Yn Eisteddfod Sir Gâr 2014 yn Llanelli, pe byddech wedi blino ar dramwyo’r maes, neu laru ar gystadlu a chanu a chwrw mewn gwydrau plastig, gallech fod wedi mynd am hoe hamddenol ar lawntiau Clwb Golff Machynys. Neu “Machynys Clwb Golff”, fel y dywed eu gwefan. Neu “Machynys Peninsula Golf Club & Premier Spa”, os mynnwch.
Fûm i ddim yno fy hun gan na fûm i erioed mwy na chadi brwdfrydig i’m Tad ambell dro pan âi yntau i chwarae rownd ar y Sul rhwng twyni a choedydd bythwyrdd Clwb Golff Pwllheli. Os dim arall, roedd yn esgus i beidio â mynd i’r capel.
P’run bynnag, mae’n debyg y byddai gen i lawer mwy o ddiddordeb gweld olion hen weithfeydd tun Machynys a’r cartrefi a godwyd i’r gweithwyr. Ond ers eu dirywiad a’u cau yn y 1960au, nid oes olion ar ôl i’w gweld erbyn hyn.
Dyma ddod â ni felly at drafod y gynghanedd, ac yn benodol rhai ystyriaethau am yr ‘h’ a’i defnydd o fewn y gynghanedd.
Mae’n hen arfer bellach i feirdd hepgor ateb yr ‘h’ mewn cynghanedd, gan drin ei sain bron gyfystyr â llafariad.
Prysuraf i ddweud nad trafod cynganeddion mewn dull sy’n ceisio eu categoreiddio yn ‘gywir’ nac yn ‘anghywir’ ydw i. Achos y tuedd i chwilio am gywirdeb cynganeddol absoliwt sy’n llesteirio dysgwyr a chynganeddwyr fwy profiadol fel ei gilydd, weithiau. Mae modd taro pêl golff yn y glaswellt brasaf os ydi’ch swing yn ddigon da!
Ystyriwn ni felly’r cynganeddion yma:
Ewch heno i Fachynys
Chwi henwyr o Fachynys
Haenog yw tir Machynys
Awn heno i Fachynys
Ymhob un o’r cynganeddion isod mae ‘h’ sydd yn chwarae rhan; hynny ydi, mae pob cynghanedd yn anwybyddu’r ‘h’ yn eu tro, a hynny i raddau gwahanol.
Sut mae nhw’n swnio i chi?
Gyda chlust astud, dwi’n siŵr y byddwch yn sylwi bod yr ‘h’ yn hanner gyntaf y llinell, fesul enghraifft, yn dod yn fwyfwy amlwg yn y llinell.
Dewisais sain gref yr ‘ch’ yn fwriadol i arddangos ei heffaith ar yr ‘h’. Yn yr enghraifft gyntaf, mae sain yr ‘ch’ yn llyncu sain yr ‘h’ yn gyfan gwbl. Rydan ni wedi taro’r bêl i ganol y ffordd deg* yn fan hyn. (*fairway – diolchiadau i Briws)
Yn yr ail a’r trydydd enghraifft mae’r bêl yn dal ar yr un ffordd deg, ond efallai bod y twll anoddach i’w gyrraedd o fan hyn.
Yn yr ail enghraifft mae sain yr ‘h’ wedi ei gwahanu oddi wrth yr ‘ch’, felly’n sain ar ei phen ei hun. Ond mae cryfder yr ‘ch’ yn dal i daflu cysgod drosti rhyw fymryn. Heb yr ‘ch’ yn y drydedd enghraifft, rydym yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr ‘h’, nes ein bod yn hanner disgwyl ei chlywed yn ail hanner y llinell, ond ch:n yw’r cyfuniad a gawn ni yn ‘Machynys’. Ond bownsiodd y bêl yn weddol garedig yr un fath.
Wrth ddod at yr enghraifft olaf wedyn, down ar draws yr enghraifft eithafol, ond cyfffredin, o ddefnyddio dau oddefiad fel un. Mae’r llinell yn goddef yr ‘n’ wreiddgoll a’r ‘h’ sy’n ei dilyn, er mwyn ateb y gynghanedd fel hyn:
(n)(h):n / (f) ch:n
Ond i mi, mae tipyn o wahaniaeth rhwng y cyfuniad ‘n + h’ y llinell hon a ‘ch + h’ y llinell gyntaf. Ystyriwch y llinell hon:
Un annwyl ond cynhennus
n : n / (n d c) n (h) :nn
Dydi’r ‘n’ ddim yn yddfol ymwthgar fel yr ‘ch’, felly mae mwy o wahaniaeth sain rhwng y cyfuniadau ‘n & h’ ac ‘ch & h’, gyda sain yr ‘h’ yn amlycach yn y cyntaf.
Cofiaf Karen Owen yn beirniadu tuedd beirdd i osgoi’r ‘h’ a’r ‘n’ ar ddechrau llinell, gan osgoi ateb ‘n’ wreiddgoll ar ôl yr ‘h’! Ffordd ddiog o gael y gair “heno” i ddechrau’r llinell, o bosib. Fy nhyb i ydi nad yw’r cyfan wedi’i golli yn y bedwaredd enghraifft uchod (‘Awn heno i Fachynys’), ond clywaf lais rhywle y tu ôl i mi, trwy’r gwynt, yn gweiddi “Ffôr!”
Gobeithio mai gweld posibiliadau ac nid rhwystrau a thramgwyddau fyddwch chi, boed hynny wrth chwarae golff, neu chwarae â’r gynghanedd. Clwb croesawgar yw un y gynghanedd, wedi’r cyfan; does dim diwrnod arbennig i’r merched (croeso unrhyw bryd!) ac mae croeso i chi wisgo jîns.
Un ystyriaeth cyn hel eich syched tua’r pedwaredd twll ar bymtheg: meddyliwch am oddefiadau’r gynghanedd fel handicap golff. Mae nhw yno i helpu’ch cerdyn sgorio, ond eu cael i lawr yw’r nod; mireinio a chysoni’ch swing yn wyneb yr elfennau.
Neu a oes ysbrydoliaeth i’w gael yng ngeiriau neb llai na Winston Churchill pan ddywedodd:
“Golf is a game whose aim is to hit a very small ball into an even smaller hole, with weapons singularly ill-designed for the purpose.”
Tybed.