Mi ddechreuaf sôn am yr wythnos hon cyn sôn yn fras am y flwyddyn a fu.
Wythnos fu hon o gau pen y mwdwl ar nifer o dasgau gweinyddol. Bûm hefyd yn cynllunio tipyn ar gyfer digwyddiadau gyda’r gymuned y flwyddyn nesaf. Mae cael sesiynau wedi’u trefnu ar gyfer misoedd cyntaf y flwyddyn wastad yn rhyddhad!
Darllen diddorol:
- Beyond translation: Culture and language at the core of digital design
- AI isn’t a writing problem, it’s a governance problem, Content Design London
- [IMHO] The Art of Effective Agile, Matt Jukes
Beth am weddill 2025, felly?
Uchafbwyntiau 2025
Blwyddyn lwyddiannus o ddigwyddiadau i gymuned Dylunio Cynnwys Cymru. Dwi’n ddiolchgar i Roland A, Emma L, Emma W, Jenny A, Claire, ac yn arbennig Dani a Josh am eu cyngor a’u cymorth drwy’r flwyddyn. Mae’r gymuned yn teimlo’n gryfach, ond mae dal yn teimlo’n eiddil weithiau.
Cael Russel Davies i siarad gyda chymuned Dylunio Cynnwys Cymru yn yr haf
Cyhoeddi llyfr Mynediad i Bawb ym mis Awst.
Anweledig yn yr Eisteddfod, yeee.
Treulio gweddill Awst rhwng Wrecsam a deheudir Ffrainc.
Cyhoeddi cerdd yng nghyfrol Trysorau’r Nadolig.
Cefnogi’r cyfieithwyr a cheisio dod â nhw yn agosach at y maes dylunio cynnwys. Mae hyn wedi bod yn her, ac weithiau dwi wedi teimlo ‘mod i’n mabwysiadu’r proffesiwn cyfieithu. Dwi wedi bod yn eithaf agored nad oes gen i awydd nac uchelgais i fabwysiadu cyfieithu fel maes ynddo’i hun. Dwi’n lwcus bod Catrin a Iola yn hapus i ddysgu a cheisio pethau newydd.
Gweld gwaith yn CDPS yn dechrau dwyn ffrwyth – y Llawlyfr Gwasanaeth, y Llyfrgell Patrymau ac ati. Mae cymaint o bobl wedi rhoi ymdrech fawr i hyn ac mae’n dda gweld ffrwyth y llafur.
Mynychu GovCamp Cymru: roedd rhai sgyrsiau gwych, a chysylltiadau da gyda phobl cyfarwydd a newydd.
TwfCymru ddigidol a’r wefan newydd. Llongyfarchiadau a diolch i Nia Campbell, Benjy Stanton a Monika Swiatek am ei ddwyn ynghyd.
Heriau 2025
Newiadau rôl
Roedd newid cyson. Tua mis Ebrill, cawson ni gyfarwyddyd pendant bod y ffocws ar gyflawni (delifro, os leciwch chi) yn y flwyddyn hyd at yr etholiad. Does dim yn bod â hynny, wrth gwrs, ond newidiodd ffocws fy rôl yn ei sgîl. Ro’n i wedi adeiladu proffesiwn cynnwys yn CDPS o’r cychwyn; ro’n i’n rheoli, mentora, hyffroddi a chefnogi pobl; ro’n i’n meddwl am y ffyrdd o weithio (ops); yn arwain proffesiwn; yn datrys problemau ar draws y busnes gyda’r uwch-swyddogion eraill.
Roeddwn i wedi dechrau tyfu i’r rôl honno. Ond wedi hynny, roedd y disgyrchiannau mewnol wedi symud yn glir tua’r sgwadiau delifro. Roedd gwneud y gwaith yn bwysicach nac ystyried cysondeb, arfer ac arbenigedd. Am sbel go lew, doeddwn i ddim yn siŵr beth yn union oedd fy rôl ‘dylunio cynnwys’ yn CDPS. Dwi wedi bod yn rhan o sawl peth gwych. Ond mae gwahaniaeth rhwng bod yn rhan o rywbeth a theimlo perchnogaeth glir o feysydd gwaith. Er bod mwy o eglurder bellach, dwi dal yn teimlo fymryn yn ansicr.
Cyfoedion yn gadael
Her arall oedd gweld pobl yr oeddwn yn agos â hwy yn gadael. Roedd nifer yn y swyddi uwch-swyddogion fel fi. Aethant yn fuan wedi’r newidiadau rôl gan olygu ‘mod i wedi cael cyfnod eleni yn ailgyfeirio ac ailgynefino yn fy rôl fy hun.
Gyda lwc, dwi wedi cael cyfoedion newydd, gwych hefyd. A dwi’n ddiolchgar am hynny.
Fy hunaniaeth broffesiynol
Dwi wastad wedi teimlo rheidrwydd i brofi fy ngallu yn y maes cynnwys ac osgoi cael fy nhynnu mewn i wneud ‘popeth Cymraeg’ dim ond ‘mod i’n siarad Cymraeg. Yn fy rôl diwethaf, roedd ffocws ar gynnwys Cymraeg, ond fe wnes i weithio’n galed i ddangos fy mod yn deall cymaint am broffesiwn ‘dylunio cynnwys’ â’r person nesaf. Mae’n hawdd teimlo eich bod yn ffendio’ch hun mewn cwpwrdd cornel ‘Cymraeg’ ymhell oddi wrth ‘brif ffrwd’ gwaith sefydliad.
Ond dwi hefyd yn deall bod angen arbenigedd mewn maes fel dylunio dwyieithog. Dwi hefyd yn llwyr ymwybodol i’r cyfrifoldeb sydd gen i (o fy ngwirfodd fy hun) i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg yn fy maes.
Oherwydd hynny, mae’r tensiwn hwnnw o dan yr wyneb o hyd. Weithiau, dwi’n teimlo fy mod yn gogwyddo ormod tua’r ochr Gymraeg ar ran pobl erail sydd â llai o ddiddordeb neu synnwyr o gyfrifoldeb. Weithiau dwi’n teimlo y dylwn fod yn llysgennad cryfach.
Dwi’n meddwl ‘mod i’n dechrau dysgu sut i baru’r ddeubeth.
Be ddysgais i
- Dewis pryd i roi fy egni
- Ildio rhai pethau, yn erbyn fy ngreddf, ac ewyllys
- Cofleidio hunaniaeth(au)
- ‘Mod i, efallai, yn gallu laru ar weithio o adref. ‘Ddymunwn i ddim weithio mewn swyddfa bob dydd, chwaith, ond mae rhai pethau sydd jyst yn well wyneb-yn-wyneb.
- Mae awyr iach yn achubiaeth.
Ymlaen tua 2026!