Cerddi

Dyma’r lle y mae cerddi Osian Rhys Jones ar gael i chi eu darllen, eu clywed neu’u gwylio.

Byddaf yn ysgrifennu cerddi caeth a rhydd fel ei gilydd. Hoffwn feddwl fy mod yn gallu troi fy llaw at nifer helaeth o fesurau. Byddaf yn ysgrifennu llawer iawn yn y mesurau rhydd, ond y gynghanedd oedd y cariad cyntaf. Byddaf yn dal i ganu’n gaeth o bryd i’w gilydd. Heb fod yn ddigon aml, efallai…

Pe bawn i’n ysgrifennu yn yr un mesurau, yn yr un cywair, am yr un pynciau o hyd, yna gorchwyl go ddiflas fyddai barddoni i mi, ac i chi fel cynulleidfa. Hoffwn feddwl felly fy mod yn cadw fy awen yn un amrywiol, er lles pawb.

Hawlfraint

Y fi piau hawlfraint cynnwys y blog, ond mae nhw yma yn hytrach na’u bod yn pydru mewn drôr neu ddisg galed. Felly rwy’n eich hannog i’w rhannu ar y we a’u trafod fel y mynnwch, dim ond i chi roi linc yn ôl i’r wefan hon fel ffynhonnell. Os hoffech ddefnyddio’ cynnwys y blog at berwyl arall, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Felly, gobeithio y byddwch yn mwynhau yr hyn o gerddi sydd ar y blog. Gadewch sylw neu cysylltwch â mi os hoffech roi eich barn neu awgrymu be arall y gallwn fod yn ei gyhoeddi.

Llyfr Aneirin

I Aneirin, Laura a Sisial Mae fy llyfryn i’n fwy na dwrn o dudalennau neu bluen gynnil yn cosi’r cloriau; mwy na diadell o eiriau yng nghorlan y gân neu’r lludw sydd gen i’n dystiolaeth o’r tân. Mae’n un map mawr maith sy’n blygion i gyd a’r papur yn breuo o’i gario cyhyd, yn llyfr

Ar grwydr ym Mhwllheli

Mi fûm i adref dros y Pasg; adref ym Mhwllheli. Mi ges i gyflwyno cerdd am y tro cyntaf, fel rhan o lawnsiad diweddaraf cylchgrawn Tu Chwith, yn nhafarn Penlan Fawr , sef tafarn hynaf Pwllheli, ac un sydd dal yn arddel ei henw gwreiddiol hyd heddiw. Mae lot o’r hen enwau wedi mynd, ond mae chwilio amdanyn nhw

Breuddwydio Mewn Drive-thru

Dyma i chi gerdd o’r archif. (Archif 2011, hynny yw!) Cyfansoddwyd hon ger traffordd ym Mai 2011, a dyma hi’n cael ei pherfformio y tro cyntaf ym Mehefin yn Rockin’ Chair, Caerdydd. Mae’r testun isod hefyd. Breuddwydio mewn Drive-Thru Warrington Lymm, Ebrill 2011 Mae pawb ar darannau ar y cyffyrdd y dyddiau hyn, neb yn

I Draffig y Draffordd

Dyma englyn (nid “englyn bach”, pam bod rhai beirdd yn mynnu dweud “englyn bach”?) a ddaeth wrth deithio ar hyd traffordd brysur yn ardal Eisteddfod Wrecsam eleni. Gyrrant, gyrrant i’n gwared, i waliau’r ymylon, ond bydded o’i hawlio’n y lôn a’i led le i’n gwyl ar lain galed.