• Skip to content
  • Skip to footer

Osian Rhys Jones

Bardd a Chynhyrchydd Digidol

  • Y Bardd
    • Cerddi
    • Barn
    • Comisiynu Cerdd
    • Newyddion
    • Bragdy’r Beirdd
  • Tanysgrifio
  • Cysylltu
  • English
Rydych yma: Hafan / Cerddi / Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2017

Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2017

05/08/2017 Gan Osian Gadael sylw

Tlws Coffa Cledwyn Roberts a Tlws Coffa Dic Jones

Dwi wedi cael o fraint o dderbyn Tlws Coffa Cledwyn Roberts am y delyneg orau yng nghyfres Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru yn 2017. Mewn cystadleuaeth lle mae llawer iawn o delynegwyr medrus tu hwnt, mae’n anrhydedd i dderbyn y wobr.

Ceri Wyn Jones, Meuryn y gyfres, sydd yn dyfarnu’r wobr trwy gloriannu holl delynegion y gyfres. Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno cyn ffeinal cyfres Talwrn y Beirdd ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod. Roeddwn i eleni yn aelod o dîm y Glêr, oedd yn cystadlu’n y ffeinal yn erbyn y Ffoaduriaid.

Tlws Coffa Cledwyn – yr ail waith

Dwi wedi ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts unwaith o’r blaen, a hynny saith mlynedd yn ôl yn 2010. Gerallt Lloyd Owen oedd y beirniad bryd hynny, a finnau ond yn gyw bach yn potshan ganu. (Dyna ydw i o hyd, debyg!)

Blinder

Blinder oedd testun y delyneg a osodwyd inni yn y rownd go-gynderfynol yn erbyn Criw’r Llew Coch.

Yr hyn ddaeth i’m meddwl yn gyntaf oedd yr adeg pan fu Nain yn aros gyda ni, a hithau, o bryd i’w gilydd yn ffwndrus. Bob hyn a hyn byddai’n taflu ochenaid fawr ac yn dweud “Dwi ‘di blino”.

Dyma’r gerdd a enillodd Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2017 yn ei chyfanrwydd:

Ei defod ddi-ildio yw codi’n blygeiniol.
Tra bo’r gwlith mor loyw â’i llygaid,
ac arogl blodau dyddiau
yn dal mor gyfarwydd, mor gyffyrddadwy.

Taera eu bod hwythau yma’n rhywle;
stŵr y traed bychain yn rhuthro’r grisiau
a chysgod gŵr yn croesi’r buarth.

Mae’n troi bwlyn y weirlas â’i dwrn crynedig,
i’r chwith, i’r dde, gan chwilio llais o’r twrw chwâl
fel iaith cwmnïaeth y caeau
yn dychwelyd drwy’r tarth. Rhaid gosod y llestri.

Mae’r wawr yn codi fel bara brwd;
bydd y pelydrau cyntaf yn torchi’u llewys,
yn taenu’u gwenau’n dew ar fwrdd y gegin fach.

Ond does dim yn cydio; mae’r tonfeddi’n rhy garbwl,
y geiriau yn gwmwl, a’r tes am y tŷ.
Caiff hynny o gwmni yfory, drachefn,
i wylio’r buarth, a’i ffedog yn lân.

Yn perthyn i: Cerddi, Newyddion Tagiwyd gyda: Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, Telyneg

Tanysgrifio

Byddwch y cyntaf i glywed y cerddi!

Osian Rhys Jones

Dyma gofnod gan Osian Rhys Jones.

Mae Osian yn cyhoeddi cerddi a myfrydodau yma ac yn rantio o bryd i'w gilydd

Mwy amdanaf fi…

Reader Interactions

Leave a Reply Cancel reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Footer

  • Facebook
  • RSS
  • Twitter
  • YouTube

Chwilio’r wefan

  • Y Glêr
  • Her 100 Cerdd 2012
  • Bragdy’r Beirdd
  • Archif
  • Amdanaf Fi
  • Cysylltu
  • Comisiynu Cerdd
  • Tanysgrifio

Hawlfraint © 2019: Osian Rhys Jones