Bragdy’r Beirdd

Logo Bragdy'r Beirdd
Logo Bragdy’r Beirdd

Rydw i’n un o drefnwyr nosweithiau Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â threfnu nosweithiau yng Nghaerdydd, aeth Bragdy’r Beirdd â nosweithiau i’r Eisteddfod bob blwyddyn, mewn nosweithiau fel Iolo! (2012) a Wylfa B (2017).

Ym mis Mai 2020, cyhoeddwyd Swig Sydyn – noson farddol ar-lein y Bragdy – am y tro cyntaf.

Sefydlwyd y nosweithiau yn 2011 gen i, Rhys Iorwerth a Catrin Dafydd. Mae nosweithiau yn dal i ddigwydd yn lled reolaidd yng Nghaerdydd. Ers i Rhys symud i Gaernarfon, mae nosweithiau’n cael eu cynnal yno hefyd.

Rhagor o ddarllen


Gigs


Dyddiad: 29 Mai, 2020

Roeddwn yn rhan o’r tîm a lansiodd sioe gyntaf Swig Sydyn – sef noson ar-lein gyntaf Bragdy’r Beirdd, ar y cyd â Rhys Iorwerth, Llŷr Gwyn Lewis ac Ifor ap Glyn. Roeddwn yn gyfrifol am recordio’r digwyddiad, golygu’r fideo a’i rannu ar YouTube a Facebook.

Dyddiad: 17 Tachwedd, 2019

Dyma un o ddigwyddiadau Bragdy’r Beirdd i ddathlu llwyddiant Jim Parc Nest.

Dyddiad: 6 Awst, 2019

Lleoliad: Gwesty’r Eryrod, Ancaster Square, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LG

Trefnu a pherfformio cerdd yn noson Gwir fel Gwydir. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Dyddiad: 8 Awst, 2017

Lleoliad: Fferm Penrhos, Bodedern

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Wylfa Beirdd – noson yn cyflwyno cerddi a chaneuon hwyliog a deifiol, dwys a digri yn dathlu Mawredd Môn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Dyddiad: 4 Awst, 2015

Lleoliad: Clwb Rygbi COBRA, Meifod SY22 6DA

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Anntastig – noson o gerddi a chaneuon i ddathlu mawredd a mwynder Maldwyn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Dyddiad: 3 Gorffennaf, 2015

Lleoliad: Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN

Noson hwyliog yn ystod wythnos Tafwyl 2015. Roedd Aneirin Karadog a Mr ormula yn westeion a Meic P yn DJ aer y noson.

Dyddiad: 11 Rhagfyr, 2014

Bûm yn trefnu a pherfformio ym mharti Nadolig y Bragdy yn 2014. Cawsom groesawu neb llai na Phrifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, Guto Dafydd fel gwestai.

Dyddiad: 6 Awst, 2014

Lleoliad: Clwb Criced Llanelli

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson ‘Yn y Coch’ yn Llanelli. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Dyddiad: 6 Awst, 2013

Lleoliad: Clwb Rygbi Dinbych, Ffordd Y Graig, Denbigh LL16 5US

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Siwper Cêt ac Ambell Fêt – sesiwn i ddathlu campau a rhempau llenyddol Bro Dinbych. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Dyddiad: 27 Medi, 2012

Lleoliad: Rockin’ Chair, Glan yr Afon, Caerdydd

Roeddwn yn cyd-drefnu ac yn perfformio mewn noson gyda Mari George a Gruffudd Owen fel gwesteion. Un o ddigwyddiadau Bragdy’r Beirdd

Dyddiad: 7 Awst, 2012

Lleoliad: Yr Hen Hydd Gwyn, Wine St, Llanilltyd Fawr CF61 1RZ

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Iolo! – sesiwn i ddathlu campau a rhempau Iolo Morganwg. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Dyddiad: 30 Mehefin, 2012

Lleoliad: Plas Dinefwr, Llandeilo SA19 6RT

Cynhaliwyd Bragdy Bach ar lwyfan Gruffudd yng Ngŵyl Dinewfwr dan ofalaeth Llenyddiaeth Cymru.

Dyddiad: 21 Mehefin, 2012

Lleoliad: Rockin' Chair, Glan yr Afon, Caerdydd

Cyd-drefnais noson Bragdy’r Beirdd arbennig iawn gyda geraint jarman, gwennan Evans a Llwybr Llaethog yn westeion. Darllenodd Geraint gerddi dafliad carreg o lle cafodd ei fagu ar Brook Street, Glan yr Afon.

Does dim canlyniadau
Scroll to Top