Eira, Cariad.

Maddeuwch i mi am led-fenthyg teitl cyfrol o farddoniaeth gan Geraint Jarman fel pennawd i’r cofnod hwn, ond mae’n addas iawn i’r hyn sgen i i’w rannu efo chi!

Oherwydd y tywydd oer gaeafol dros y dyddiau diwethaf a hynny hefyd yn y dyddiau yn arwain at ddydd nawddsant y cariadon yfory, fe gefais fy atgoffa o bennill bychan a gyfansoddais rai blynyddoedd yn ôl bellach.

Mewn cawod eira daliais bluen,
yn fy llaw yr oedd hi’n glaerwen.
Yr harddaf oedd i’m llygaid innau
ond yno hefyd toddodd hithau.

Ar y pryd, wnes i ddim meddwl llawer ohono. Yn ddigon syml, mi wnaeth y peth ddigwydd go iawn ac mi sgwennais amdano. Dwi ddim yn cofio meddwl yn ormodol am ystyr arall i’r geiriau ar y pryd, ond mae’n rhaid ei fod yno yn rhywle.

Mae’r ystyr arall hwnnw bellach yn rhywbeth hoffwn i drio ei archwilio ymhellach, a rhoi mwy o gig ar asgwrn na dim ond un hen bennill bychan. Achos mae na ddwy ochor i gariad hefyd. Mae na ochor ddinistriol i gariad. Cyfaddawd, weithiau, ydi cariad. Mae’n rhaid colli pethau eraill i ennill cariad. Dro arall mi all cariad achosi mwy o boen neu ofid nac o hapusrwydd. Cariad sy’n goresgyn marwolaeth. Ond eto hwnnw sy’n gwneud colled yn beth mor greulon. Dyna ydi’r drefn.

Dwi’n gwybod nad ydi hyn yn rhamantus iawn. Tydw i ddim yn awgrymu i unrhyw un geisio gosod y pennill hwn mewn cerdyn Santes Dwynwen i’w cymar!

Ond dyna sydd ar fy meddwl.

Llawenhewch a gobeithio y cewch ddathlu Dydd Santes Dwynwen yng ngwmni person (neu’r personau!) sydd agosaf at eich calon.

Yn gariadus,

O

 

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *