Promoter

Promoter icon

I have done a lot of work promoting poetry and other poets. In 2011 I was one of the founders of the Bragdy’r Beirdd (Poet’s Brewery) evenings in Cardiff, alongside Catrin Dafydd and Rhys Iorwerth. I’m also on the working group of Barddas – the Welsh poetry society since 2017.

Gwaith hyrwyddo


Lansiad nofel Iwcs – Dal y Mellt

Dyddiad: 14 October, 2019

Lleoliad: Columba Club, 88 Heol Llandaf, Caerdydd. CF11 9NN

Cefais y cyfle i lywio noson o gerddoriaeth a cherddi i ddathlu lansio nofel Iwcs Dal y Mellt.Cefais y cyfle hefyd i holi Iwcs am ei nofel newydd.

Gwir fel Gwydir

Dyddiad: 6 August, 2019

Lleoliad: Gwesty’r Eryrod, Ancaster Square, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LG

Trefnu a pherfformio cerdd yn noson Gwir fel Gwydir. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Cydlynu Cynllun Bardd y Mis i Barddas

Dyddiad: 1 August, 2018 – 1 August, 2020

Fel aelod o Bwyllgor Gwaith Barddas, rydw i yn cydlynu cynllun Bardd y Mis, gan drefnu beirdd i gymryd rhan yn y cynllun.

Noson Wylfa Beirdd

Dyddiad: 8 August, 2017

Lleoliad: Fferm Penrhos, Bodedern

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Wylfa Beirdd – noson yn cyflwyno cerddi a chaneuon hwyliog a deifiol, dwys a digri yn dathlu Mawredd Môn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Anntastig

Dyddiad: 4 August, 2015

Lleoliad: Clwb Rygbi COBRA, Meifod SY22 6DA

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Anntastig – noson o gerddi a chaneuon i ddathlu mawredd a mwynder Maldwyn. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Parti Nadolig Bragdy’r Beirdd, Rhagfyr 2014

Dyddiad: 11 December, 2014

Bûm yn trefnu a pherfformio ym mharti Nadolig y Bragdy yn 2014. Cawsom groesawu neb llai na Phrifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, Guto Dafydd fel gwestai.

Yn y Coch!

Dyddiad: 6 August, 2014

Lleoliad: Clwb Criced Llanelli

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson ‘Yn y Coch’ yn Llanelli. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Siwper Cêt ac Ambell Fêt

Dyddiad: 6 August, 2013

Lleoliad: Clwb Rygbi Dinbych, Ffordd Y Graig, Denbigh LL16 5US

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Siwper Cêt ac Ambell Fêt – sesiwn i ddathlu campau a rhempau llenyddol Bro Dinbych. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Bragdy’r Beirdd Medi 2012

Dyddiad: 27 September, 2012

Lleoliad: Rockin’ Chair, Glan yr Afon, Caerdydd

Roeddwn yn cyd-drefnu ac yn perfformio mewn noson gyda Mari George a Gruffudd Owen fel gwesteion. Un o ddigwyddiadau Bragdy’r Beirdd

Iolo!

Dyddiad: 7 August, 2012

Lleoliad: Yr Hen Hydd Gwyn, Wine St, Llanilltyd Fawr CF61 1RZ

Roeddwn yn un o gyd-drefnwyr noson Iolo! – sesiwn i ddathlu campau a rhempau Iolo Morganwg. Un o ddigwyddiadau eisteddfodol Bragdy’r Beirdd.

Geraint Jarman yn Bragdy’r Beirdd

Dyddiad: 21 June, 2012

Lleoliad: Rockin' Chair, Glan yr Afon, Caerdydd

Cyd-drefnais noson Bragdy’r Beirdd arbennig iawn gyda geraint jarman, gwennan Evans a Llwybr Llaethog yn westeion. Darllenodd Geraint gerddi dafliad carreg o lle cafodd ei fagu ar Brook Street, Glan yr Afon.

Scroll to Top