Mae maes optimeiddio chwilio (SEO yn Saesneg) wastad wedi bod yn faes tywyll. Da o beth felly fyddai cynnig 5 cam i’ch helpu chi i ymddangos mewn canlyniadau chwilio.
Enw drwg
Mae nifer fawr o arbenigwyr yn y maes sy’n gallu creu gwyrthiau, gan ddefnyddio cynnwys gwell, elfennau technegol a chodio er mwyn helpu pobl i ymddangos mewn canlyniadau chwilio.
Ond mae hefyd nifer fawr ymaferwyr pen-ffordd a’u sgididau rhacs wedi hen dreodio’r ffordd. Mae rhain dros y blynyddoedd wedi bod yn honni “deall” peiriannau chwilio (tip: does neb yn eu deall). Mae eraill yn honni bwrw ati yn ddyfal i wella canlyniadau chwilio ar ran cwmni neu sefydliad, ond sydd byth yn esbonio beth yn union mae’n nhw’n ei wneud.
Pethau’n gwella
Erbyn hyn, mae nifer o’r hen driciau amheus wedi bwrw eu plwc. Mae peiriannau chwilio fel Google a Bing yn llawer rhy glyfar i gael eu twyllo gan dudalennau gwe sy’n orlawn ag allweddeiriau perthnasol, neu dudalennau sy’n dwyn cynnwys pobl eraill.
Mae ymddangos mewn canlyniadau chwilio yn fater i bawb
Bellach mae unrhyw un sy’n creu cynnwys ar-lein yn cyfrannu at helpu eu hunain neu eu sefydliad i ymddangos mewn canlyniadau chwilio yn amlach.
Y tu ôl i’r enw amwys Saesneg (oes term Cymraeg call am ‘Search Engine Optimization’?) a’r hen enw drwg sydd gan y maes, nid mater i arbenigwyr yn unig ydi hyn. Rydw i’n grediniol fod, erbyn hyn, gyfle gwirioneddol i bawb gyfrannu at yr ymdrech i ymddangos mewn canlyniadau chwilio.
Dyma fi felly yn cynnig 5 cam hawdd i chi ddechrau mynd i’r afael ag ymddangos mewn canlyniadau chwilio.
1. Ymchwil, ymchwil, ymchwil
Dyma’r cam hollbwysig y mae llawer gormod o bobl yn rhy fyrbwyll i’w ystyried wrth sefydlu gwefan neu strategaeth newydd.
Mae angen ymchwilio dwys i’ch cynulleidfa. Cwestiynau tebyg i:
- Beth yw eu hanghenion?
- Beth yw’r cwestiynau neu’r problemau y maen nhw’n eu wynebu?
- Sut allwch chi, felly, eu helpu nhw?
Gellir hefyd gofyn, be sy’n eich gwneud chi, neu’ch busnes yn unigryw?
Mae bron popeth sydd i ddilyn yn deillio o ateb y cwestiynau hyn, a mwy. Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig ydi’r cam hwn i ddeall beth yn union yw’ch nod a’ch bwriad.
Cyn ysgrifennu yr un darn o god, a chyn creu yr un darn o gynnwys, rhaid yw meddwl yn ofalus am y cwestiynau hyn.
2. Cael y strwythur cywir i’ch gwefan
Bydd hyn yn dibynnu ar yr ymchwil a wnaethoch uchod. Os ydi eich strwythur yn anghywir, mae’ch cwsmeriaid (a’r peiriannau chwilio) am gael trafferth gwneud pen na chynffon o bwrpas eich gwefan.
Y cam gwag cyffredin yw trin gwefan fel teclyn PR. Trwy greu cynnwys y wefan i adlewyrchu’r hyn rydych chi eisiau ei gyfleu yn unig, yn hytrach na’r hyn mae’ch cynulleidfa yn chwilio amdano, rydych yn gwneud cam gwag mawr â nhw.
Rhaid cofio bod bron pawb yn dod i’ch gwefan er mwyn unai cyflawni tasg benodol neu brynu nwydd. ‘Ddôn nhw ddim i’ch gwefan i dylino’ch ego chi!
3. Creu cynnwys perthnasol
Bydd y cam hwn eto’n seiledig ar y gwaith ymchwil a wnaethoch ac yn ddibynnol ar ganlyniadau hynny. Yn fras – ewch ati i ysgrifennu copi a chynnwys sydd am fod yn ddefnyddiol i bobl, ac yn eu helpu – cynnwys sydd o werth iddynt. Lluniwch gynnwys y bydd pobl am dreulio’u hamser yn ei ddarllen, cynnwys y maent am ei rannu gyda chyfeillion a chydweithwyr a chynnwys sydd wedi ei ysgrifennu’n dda.
Nid yw peiriannau chwilio mor dwp ag y buont yn y gorffennol, felly mae profiad y defnyddwyr yn holl bwysig. Maen nhw’n ystyried ffactorau fel
- yr amser sy’n cael ei dreulio ar dudalen gwe
- poblogrwydd y cynnwys
- amrywiaeth y mannau sy’n cyfeirio at y cynnwys
Yn bennaf oll – crëwch gynnwys safon yn gyson.
4. Cymryd gofal gyda’ch geirio
Mae defnyddio allweddeiriau yn dal i fod yn bwysig i raddau – er bod hen arfer o orlwytho tudalennau gyda thermau perthnasol i geisio twyllo peiriant chwilio. Cewch eich cosbi am hyn heddiw. Mae awgrymiadau pwynt 3 uchod yn rhai llawer gwell i’w dilyn.
Er hyn, wrth lunio cofnod blog, ceisiwch feddwl am derm, neu ymadrodd canolog i’r darn. Rhowch yr allweddair/ymadrodd yn y teitl ac ym mharagraff cynta’r testun. Byddai’n bosibl ei gynnwys hefyd mewn is-deitl ar y dudalen, os yw hynny’n swnio’n naturiol.
Peidiwch wedyn â meddwl yn ormodol am blannu allweddeiriau neu dermau tebyg yng ngweddill y copi – os yw’ch cynnwys yn berthnasol, yna bydd yr iaith a’r ymadroddion yn gweddu yn ddigonol.
5. Dangoswch amynedd!
Cofiwch – ni fyddwch yn cael unrhyw ganlyniadau dros nos.
Camau syml yw’r rhai uchod – gellir ychwanegu a manylu arnynt gan greu camau ychwanegol yn ôl yr angen. Ond hyd yn oed o dan y pum pennawd syml yma – mae llawer iawn o waith.
Peidiwch, da chi, â neidio i bwynt 2 neu 3 heb feddwl yn gyntaf, a gwneud ymchwil cam 1.
Wrth ddilyn rhai o’r camau uchod, dwi’n grediniol y gallwch chi wella, ac ymddangos mewn canlyniadau chwilio yn amlach. Ond mae angen creu cynnwys da yn barhaus gan ddangos dyfalbarhad. Yn wir, ymlaen mae Canaan, ac mae angen esgidiau cryf arnoch chi! Rydw i wedi awgrymu llwybr – i chi mae ei throedio.
Y gynulleidfa sydd bwysicaf
Wrth i beiriannau chwilio ddod yn fwyfwy deallus, maent yn canolbwyntio ar brofiad defnyddwyr.
Am hynny, awgrymaf i chi, er gwaethaf fy llith uchod(!) beidio â meddwl am y peiriant chwilio. Yn hytrach, meddyliwch am eich cwsmer, neu eich defnyddiwr wrth lunio cynnwys a strategaeth ddigidol. Os gwnech chi hynny, bydd y peiriannau chwilio yn siŵr o sylwi.
Oes ganddoch chi gwestiynau am y pwnc? Mae croeso i chi adael sylw isod!