Wrth ddysgu dosbarthiadau cynganeddu i ddisgyblion sydd â chrap go lew ar y rheolau, mae cryn dipyn o drafodaeth mewn dosbarthiadau ar y mannau llwyd hynny mewn cynghanedd, lle gall rhywbeth fod yn gywir ac yn anghywir yr un pryd; lle mae chwaeth, crebwyll a barn bersonol y cynganeddwr yn ganllaw cystal ag unrhyw lyfr rheolau.
Fe wnes addo i rywun rywdro y byddwn yn sôn am rai o’r mannau hyn ar-lein. Felly dyma fynd ati i fodloni’r gîcs cynganeddol.
Yr hyn a sbardunodd yr erthygl hon oedd gweld llinell gan y Prifardd Llion Jones ar wefan Annedd y Cynganeddwyr. Llinell o englyn (da iawn i’r cricedwr a’r darlledwr hoffus Richie Benaud) ydi hi. Hoffwn ddweud cyn mynd ymhellach nad ydw i’n tynnu ar Llion yma, a dwi’n siwr na fydd yn meindio fy mod yn defnyddio llinell o’i waith o fel man cychwyn. Mae’r hyn sydd gen i dan sylw yn arfer sydd i’w glywed yn amlach, yn fy marn i, mewn talyrnau a stompiau gan feirdd hen ac ifanc fel ei gilydd.
Cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig oedd y llinell o dan sylw:
dy seibiau a’th eiriau hud
AU | th: AU | h:
Dwi wedi nodi dehongliad o’r gynghanedd o dan y llinell yn y modd y mae fy nghlust yn reddfol yn clywed y gynghanedd. Ac mae nifer o gwestiynau cynganeddol yn tynnu sylw fy nghlust i yn fan hyn. Beth am y gyfatebiaeth rhwng yr e a’r h yn ail a thrydydd ran y gynghanedd? Beth am yr -th o flaen yr eiriau? beth am yr h yn hud?
Mewn cynghanedd mae gofynion ateb yr h, fel y gofyn am y Gymraeg mewn nifer o swyddi cyhoeddus pwysig, yn ddymunol iawn ond nid yn angenrheidiol (cyn belled â’ch bod yn fodlon dysgu). Os felly, ymdrech sydd gan y bardd yma, am wn i, ar greu cynghanedd sain lafarog, gyda’r geiriau “eiriau” a “hud” yn cwblhau dau ran olaf y gynghanedd.
Ond fe sylwch uchod fy mod i’n clywed th mawr o flaen “eiriau” yn y llinell.
Beth petawn am ail-lunio’r llinell, nes bod modd benthyg y llythyren th o flaen “eiriau” a “hud”, fel ei gilydd, i greu cynghanedd gywir gyda’r cytseiniaid hynny?
“Parhau â’th eiriau wnaeth Huw”
AU | th: AU | th (h):
Yn y llinell uchod, derbyniwn nad ydym yn ateb yr h. Fe fyddem i gyd, yn derbyn bod y ddau sain th yn gryf, a’i bod yn gywir, dwi’n siŵr?
Mae’n hollbwysig i gynganeddwr, wrth arfer y grefft i ddod i adnabod a defnyddio goddefiadau a hyblygrwydd y gynghanedd ei hun (er enghraifft benthyg yr th uchod i greu cyfatebiaeth gytseiniol gynganeddol). Ond os ydyn ni mewn rhai achosion yn dweud bod modd benthyg yr th am ei bod yn naturiol i’r glust wneud hynny, i ba raddau y gallwn ni ei hanwybyddu’n llwyr pan fo hynny’n gyfleus? Onid clywed y gynghanedd fel hyn ydyn ni mewn gwirionedd:
dy seibiau | a’th eiriau | hud
AU | th: AU | h:
ac mai rhoi ein pennau, a’n clustiau, yn y tywod ydyn ni fel arall?
Gan nad oes angen ateb y gytsain olaf ym mhrifodl cynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig, mae’n gynghanedd hyblyg iawn; y mwyaf poblogaidd o blith y cynganeddion sain. Ond a ydyw’n mynd yn rhy bell i ddefnyddio’r hyblygrwydd hwnnw i’r eithaf nes creu cynghanedd sain heb unrhyw gyfatebiaeth gytseiniol i’w chynnal? Ydi hi felly yn gynghanedd lafarog ddilys? Ydi hi, wir, yn gynghanedd o gwbwl?
Petaem yn ail-lunio’r llinell yn gynghanedd sain gytbwys ddiacen e.e.
dy seibiau a’th eiriau heriol
AU | th : r AU | h : r
fe dybiwn i fod hynny’n gwbwl dderbyniol ar sail mai y ddwy r ar yr acen :r / :r sy’n cwblhau’r gynghanedd, ac nad oes angen malio am yr th a’r h (llafarog) sydd o flaen y naill acen a’r llall.
Ond rhwng “eiriau” a hud”, y tu hwnt i gyd-destun y llinell a’r mesur, does dim cyfatebiaeth gytseiniol, gynganeddol. Rhaid pennu felly mai ymdrech ar gynghanedd lafarog yw hon. Ond a fyddai’n pasio’r prawf hwnnw?
Dyma ni felly yn dod nôl at yr ‘h’ bondigrybwyll. Mae gennym gynganeddion cytbwys acennog llafarog cwbl gywir yn y traddodiad barddol (gyda diolch i Clywed Cynghanedd, dyma ambell enghraifft),
o :WEnt | y teithiodd i :IÂl
: (nt)| (t th dd) : (l)
o’i :AUr, | rhoes lawer i’w :WŶr
: (r) |(rh s l r) : (r)
Does gan neb, gan gynnwys y finnau, broblem gyda’r rhain. A dderbyniwn ni, felly, fod modd creu cynghanedd lafarog gyda h yn un o’r ‘llafariaid’? Er enghraifft,
I Went i garu aeth Huw
: (nt) | (g r) h:
Awn i ymuno’n yr hwyl
: (n) | (m n n r) h : (l)
Neu a ydi’r rhain yn ymylu ar fod yn gynganeddion mewn rhythm yn unig, gan hepgor unrhyw gyfatebiaeth gytesiniol/gynganeddol fel y disgwylid hi?
Doed gen i ddim problem gyda defnyddio h yn y dull llafarog fel y cyfryw, byddwn i’n ffôl iawn yn pledio achos yn erbyn hynny, ac yn gwneud y gwaith o gynganeddu yn anoddach i mi fy hun! Yn fwy na hynny, mae’r arfer wedi cael ei dderbyn ers blynyddoedd maith, ac nid ydyw’n amharu ar y gynghanedd fel arfer.
Ond a fyddwch chi’n meddwl weithiau, fel finnau, fod modd gwthio ffiniau’r h llafarog braidd yn rhy bell, gan lacio’r cyffion yn ormodol nes nad ydyn nhw yn gwneud sŵn?
A allwn greu cynghanedd sy’n canu wrth briodi cynghanedd lafarog a chynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig? Taflwch y cromosôn h i’r pair, a bydd gennym fabi newydd – y gynghanedd sain anghytbwys ddyrchafedig (led)lafarog!
Cywir neu beidio, mae ateb yno yn rhywle yn cuddio mewn chwaeth, crebwyll neu ddeddf. Be ddwedwch chi?