Map Etholiadol Cymru

Anaml iawn y mae mapiau yn dweud celwydd.

Roedd edrych ar fapiau etholiadol Prydain a Chymru yn brofiad anodd y bore ma.

Mae llwyddiant ysgubol y Torïaid (a methiant dybryd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol) yn Lloegr yn golygu mai mwy o’r un peth sydd yn ein disgwyl.

Roedd parhad ystyfnig cefnogaeth y Blaid Lafur (er gwaetha’r cwymp bychan) yng Nghymru ynghyd â chynnydd yn nifer seddi’r Torïaid ac yng nghanran pleidlais Ukip (sydd nawr yn drydedd blaid yng Nghymru – meddyliwch!) yn dangos yn glir mai pobl sy’n dal i fyw mewn ofn a dadrithiad ydym ni’r Cymry.

Mae’r Alban, hyd yn oed cyn canlyniadau yr Etholiad Cyffredinol, wedi dewis gobaith, a dyfodol gwell. Pryd wnawn ninnau hynny? I bwy mae’n teyrngarwch ni?

Am nawr, rydym ni’n cael y llywodraeth yr ydym yn ein haeddu. Boed ni’n pleidleisio trosti ai peidio. Lliwiau cleisiau a briwiau yw rhai Cymru heddiw. Mae ‘na waith i Ddychmygu Cymru newydd, bois bach. Gwaith sy’n fwy nac unrhyw blaid wleidyddol.

Nid ar hap y mae mapio
Cymru las, Cymru lawn anghofio.
Amryliw, triw, yn eu tro
Yw’n pinnau ninnau heno.

2 thoughts on “Map Etholiadol Cymru”

  1. “Cymru las, llawn anghofio” ?? 7 syll. ??

    Llefaru, mewn llef yr iaith

    I obaith bedd diweddol

  2. osianrhysjones

    @AlisdairM Dwi wedi gosod yr englyn fel 7 – 10 – 7 -7, am fy mod yn chwithig. dyna pam fod yr ail linell yn od!

Gadael sylw

Your email address will not be published. Required fields are marked *