Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu ei benblwydd yn 60 heddiw!
Fel rhan o’r dathliadau gofynnwyd i 60 llenor neu fardd ymateb, mewn 60 gair, i un o 60 rhyfeddod Eryri. Roeddwn i’n un o’r beirdd hynny ac fe’m parwyd i â’r rhyfeddod “Llythyr Pennal”.
Llythyr Pennal
gan Owain Glyndŵr at Siarl VI o Ffrainc, 31 Mawrth 1406
Melynai’r memrynnau’n hydrefau’r hil,
‘sgubwyd eu deiliach crin o’r co’.
Gyda’r dyddiau’n byrhau a’i gysgod yn ‘mestyn,
ac yntau heb lys na chwmni,
trampiodd Owain ar herw yn hir:
ond, o Bennal, caiff yn y Bae
gyffwrdd eleni â gorwelion llynedd
yn wydr, llechen a derw;
a diferion golau o gannwyll brwydr
ar ddrych y dŵr, un nos o wanwyn.
. . . . ac nid ydw i am ymddiheuro am fynd â’r gerdd i Gaerdydd ychwaith . . .
Nid dim ond erfyn am filwyr ac arfau i drechu’r Saeson y mae Owain Glyndŵr yn Llythyr Pennal. Ynddo cawn gipolwg ar weledigaeth fodern Owain Glyndŵr ar gyfer Cymru. Yn y Gymru hon byddai dwy brifysgol, eglwys annibynnol a Senedd gyda cynrychiolaeth ynddo o bob cwmwd yng Nghymru.
Wrth i lawer iawn o bobl ifanc Eryri, fel pobl ifanc eraill ar draws Cymru, wneud y daith droellog i Gaerdydd i chwilio gwaith neu goleg, ni fu’r cysylltiadau rhwng y ddau le erioed cyn gryfed. Gan drampio draw i Fae Caerdydd, gall rhywun ymdeimlo â thaith sydd wedi rhychwantu chwe chan mlynedd, a gweld rhai o ddyheadau Owain yn Llythyr Pennal wedi’u hymgorffori, mewn bric a mortar, yn Senedd Cymru.
Mae’n siŵr mai Cymru yw un o’r cenedloedd ifanc hynaf yn y byd; yn eu plith gall rhywun synhwyro y bu copâu Eryri yn ddisymud erioed; ar y llaw arall mae goleuni llewyrchus newydd yn y Bae a hwnnw’n dawnsio ar y crychdonnau ysgafn.