Gweithio fel dylunydd cynnwys yw fy mara menyn. Ystyr hynny yw gwneud cynnwys yn ddealladwy ac yn syml er mwyn gwneud bywyd pobol yn haws.
Erthyglau diweddar
Cofnodi gwaith 28 Tachwedd 2025, 01/12/2025
Cofnodi gwaith: 21 Tachwedd 2025, 21/11/2025
Beth yw dylunydd cynnwys dwyieithog?, 05/09/2025
Y Gymraeg a deallusrwydd artiffisial, 01/12/2025
Cofnodi wythnos 28 Gorffennaf, 01/08/2025
Cofnodion wythnos 23 Mehefin, 27/06/2025
Cefndir a phrofiad
Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio fel Uwch-ddylunydd cynnwys i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyoeddus Digidol.
Cyn hynny bûm yn gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu sawl prosiect arall gen i yn y cyfamser. Gallwch weld fy mhroffil LinkedIn am ragor o fanylion.
Fy mriwsion ydi bod yn fardd o bryd i’w gilydd ac yn trefnu digwyddiadau barddol o gwmpas fy nghartref yn ninas Caerdydd.