Athro barddol

Dros y blynyddoedd rydw i wedi cynnal nifer o weithdai cynghanedd a barddoniaeth. O weithdai dydd gyda phobl ifanc i weithdai nos gyda phobl hŷn. Mae brwdfrydedd pobl i ddeall barddoniaeth a’r gynghanedd yn gwneud dysgu yn bleser.

Erthyglau


Gweithdai a hyfforddiant


Dysgu Cynganeddu i Ddechreuwyr

Dyddiad: 12 Hydref, 2021 – 8 Mawrth, 2022

Yn ystod 2021/22 roeddwn yn dysgu cynganeddu i griw o ddechreuwyr dros Zoom. Menter Caerdydd oedd yn cynnal y gwersi. Os hoffech ymuno â gwersi gyda’r fenter yn y dyfodol, cysylltwch â nhw i fod ar y rhestr aros.

Cyflwyniad i’r Gynghanedd

Dyddiad: 9 Mehefin, 2020

Rhoddais Gyflwyniad i’r Gynghanedd fel un o ddarlithoedd AmGen yr Wythnos yr Eisteddfod. Cyflwynais ychydig o hanes y gynghanedd a hanfodion y grefft dros blatfform Zoom.

Cyflwyniad i’r Gynghanedd

Dyddiad: 7 Awst, 2019

Lleoliad: Pabell Prifysgol Caerdydd, Maes yr Eisteddfod.

Fe wnes gynnal cyflwyniad i’r gynghanedd ar ffurf gwibdaith gynganeddol ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar faes Eisteddfod Sir Conwy 2019.

Sgwad Sgwennu

Dyddiad: 29 Tachwedd, 2017

Lleoliad: Ysgol Gyfun Gymraeg Plas Mawr Pentrebane Rd, Caerdydd CF5 3PZ

Mi wnes i gynnal Sgwad Sgwennu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plas Mawr oedd yn cynnwys disgyblion blwyddyn 8 o wahanol ysgolion dalgylch Caerdydd.

Ysgol Farddol Menter Caerdydd

Dyddiad: 12 Hydref, 2012 – 15 Mawrth, 2018

Dros gyfnod o rhai blynyddoedd bûm yn cynnal gweithdai ‘Ymarfer y Grefft’, sef gweithdai i’r rhai sydd a pheth profiad neu sydd eisoes yn deall hanfodion y grefft.

Scroll to Top