Dwi wastad wedi bod yn hoff o gerddoriaeth blŵs. A thua’r adeg yma o’r flwyddyn, pan mae’n tywyllu, mae’r blŵs yn ymgyrffori ei hun bron yn y dyddiau byrion, y glaw a’r gwynt Cymreig, a rheiny’n lapio amdanom nes bod y felan yn rhan o fywyd bob dydd. Heb sôn am ei bod hi’n tueddu i fod yn dymor newyddion drwg yn Nhachwedd cyn daw’r newyddion at ei Dymor Dwl yn Rhagfyr.
Mae diwrnod byrra’r flwyddyn yfory, ac yn ddiwedd y byd yn ôl rhai sy’n coelio’r Maiaid. Ond gan ddiystyru’r heip apocalyptaidd daw gobaith eto a rhyw oleuni yn nôl i’r byd. A boed rhywun yn Anffyddiwr, yn Bagan neu’n Gristion, mi aiff y Felan i’w ogof am flwyddyn arall.
Ym Mharti Nadolig Bragdy’r Beirdd eleni mi gymrais innau fy nghyfle i ganu’r blŵs. Ond canu fel mae beirdd yn canu, wrth gwrs; alla i ddim beltio hi fel Lightnin’ Hopkins na John Lee Hooker. Dyma fideo ohoni, gyda’r geiriau o dan y fideo.
(Os hoffech chi weld holl fideos Parti Nadolig Bragdy’r Beirdd, gan gynnwys Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Hywel Pitts a Heather Jones hefyd, ewch draw i bragdyrbeirdd.com neu i sianel YouTube Bragdy’r Beirdd.)
Y Felan Fawr
Mae Tachwedd wedi dod, mae o wedi ‘nghael i lawr,
Mae Rhagfyr wedi baglu am fod o’n yfed tan ddaw’r wawr,
ac fe glywais i fod Cymru i gyd
yn dioddef o dan y felan fawr.
Mae ‘na olau yn y Senedd – ond mae’r Bae yn ddu a llwm:
pob gwleidydd a phob gwerinwr wedi cael eu bwrw’n drwm
ac er mwyn ysgafnhau baich tywyllwch
mae’n rhaid cwyno am Bobol y Cwm.
Mae hi’n farrug yn Nhreganna; mae Sioni Rhew yng Nghatays;
mae cynhesrwydd bob tro’n costio, diwedd y gân ydi’r gwres.
Ond mae’r Canghellor a’i gronis
heno wrth y tân yn cyfri’r pres.
Hwyr yw’r tren i’r orsaf, erbyn mynd mae’n hwyrach fyth
a phan fydd deilen ar y cledrau, neu pan fydd lîfer y giard yn stiff,
byddai’n amau os yw gwasanaethau
trenau Cymru’n ddim ond myth.
Ni fydd eleni ‘fawr o Ddolig, fydd dim anrhegion i’r holl blant,
mae Santa’n sgint ers mis Ionawr ar ôl cael pay-day loan at ein chwant
a llog ar hwnnw o ddim llai na phymtheg mil
saith cant wyth deg a naw y cant.
Pwy sy’n dŵad dros y bryn? Does neb yn dŵad dros y bryn.
Does dim hyd yn oed ffycin bryn, am fod y bydjets yn rhy dynn,
a rhaid bod ychydig yn fwy o ffŵl na’r arfer
os wyt am ofyn pam nad yw’r eira’n wyn.
Mae’r rhod wedi troi unwaith eto, a’r ha’ wedi hen fynd o’r byd,
mae tim rygbi Cymru’n gollwyr, ac mae Gwydion wedi colli’i hud
does dim dianc pan fo’r wlad
yn llawn o’r blŵs o Lanrwst i Lanrhystud.
“Ceisia wenu”, medd fy ffrindiau; “mae blwyddyn newydd fawr ar droed”.
A “dydi fory heb ei gyffwrdd”, ond mae’r blŵs yn fanno hyd yn oed.
Am nad yw ddoe na heddiw na ‘fory’n
mynd i ddod â’r byd ‘ma at ei goed.
Mae Tachwedd wedi dod, mae o wedi ‘nghael i lawr,
Mae Rhagfyr wedi baglu ar ôl cael bendar tan y wawr,
ac fe glywais i fod Cymru i gyd
yn dioddef o dan y felan fawr.
Does dim dwywaith fod Cymru i gyd
yn dioddef o dan y felan fawr.