Talu i gystadlu'n y Steddfod - fe wnaeth Eurig Salisbury!

Talu i Gystadlu’n y Steddfod – neu beidio?

Heddiw dwi’n ymateb i drafodaeth ddifyr ar Bodlediad Clera mis Hydref ynglŷn â chystadlu ar y cystadlaethau cyfansoddi llenyddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys rhwystrau technegol megis cyflwyno ar-lein ac a ddylid talu i gystadlu’n y Steddfod?

Cyflwyno Tasgau yn Ddigidol

Dyma ddatblygiad dwi’n meddwl y bydd yn anodd iawn i’r Eisteddfod ymwrthod ag o yn y dyfodol os yw am annog cystadlu ymysg y ‘milenials’. Rydw i yn ddigon hen i wybod lle a sut i brynu stampiau. Ac yn ddigon hen i wybod mai eu llyfu dwi fod i wneud, yn hytrach na defnyddio glud. Ond dwi’n hen.

Ar y cyfan byddai’n llawer haws i nifer o gystadleuwyr, dwi’n siŵr. Ond fe fyddai heriau i’r Eisteddfod hefyd gan na fyddai pawb am newid ychwaith. Bydd rhai ymgeiswyr, yn enwedig y rhai hŷn efallai, am barhau i yrru cynnyrch drwy’r post – a byddai’n rhaid cynnal y ddwy ffordd o wneud pethau – am gyfnod o leiaf.

Byddai her dechnegol hefyd – ond gallai arbed amser sylweddol i’r Eisteddfod ei hunan. O’i weithio’n iawn – gellid hepgor ceisiadau annilys yn syth. Gellid trefnu’r holl gynnyrch i’r blychau colomen priodol yn awtomatig – a rhoi mynediad i feirniaid i’r tasgau priodol yn unig.

Soniodd Eurig ar y podlediad am yr holl amlenni cymhleth sydd angen eu cyflwyno er cyfrinachedd. Does bosib y byddai modd syml o ddileu hyn gydag un ‘proffil’ o gystadleuydd nad yw ond ar gael i swyddogion yr Eisteddfod drwy’r system? Gall y cystadleuwyr fod yn gyfrifol am eu manylion eu hunain trwy fewngofnodi. 

Mae hyn oll yn cyflwyno un her olaf wrth gwrs, sef argraffu cynnyrch. Sydd yn ei dro yn yn ffordd hir o ddod â ni at yr ail bwynt, sef tâl.

Talu i Gystadlu’n y Steddfod

Ar hyn o bryd mae’n rhaid talu am bob ymgais sy’n cael ei gyflwyno. Yn 2017 y gost fydd £5 yr ymgais, ac ar gyfer nifer o gystadlaethau llai, £5 am hyd at 5 ymgais. Felly nid oes angen morgais i gystadlu. Mae rhai wedi wfftio’r gost yn ôl egwyddor, ond dwi’n meddwl ei fod yn ddigon rhesymol. Mae’n atal llif o geisiadau nad ydynt o ddifrif. Mae hefyd yn gyfraniad i dalu am hynny o wenyddiaeth sydd yn agor a threfnu’r holl amlenni bondigrybwyll. A mynd â sieciau i’r banc. (Pethau na fyddai angen eu gwneud petai system ar-lein, a modd i dalu ar-lein ar yr un pryd, wrth gwrs.)

Ond ai breuddwyd wrach ydi hon?

Ystyriwch hyn: petai pob cynnig yn cael ei yrru’n ddigidol onid yw’n debygol mai cynyddu fyddai cost cystadlu? Rwy’n amau’n gryf y byddai beirniaid am weithio o gopïau caled fel erioed – ac fe fyddai’r gost o argraffu cynnyrch felly yn cael ei basio i’r Eisteddfod…

A chwestiwn anodd wedyn i’r beirdd a’r llenorion –  a fyddech chi yn fodlon gadael i rywun arall argraffu, cysodi a styffylu eich gwaith i’w gyflwyno i’r beirniaid? Beth petai’r tudalennau terfynol yn y drefn anghywir?!

Go brin y bydd yr Eisteddfod eisiau i achosion llys gael eu dwyn yn eu herbyn am gam-styffylu tasgau, nes gorfod talu iawn am sarhad a cham y cystadleuwyr!

Felly, ai talu i gystadlu’n y Steddfod, ai peidio? Dydi hi ond yn iawn talu yn fy marn i – ond awgrymwn y gellid hwyluso’r drefn i’r cystadleuwyr a’r Eisteddfod fel ei gilydd. Dyma her – beth amdani?

A oes gormod o bwyslais ar gystadlu?

Awgrymwyd yn natganiad Alan Llwyd bod gormod o bwyslais ar gystadlu ac mai dyma un o’r rhesymau nad yw yntau wedi cystadlu ers blynyddoedd maith.

Wrth hel meddyliau am y pwnc ac ystyried mynd ati i’w drafod yma – mae deunydd erthygl arall yn hyn, felly dewch yn eich holau i weld honno cyn hir!

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *