Y Glêr

Tîm Talwrn Y Glêr
Tîm Talwrn Y Glêr ar faes Eisteddfod Môn 2017 ar ôl ennill cyfes Y Talwrn.

Mae’r Glêr yn dîm ar gyfres radio Y Talwrn ac hefyd yn cymryd rhan mewn ymrysonau a heriau.

Aelodau’r Glêr

Mae tri aelod yn y tîm ar hyn o bryd:

Roedd Iwan Rhys hefyd yn aelod tan 2018.

Hanes ac atgofion

Os yw fy fy nghof yn gywir, rydw i wedi bod yn aelod o’r Glêr ers misoedd gaeaf 2004/2005. Roeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth ar y pryd.

Roedd fy ngornest gyntaf ar y Talwrn yn Llanbrynmair. Ni chofiaf yn erbyn pwy, ond buom yn fuddugol y noson honno. Cofiaf hefyd i Gerallt roi naw a hanner hael iawn i gân a thelyneg gan newydd-ddyfodiad.

Rydym wedi ennill cyfres y Talwrn ar BBC Radio Cymru ddwy waith.

Cartŵn o dîmau Talwrn Y Glêr a'r Ffoaduriaid gan Huw Aaron
Cartŵn o dîmau Talwrn Y Glêr a’r Ffoaduriaid gan Huw Aaron.

Cwmni beirdd

Dros y blynyddoedd bûm yn ffodus iawn ddysgu a rhannu wrth ochr cystal beirdd a chyfellion â beirdd y Glêr.

Rydym wedi teithio led-led y wlad i ymrysona, stompiau a thalyrnau. Y ni oedd y 4 cyntaf i wneud Her 100 cerdd Llenyddiaeth Cymru.

Rydym wedi mynd o fod yn feirdd ifanc addawaol i fod yn llai ifanc a llai addawol. Ond rydym, dwi’n gobeithio, yn fwy llwyddiannus.


Rhagor o ddarllen


Gwobrau


Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2017

Dyddiad: 04/08/2018

Enillais Dlws Coffa Cledwyn Roberts am delyneg orau cyfres 2017 o’r Talwrn gyda cherdd a gyda’r gerdd “Blinder”.


Cyfres y Talwrn 2017

Dyddiad: 05/08/2017

Roeddwn yn rhan o dîm Y Glêr – a enillodd gyfres y Talwrn yn 2017.


Cyfres y Talwrn 2012

Dyddiad: 04/08/2012

Roeddwn yn rhan o dîm Y Glêr – a enillodd gyfres y Talwrn yn 2012.


Tlws Coffa Cledwyn Roberts 2011

Dyddiad: 06/08/2011

Enillais Dlws Coffa Cledwyn Roberts am delyneg orau cyfres 2011 o’r Talwrn gyda cherdd a elwir bellach yn “The Man Who Sold the World”.


Gigs


Noson Plaid Cymru X

Dyddiad: 11/09/2008

Lleoliad   Y Cŵps, Aberystwyth

Un o nosweithiau chwedlonol Y Glêr pan roddwyd noson o adloniant barddol i gynadleddwyr y blaid. Perfformiais gerdd o fawl i Elfyn Llwyd ar y noson.