Cerddi
Dyma’r lle y mae cerddi Osian Rhys Jones ar gael i chi eu darllen, eu clywed neu’u gwylio.
Byddaf yn ysgrifennu cerddi caeth a rhydd fel ei gilydd. Hoffwn feddwl fy mod yn gallu troi fy llaw at nifer helaeth o fesurau. Byddaf yn ysgrifennu llawer iawn yn y mesurau rhydd, ond y gynghanedd oedd y cariad cyntaf. Byddaf yn dal i ganu’n gaeth o bryd i’w gilydd. Heb fod yn ddigon aml, efallai…
Pe bawn i’n ysgrifennu yn yr un mesurau, yn yr un cywair, am yr un pynciau o hyd, yna gorchwyl go ddiflas fyddai barddoni i mi, ac i chi fel cynulleidfa. Hoffwn feddwl felly fy mod yn cadw fy awen yn un amrywiol, er lles pawb.
Hawlfraint
Y fi piau hawlfraint cynnwys y blog, ond mae nhw yma yn hytrach na’u bod yn pydru mewn drôr neu ddisg galed. Felly rwy’n eich hannog i’w rhannu ar y we a’u trafod fel y mynnwch, dim ond i chi roi linc yn ôl i’r wefan hon fel ffynhonnell. Os hoffech ddefnyddio’ cynnwys y blog at berwyl arall, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Felly, gobeithio y byddwch yn mwynhau yr hyn o gerddi sydd ar y blog. Gadewch sylw neu cysylltwch â mi os hoffech roi eich barn neu awgrymu be arall y gallwn fod yn ei gyhoeddi.
Ychydig wythnosau yn ôl ar S4C darlledwyd rhaglen Gŵr Geiriau ar S4C. Rhaglen oedd hi yn dilyn Gwyn Thomas wrth iddo holi artistiaid o’r hyn yr ystyriant hwy i fod yn “awen” iddyn nhw, a sut yn union yr oeddynt yn dod i greu eu caneuon, eu paentiadau neu eu cerddi. Roedd yn enghraifft berffaith […]
Os byddwch chi erioed wedi yngan y geiriau chips, chili neu tsiaen, ac yna wedi troi at bapur a beiro neu sgrin gyfrifiadur i nodi’r geiriau yna mewn brawddeg ‘gywir’ Gymraeg – byddwch chi yn siŵr o fod wedi ffeindioch hun yn teimlo bod rhaid sillafu’r geiriau hyn, yn Gymraeg, fel tsips, tsili neu, wel,
Anaml iawn y mae mapiau yn dweud celwydd. Roedd edrych ar fapiau etholiadol Prydain a Chymru yn brofiad anodd y bore ma. Mae llwyddiant ysgubol y Torïaid (a methiant dybryd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol) yn Lloegr yn golygu mai mwy o’r un peth sydd yn ein disgwyl. Roedd parhad ystyfnig cefnogaeth y Blaid Lafur (er gwaetha’r cwymp
Mae ‘na ddelwedd o Gymru sydd wedi goroesi, sy’n gyfleus iawn i rai carfannau. Mae’n codi’i ben yn aml yn y byd gwleidyddol, pan fyddwn ni’n cael ein hannog yn aml i roi ein barn i blesio eraill, i ategu rhyw bwynt (mae’r Cymry’n cytuno!), neu chwarae’r Plwmsan i Wynff rhywun arall. Ar ôl i’r baw
Y llynedd es am dro i Guatemala yn America Ganol. Cefais un daith fws hunllefus o hardd a hir, o ganoldir mynyddig y wlad, lle bûm yn aros mewn cwt diwaliau yn jwngl Lanquin, yr holl ffordd i Rio Dulce, tref ar lan afon o’r un enw, a honno â’i haber ym Môr y Caribi yn
Yr wythnos hon, daeth rhifyn gwahanol o Barddas trwy’r bocs postio. Rhifyn Coffa Gerallt yw Barddas 325; tydw i heb fynd i’r afael â’i holl gynnwys amrywiol a diddorol yr olwg eto, ond gyda thaith tren yn ôl i’r gogledd dros gyfnod yr Ŵyl, buan y daw fy nghyfle. Ond wrth ddechrau bodio’r tudalennau, dyma