Dyma’r cofnod cyntaf ers sbel. Mae hynny’n bennaf oherwydd natur bytiog ambell brosiect a bod yn gyffredinol rhy brysur a blinedig!
Dyma felly grynhoi fy wythnos ddiwethaf, sy’n eithaf nodweddiadol o’r wythnosau diweddar.
Prosiectau
- Cynnal gweithdy trefnu cardiau ar gyfer yr Hwb Rhannu Digidol. Roedd digon i gnoi cil arno yma. Diolch i bawb a ddaeth am eu hamser. Bydd rhaid dychwelyd at y gwaith hwn ar ôl gwyliau Awst.
- Adolygu cynlluniau ar gyfer gwaith y ‘Farchnad ddeinamig’ (‘Dynamic Marketplace’). Mae hwn yn teimlo fel prosiect cymhleth y bydd rhaid rhoi rhagor o adnoddau tuag at ei gyflawni.
Paratoi at ddigwyddiadau’r Eisteddfod
- Paratoi ar gyfer digwyddiad AI yn yr Eisteddfod. Dwi heb gael cyfle ryw lawer o barhau gyda syniadau a gyhoeddais yn ddiweddar am AI. Mae’n dalcen caled cadw’r bys ar y pýls ar fater mor fawr pan fo cymaint o bethau eraill yn mynd mlaen. Ces gyfle i adolygu a hel meddyliau ar gyfer y digwyddiad Deallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg dydd Iau nesaf.
- Paratoi ar gyfer y posibilrwydd o siarad ar gyfer y cyfryngau yn y digwyddiad hygyrchedd yn yr Eisteddfod. Mae’n gyffrous gweld y llyfr yn gweld golau dydd ar ôl treulio gymaint o amser yn cefnogi’r gwaith o’i olygu a mireinio’r cynnwys yn y ddwy iaith.
Cyfieithiad
- Cynigiais i gydweithwyr yn y tîm Cyfathrebu dreialu dull gwahanol o weithio gyda chyfieithwyr yn ystod mis Awst. Byddaf yn absennol am lawer o fis Awst, felly rwy’n gobeithio y bydd eraill yn gweld budd o barhau i dreialu hyn. Y nod yw dysgu o’r cyfnod hwn ac ehangu’r defnydd yn ystod yr hydref.
Gweinyddol
- Dwi wedi cael sgyrsiau am gyfeiriad cyfieithu yn CDPS.
- Dwi wedi adolygu rhai disgrifiadau swydd ar gyfer y cynllunio olyniaeth mewn swyddi yn CDPS – a hynny ar gyfer dylunio cynnwys a chyfieithu.
Cymuned
- Fe wnes sgwrsio gyda Dani am gynlluniau cymunedol ar gyfer gweddill 2025. Mae’n bleser ac yn rhyddhad cael cefnogaeth rhywun mor drefnus ac amyneddgar!
- Anfonais rai gwahoddiadau i siaradwyr posib
- Sgwrsio gydag aelodau eraill y gwasanaeth Cysylltu.
Arall
- Dwi wedi drafftio rhywfaint o gynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg gan fod cydweithiwr ar wyliau. Dwi heb wneud hynny ers sbel go lew!
- Ces ddiwrnod o wyliau dydd Iau. Es i a’r wraig am fwyd i Goodsheds yn y Barri cyn myn am dro drwy’r goedwig ger Porthceri. Roedd yn braf cael gwneud rhywbeth gwahanol!