Gwyn Thomas, Bardd

Teyrnged i Gwyn Thomas

Ychydig wythnosau yn ôl ar S4C darlledwyd rhaglen Gŵr Geiriau ar S4C. Rhaglen oedd hi yn dilyn Gwyn Thomas wrth iddo holi artistiaid o’r hyn yr ystyriant hwy i fod yn “awen” iddyn nhw, a sut yn union yr oeddynt yn dod i greu eu caneuon, eu paentiadau neu eu cerddi.

Roedd yn enghraifft berffaith o rychwant diddordeb Gwyn Thomas, a’i allu dihafal o i wneud pethau haniaethol, dyrys yn ddealladwy ac yn berthnasol i’w gynulleidfa. Roedd rhywun hefyd yn teimlo cynhesrwydd ac agosatrwydd cymeriad Gwyn Thomas.

Yn y rhaglen honno, roedd darn bychan yn trafod yn ddigon cignoeth am farwoldeb y bardd, ac yntau wedi gweld cyfeillion iddo fel Merêd eisoes yn gadael y ddaear hon. Ond yn yr un gwynt, roedd gobaith y bydd ei ŵyrion yma, yn dal i barablu a chymryd yr awenau oddi ar eu taid. Ceir cerddi yn trafod hyn hefyd yn y gyfrol “Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tsiocled” – cyfrol yr ydw i yn cael blas arni unwaith eto wrth ddychwelyd at rai o gerddi Gwyn Thomas yn y dyddiau diwethaf.

A’r marwoldeb hwnnw oedd y sbardun i’r gerdd hon. Fe’i cyfansoddwyd rhwng darlledu’r rhaglen a marw GT (gan wneud ymddangosiad ar Dalwrn y Beirdd BBC ar y ffordd) Yn y cefndir hefyd mae hanes fy nheulu i yn Nhanygrisiau. Hanai fy nhaid innau, a’i dad yntau o Danysgrisiau; ac er nad oes neb o’n  teulu yn byw yno bellach mae Cwmorthin a chysgod Craig Nyth y Gigfran yn dal i gyffroi ein synhwyrau o hyd pan ddychwelwn i ymweld â’r ardal.

Rhyw chwithdod ychwanegol, felly, oedd clywed am farw Gwyn Thomas ar ôl cyfansoddi’r gerdd hon. Tybed ai fi oedd y jincs, neu’r melltith terfynol arno? Neu tybed ai rhaglen Gŵr Geiriau S4C oedd yr ergyd farwol? Nid GT fyddai’r cyntaf o blith mawrion y genedl i’n gadael yn fuan ar ôl ymddangos ar raglen led-hunangofiannol ar S4C.

Neu efallai nad oes melltith, ac nad oes grymoedd tebyd yn bod, ac mai dim ond fel yma mae pethau; bod y bydysawd wedi troi ar ei echel yn grwn, a’i bod yn amser i’r troad nesaf a hwnnw’n aros am neb. Dyna fyddai sgwrs ddiddorol yng nghwmni difyr, deallus a chynnes Gwyn Thomas.

Ar ôl gwylio “Gŵr y Geiriau”, Gwyn Thomas ar S4C

Flynyddoedd cyn y’m ganed
bu’r rwbel yma’n symud:
iaith yn cropian ar lethr ddu
yn bathu fy mhlentyndod.

Daeth haenau geiriau’n ‘styfnig
i’r wyneb; un mor rhychiog
 Nyth y Gigfran erbyn hyn.
Ond plentyn fyth yw’r garreg.

Pan dawaf i rhyw ddiwrnod,
I’r rwbel caf ddychwelyd.
Ni fydd un ots mai’r hen a ŵyr,
Fy ŵyrion piau siarad.

Sŵn hen eu lleisiau newydd
Sy’n gwisgo esgyrn llynedd.
Mae’u hegni nhw o hyd ar droed,
Mor hen ag oed y mynydd.

Llun yr erthygl gyda diolch i Dogfael ar Flickr trwy Creative Commons.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *