Yr wythnos hon dwi wedi bod yn pendroni beth yw dyfodol y we agored? A lle ydym ni am fod yn cyhoeddi ein cynnwys digidol yn y dyfodol hwnnw?
Yn ddiweddar fe ddois ar draws erthygl ddiddorol iawn ar wefan The Verge, a oedd y trafod sut aethant hwy ati i i ddiweddaru eu cynnwys ar-lein, gan ail-drefnu’r jig-sô cynnwys i fod yn addas i’r darlun digidol sydd gennym heddiw.
Yn fyr, yr hyn mae’r erthygl yn ei ofyn ydi beth yn union yw rôl y we agored yn y dyfodol? Mae llawer iawn mwy o ddefnyddwyr bellach yn treulio’u hamser ar-lein yn bennaf ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn defnyddio Google yn benodol i chwilio am eu cynnwys.
Gall hyn oll olygu bod yr amser mae defnyddwyr bellach yn ei dreulio yn pori’r we agored yn mynd yn llai ac yn llai. Mae’n rhaid i’n hymdrechion ni ymateb i’r heriau hyn, a bod yn barod i osod ein cynnwys o flaen defnyddwyr yn y llefydd mwyaf addas iddyn nhw.
Beth yw ‘y we agored’?
Yn draddodiadol yr hyn a elwir yn ‘we agored’ yw’r platfformau ar-lein, a’u cynnwys, sydd ar gael i bawb, am ddim ar unrhyw adeg. Fel rheol gellir cael mynediad at y platfformau hyn trwy gyfrwng unrhyw borwr gwe fel Google Chrome, Firefox neu Internet Explorer. Byddai modd dod o hyd i’r cynnwys hefyd trwy beiriannau chwilio amrywiol.
Gall unrhyw wefan sydd â chyfeiriad gwe a sydd yn cynnig cynnwys agored yn cyfri yma. Yr enghraifft amlycaf o’r we agored fyddai Wikipedia.
Beth yw’r we gaeëdig?
Daeth twf mawr i’r we gaeëdig gyda dyfodiad ffonau clyfar, ac yn enwedig yn sgil goruchafiaeth apiau yn hytrach na phorwyr gwe. Mae gan lawer o apiau poblogaidd gynnwys nad yw ar gael ar y we agored o hyd. Meddyliwch am apiau Facebook a Snapchat.
Mae’n aml yn cael ei hwyluso gan systemau neu ecosystemau caeëdig fel iOS Apple, a’r AppStore.
Mae’r we gaeëdig yn haws i’w reoli ac mae cyhoeddwyr yn mynd i’w chael hi’n haws gwneud arian ohono.
Ceir hefyd yr hyn a elwir y we dywyll. Apiau sgwrsio yn aml yw’r rhain, fel What’s App. Ond dyna sgwarnog arall..
Lle mae’r cyfleoedd a’r twf i grëwyr cynnwys fel ni?
Tydw i ddim yn meddwl mai mater o ddu a gwyn ydi hyn – hynny ydi, nad oes yn rhaid dewis rhwng y we agored a’r we gaeëdig. Fe all y ddau beth gyd-fyw i ryw raddau.
Y pethau pwysig yma i chi ei ystyried yw
- Lle mae’ch cynulleidfa yn treulio’u hamser ar y we?
- Lle, a sut, mae nhw’n dod ar draws pethau sydd o ddiddordeb iddynt?
- O ba ffynonellau mae pobl yn dod i’ch gwefan?
Er mwyn cael ateb i’r cwestiynau yma bydd angen i chi siarad gyda defnyddwyr go iawn ac edrych yn fanwl ar eich ystadegau (e.e. yn Google Analytics) i ddeal arferion eich hymwelwyr.
Popeth ar y wefan?
Mae arfer eithaf ceidwadol (nid bod hynny’n beth drwg) o ystyried fod angen i bopeth ddechrau a gorffen gyda’r wefan, a bod angen i bob darn o gynnwys fod, yn y pen draw, yn rhywle ar y wefan fel nad yw’n gallu ‘diflannu’, ac fel bod ‘popeth mewn un lle’.
Ond trwy dechnolegau fel Ffrydiau RSS gall cynnwys eich gwefan weithio yn galetach ar eich rhan dim ond i chi osod y seiliau.
Google AMP
Os yw rhan helaeth eich defnyddwyr yn dod i’r wefan trwy beiriant chwilio Google (mae’n debygol iawn mai dyna’r realiti) a bod gennych gynnwys deinamig fel blog neu newyddion cyson ar y wefan, dylech ystyried manteision Google AMP.
I bob pwrpas mae hwn yn creu fersiwn cyflym iawn o gynnwys eich gwefan i’w arddangos i ddefnyddwyr, ac mae’n ddefnyddiol iawn i rai sy’n chwilio ar ddyfeisiau symudol. Mae’n ddyddiau cynnar, ond disgwyliwch weld y dechnoleg yn cael ei mabwysiadu’n ehangach o amgylch y we (mae Pinterest eisoes yn arddangos erthyglau ar ffurf Google AMP).
Instant Articles
Dyma fersiwn Facebook o AMP, sy’n arddangos erthyglau cyflym yn ap Facebook. Nid yw’r dechnoleg yn agored, felly dim ond ar wefan Facebook mae’n debygol y bydd hwn yn gweithio.
Ond os oes gennych dipyn o draffig yn dod i’ch gwefan o Facebook, mae’n werth ystyried sut y gall hwn fod o fudd i gynnal ddiddordeb eich defnyddwyr. Byddech yn cyflwyno cynnwys o fewn app Facebook, heb orfod llwyth eich gwefan chi. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os yw’ch gwefan ychydig yn araf yn llwytho a bod llawer o’ch defnyddwyr yn defnyddio teclynnau symudol.
Fideo
Mae’n glir bellach fod cynnwys fideo, a fideo byw, yn mynd i fod yn bwysicach dros y blynyddoedd nesaf, a hynny ar Facebook a YouTube yn enwedig. Bydd modd gosod y fideos yma yn ôl ar ein gwefannau, ond ar Facebook bydd sylw mawr yn cael ei roi i gynnwys fideo a’r gallu i ddefnyddio system sylwadau Facebook i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r bobl o flaen y camera.
Ai dyma ddiwedd y we agored, felly?
Nid dyma diwedd y we agored yn fy marn i, ond mae angen ystyried pethau fel hyn: mae eich cynnwys digidol yn jig-sô o ddarnau amrywiol. Mae angen bod yn barod i’w gosod yn y ffordd sy’n synhwyrol. Yn anffodus, ma’r darnau yn newid eu siap yn gyson, felly mae’n rhaid i chi aros ar flaenau’ch traed a bod yn barod i newid o hyd!
Byddwch yn gweld fod rhai darnau sydd wastad am fod yn ganolog ac ar eich gwefan o hyd, ac yn eithaf disymud. Fe welwch fod angen i eraill fod yn ddarnau o gynnwys sy’n symud o un platfform i’r llall yn ôl y gofyn.
Mwynhewch y jig-sô!
Oes gennych chi farn ar yr uchod? Rhowch wybod i mi yn y sylwadau isod.