Cadwch eich blydi xips!

Os byddwch chi erioed wedi yngan y geiriau chips, chili neu tsiaen, ac yna wedi troi at bapur a beiro neu sgrin gyfrifiadur i nodi’r geiriau yna mewn brawddeg ‘gywir’ Gymraeg – byddwch chi yn siŵr o fod wedi ffeindioch hun yn teimlo bod rhaid sillafu’r geiriau hyn, yn Gymraeg, fel tsips, tsili neu, wel, […]

Map Etholiadol Cymru

Anaml iawn y mae mapiau yn dweud celwydd. Roedd edrych ar fapiau etholiadol Prydain a Chymru yn brofiad anodd y bore ma. Mae llwyddiant ysgubol y Torïaid (a methiant dybryd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol) yn Lloegr yn golygu mai mwy o’r un peth sydd yn ein disgwyl. Roedd parhad ystyfnig cefnogaeth y Blaid Lafur (er gwaetha’r cwymp

Ymateb Mike Parker

Gwlad y Menyg Gwynion

Mae ‘na ddelwedd o Gymru sydd wedi goroesi, sy’n gyfleus iawn i rai carfannau. Mae’n codi’i ben yn aml yn y byd gwleidyddol, pan fyddwn ni’n cael ein hannog yn aml i roi ein barn i blesio eraill, i ategu rhyw bwynt (mae’r Cymry’n cytuno!), neu chwarae’r Plwmsan i Wynff rhywun arall. Ar ôl i’r baw

I Lawr i Rio Dulce

Y llynedd es am dro i Guatemala yn America Ganol. Cefais un daith fws hunllefus o hardd a hir, o ganoldir mynyddig y wlad, lle bûm yn aros mewn cwt diwaliau yn jwngl Lanquin, yr holl ffordd i Rio Dulce, tref ar lan afon o’r un enw, a honno â’i haber ym Môr y Caribi yn