Lumière

Yr wythnos hon, daeth rhifyn gwahanol o Barddas trwy’r bocs postio. Rhifyn Coffa Gerallt yw Barddas 325; tydw i heb fynd i’r afael â’i holl gynnwys amrywiol a diddorol yr olwg eto, ond gyda thaith tren yn ôl i’r gogledd dros gyfnod yr Ŵyl, buan y daw fy nghyfle.

Ond wrth ddechrau bodio’r tudalennau, dyma ddechrau meddwl am y flwyddyn a fu ac, fel sy’n dod i’n rhan yr adeg hon o’r flwyddyn, am y dyfodol.

Ac wrth ymbalfalu â’m Ianws mewnol, dyma feddwl am yr hyn a gollasom eleni, ond hefyd am yr hyder a’r gobaith a gynigwyd i farddoniaeth Gymraeg.

Tydw i ddim yn un am gerddi Nadolig, ond efallai mai dyma’r agosaf y dof at hynny. Mae’r ddelwedd yn lled-nadoligaidd o leiaf. Mae seren Gerallt yno hyd, a hynny am ein bod ni’n mynnu hawlio lle iddi yn ein ffurfafen newydd.

Mae un seren eleni a syrthiodd:
nes i wyrth ailgodi
‘n olau mawr tros Gilmeri
ran o’i nerth i’n hawyr ni.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *