I Lawr i Rio Dulce

Y llynedd es am dro i Guatemala yn America Ganol. Cefais un daith fws hunllefus o hardd a hir, o ganoldir mynyddig y wlad, lle bûm yn aros mewn cwt diwaliau yn jwngl Lanquin, yr holl ffordd i Rio Dulce, tref ar lan afon o’r un enw, a honno â’i haber ym Môr y Caribi yn Livingston. A dyna le rhyfeddol (ond cewch hanes y lle hwnnw rhywdro eto!)

Roedd y bws gwennol i dwristiaid ag iddo ddwsin o seddi yn llawn, ond dyw hynny byth yn rhwystr i yrrwyr Guatemala rhag gwneud ceiniog slei. Mewn tref farchnad anghysbell ond prysur tu hwnt, codwyd gŵr a gwraig a’u tri o blant afieithus. Llwythwyd eu sachau ar y to. Sachau oeddynt yn llawn deunydd o’r farchnad a hwythau, mae’n siwr, wedi gwerthu cynnyrch eu hunain yno. Daethant ran helaeth o’r ffordd i gyfeiriad Rio Dulce hefo ni. Roedd y plant yn canu , cysgu a chwarae mig gyda’r ymwelwyr egsotig pob gafael; y fam yn dwrdio weithiau, a’r tad wedi gweld y cyfan o’r blaen.

Ond doedd dim llawer yn wahanol rhwng y plant cynhyrfus a’r teithwyr tramor ar y bws y diwrnod hwnnw.

A gawn ni fynd ar un o’r bysys
A ffeirio’r mynydd am yr afon felys?

Gawn ni fynd un waith gyda’r bobol ddiarth
sy’n tynnu llun pob tŷ a buarth?

A rhoi ein sachau trymion ar y to
i weld y coed palmwydd y tu hwnt i’n bro?

Gawn ni gymryd ein troeon fesul dau
i roi’n pennau trwy’r ffenest na fedrwn ei chau?

Plis, Mam, gawn ni ganu’r hen gân
am y lôn fawr a’i theithwyr mân?

Plis, Dad, pam na fedrwch chi ddallt?
‘Da ni ddim ond eisiau’r gwynt yn ein gwallt.

Plîs gawn ni oll, cyn ein bod ni’n rhy hen
ddisgyn i gysgu’n sownd gyda gwên

A’r mynydd yn breuddwydio mor bryderus
Wrth feddwl amdanom ar yr afon felys.

Tachwedd 2014

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *