiect arall gen i yn y cyfamser. Gallwch weld fy mhroffil LinkedIn am ragor o fanylion.
Fy mriwsion ydi bod yn fardd o bryd i’w gilydd ac yn trefnu digwyddiadau barddol o gwmpas fy nghartref yn ninas Caerdydd.