Cadwch eich blydi xips!

Os byddwch chi erioed wedi yngan y geiriau chips, chili neu tsiaen, ac yna wedi troi at bapur a beiro neu sgrin gyfrifiadur i nodi’r geiriau yna mewn brawddeg ‘gywir’ Gymraeg – byddwch chi yn siŵr o fod wedi ffeindioch hun yn teimlo bod rhaid sillafu’r geiriau hyn, yn Gymraeg, fel tsips, tsili neu, wel, tsiaen. 

Ond onid oes na rywbeth hynod annigonnol yn y cyfuniad ‘ts’ i gyfleu’r sain yma? Ydi hi’n amser i ni sy’n defnyddio’r Gymraeg gydnabod bod peth wmbreth o eiriau yn yr iaith bellach sy’n gofyn addasiad bach i’n wyddor er mwyn ystwytho’r iaith.

Mae x yn un o’r llythrennau hyblyg hynna sy’n cyflawni sawl swyddogaeth mewn gwahanol ieithoedd, a Sbaeneg yn enghraifft dda o “x” yn gwneud gwahanol sieniau i’r ‘cs’ yr ydym ni wedi arfer â hi.

Felly beth amdani, ieithyddion? A gawn ni fabwysiadu’r ‘x’?

Mae gan y Gymraeg tipyn bach o glix,
sy’n ymdebygu i technical hix.

Nid yw swn x yn rhan o’n hieitheg
a dydi ts, ddim cweit yn taro deuddeg.

Mabwysiadwn yr X, nid fel y sain yn ‘secsi’,
ond fel yn Xeina, neu fel yn Xili.

Dychmygwch y byd sy’n ein gwixiad tu draw
Os awn tua’r gorwel gan ffarwelio â “Xiao!”

Fe awn i’r Almaen a wir sprechen Deux
yn hyderus na fydd ein lleferydd yn boix.

Yna yn Berlin awn Xeckpoint Xarlie
Cyn xecio i fewn i hedfan i Soxi.

Cawn fwyta xips, a bwyta naxos
a bwyta xocled hefo xurros.

Wrth estyn llwncdestun, fe ddwedwn ni xîrs
efo’n cyfeillion o Saeson cyn yfed bîrs.

Arddel o’r diwedd y Tywysog Xarlie,
Newidiwn ein meddyliau a chefnogi Xelsea.

Cawn ni ganu Swît Xariot os ydan ni isho,
a dwedyd tîxar yn lle dweud athro.

Ymunwn â’r ddau Frank a dweud “xwffin ‘ec!”
‘Does raid teimlo’n chwithig wrth arwyddo xiec.

Cawn ddweud “Hello!” wrth Lionel Rixie
Cawn siarad am eraill yn ofnadwy o bixi.

Fyddan ni’n gwybod be sy’n safonol a be sy’n xîp,
Pwy sy’n Prins Xarming a phwy sy’n crîp.

Ffeindiwn ystyron newydd yn ngweithiau Xaucer
Bwytawn apricoxan mewn gig Neil Rosser.

Mynd i Maxu Pixu a thanio maxus
Ymwisgwn fel xavs a byw yn gyffyrddus.

Ar Pobol y Cwm bydd pawb di blino’n xwps
ar ôl chwarae ex-a-skex wrth eista ar eu twll pwps:

Ar ôl bod yn y toiled a chymryd y straen
Cawn ni wenu yn braf wrth dynnu’r xiaen.

Yn lle dweud ‘iawn mêt?’, cawn ddeud ‘iawn xîff?’
cawn fwyta xoritso wrth xilio’n tenerîff.

Cawn ni dreulio’r haf yn siarad cachu rwx,
yn rhannu cariad rhydd a chynnig cwx!

Yn wir, Gymry, mae xians yn ein haros
os byddwn ni’n maxo, yn ddewr fel y gauxos.

Os rhown X yn secsi ar wyneb ein arwyddion
Bydd y Gymraeg hyd byth yn xwffin’ xiampion.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *